Part of the debate – Senedd Cymru am 3:30 pm ar 6 Chwefror 2018.
Mae'n barn ni fel plaid a Llywodraeth yn hollol glir, ac rwyf wedi gwneud hynny'n glir hefyd, wrth gwrs, i gymdogion yn Llundain. Ynglŷn â beth ddywedodd e ynglŷn â'r diwydiant—os taw 'diwydiant' yw'r gair—defaid, mae'n hollol wir, wrth gwrs, bod ffermio yn rhan ganolog o fywyd cefn gwlad, ac, wrth gwrs, mae ffermio yn gallu effeithio ar gymaint o bethau fel yr amgylchedd a sicrhau bod cefn gwlad yn cael ei gadw yn y ffordd y byddem ni eisiau. Yr ofn sydd gen i yw: mae hi'n bosib, wrth gwrs, rhoi mwy o arian i ffermwyr, ond achos y ffaith y bydden nhw'n colli siẁd gymaint o'u marchnadoedd, nid ffermwyr fyddan nhw ragor, ac nid ffermio byddan nhw'n ei wneud. Byddem ni'n colli'r traddodiad yna. Byddai llai ohonyn nhw, yn colli'r traddodiad yna, byddai natur bywoliaeth y bobl sy'n byw yng nghefn gwlad yn newid, ac ni fyddai ffermio yn rhan o'u bywydau nhw.
Ynglŷn â'r fframweithiau, mae'r gwaith yn symud ymlaen yn dda. Mae lot fawr o drafod wedi bod rhwng y llywodraethau. Nid ydym mewn sefyllfa eto lle mae yna gytundeb, ac wrth gwrs, fel y dywedais i, mae hwn yn rhywbeth sy'n gorfod cael ei ystyried wrth edrych ar y sefyllfa gyda'r Bil ei hun.
Gyda Gibraltar, mae e'n wahanol, achos mae'n rhaid inni gofio bod Gibraltar tu fas i'r undeb tollau. Mae yna ffin galed iawn yn Gibraltar, a byddwn i ddim yn moyn gweld hwnna'n digwydd yng Nghymru. Mae hynny'n dangos beth sy'n digwydd os ydych chi tu fas i'r undeb tollau. Ac os yw unrhyw un eisiau gweld beth yn gwmws sy'n digwydd os mae yna un tirwedd tu fewn i'r undeb tollau ac un tirwedd tu fas, ewch i Gibraltar ac fe gewch chi weld. A dyna beth mae pobl yn trio ei osgoi ynglŷn ag Iwerddon. Os bydd hynny'n digwydd yn Gibraltar, yma mha ffordd ydych chi'n osgoi hynny yn Iwerddon? Wrth gwrs, cwestiwn sydd heb gael ateb eto.
Ynglŷn â chael rhyw fath o bleidlais ar y Bil masnach, nid wyf yn gweld problem gyda hynny o gwbl. Rwyf wedi dweud sawl gwaith ei bod yn hollbwysig bod sêl bendith y Cynulliad ynglŷn â beth yw'r fframweithiau ar ddiwedd y dydd, beth mae Brexit yn edrych fel, ac, wrth gwrs, mae'n hollbwysig bod y Cynulliad yn mynegi barn ynglŷn â beth bynnag sydd yn digwydd gydag unrhyw fath o gytundeb ynglŷn â masnach.