4. Datganiad gan y Gweinidog Tai ac Adfywio: Mynd i'r Afael â Chysgu ar y Stryd a Digartrefedd

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:57 pm ar 6 Chwefror 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rebecca Evans Rebecca Evans Labour 3:57, 6 Chwefror 2018

(Cyfieithwyd)

Diolch ichi am y cwestiynau hynny. Credaf ei bod hi yn bwysig ein bod yn dal sylw, ar yr ochr ataliol, ond hefyd ar agweddau mwy amlwg digartrefedd, os mynnwch chi, o ran mynd i'r afael â chysgu ar y stryd.  

Mae ein dull gweithredu ataliol wedi bod yn llwyddiannus iawn. Ers i'r Ddeddf Tai ddod i rym llai na dwy flynedd yn ôl, mae 13,000 o deuluoedd neu 13,000 o aelwydydd wedi osgoi digartrefedd o ganlyniad i'r hyn a wnaed mewn ymateb i ofynion deddfwriaethol y Ddeddf. Felly, credaf fod hynny yn dangos y bu'r Ddeddf yn llwyddiannus iawn o ran atal pobl rhag colli eu cartrefi neu ddod yn ddigartref. Ond, yn amlwg, mae llawer mwy o waith yn dal i'w wneud hefyd.

O ran yr angen blaenoriaethol, fe gofiwch chi, yn y ddadl a gawsom ni ynglŷn â'r mater hwn dros y mis neu ddau diwethaf, fe wnes i ddweud fy mod yn barod i adolygu'r ddeddfwriaeth ynglŷn â'r angen blaenoriaethol a sut mae'n gweithio ar gyfer pobl sy'n cysgu ar y strydoedd a rhai grwpiau agored i niwed yn benodol. Rwy'n credu bod angen inni sicrhau bod yn rhaid i unrhyw weithredu ac unrhyw benderfyniad a wneir fod yn seiliedig ar dystiolaeth, a dyna pam fy mod i'n edrych ymlaen at y gwerthusiad annibynnol ynglŷn â sut y gweithredwyd Deddf Tai (Cymru), ac mae hynny wedi ei gomisiynu gan Brifysgol Salford. 

Mae gennym ni ddarn arall o waith ar y gweill, y disgwyliwn iddo weld golau dydd yn gynnar eleni, gan Brifysgol Glyndŵr Wrecsam sy'n edrych yn benodol ar effaith y ddeddfwriaeth ar garcharorion a'r rhai sy'n cael eu rhyddhau. A hefyd, mae Shelter Cymru yn gwneud rhywfaint o ymchwil yn Wrecsam, Abertawe, Caerdydd a Chasnewydd, yn cloriannu profiadau pobl sy'n cysgu ar y stryd, felly yn siarad â phobl ar y stryd, gan godi cwr y llen ar yr hyn sydd wedi achosi iddyn nhw gysgu ar y stryd, a sut y gellid bod wedi osgoi eu sefyllfa. Rwy'n credu y bydd pob un o'r darnau hyn o ymchwil yn bwysig iawn o ran sut i ddatblygu'r agenda o ran angen blaenoriaethol.

Rwy'n awyddus iawn bod yn rhaid seilio hyn ar dystiolaeth, oherwydd fe wyddom ni fod y sefyllfa yn yr Alban, er enghraifft, ble diddymwyd yn llwyr yr hyn oedd yn weddill o'r cysyniad o angen blaenoriaethol, wedi cael rhai canlyniadau anfwriadol, er enghraifft, gwthio nifer cynnyddol o aelwydydd i lety amhriodol am gyfnodau estynedig o amser. Felly, rwy'n awyddus i osgoi hynny, mae angen felly i unrhyw beth a wnawn o ran dileu'r angen blaenoriaeth fod yn seiliedig ar dystiolaeth. Wedi dweud hynny, rwy'n cydymdeimlo'n fawr â'r cysyniad hwnnw, oherwydd gwelaf bethau yng ngoleuni'r Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant, sy'n ymwneud â chanolbwyntio ar yr unigolyn a'i anghenion; nid yw'n ymwneud ag ystyried yr unigolyn yn gategori neu yn flwch y gall fod yn perthyn iddo. Felly, rwy'n cydymdeimlo â hynny, ac mae'n rhywbeth yr wyf yn awyddus iawn i ymchwilio iddo ymhellach. 

Mae'r cyllid ar gyfer Tai yn Gyntaf wedi dod drwy ffrwd ariannu o £2.6 miliwn, ac roedd hynny yn ei hanfod er mwyn rhoi'r cyfle, mae'n debyg, i roi rhywfaint o hyn ar ben ffordd, ond rwyf eisiau gweld Tai yn Gyntaf yn rhan greiddiol iawn o'r ffordd arferol y byddem ni'n ymdrin â phobl sy'n cysgu ar y stryd. Felly, ymgais yw hyn mewn gwirionedd i weld sut y gallwn ni wneud hyn yn rhan o becyn a gynigiwn i bobl sy'n cysgu ar y stryd, yn hytrach na phrosiectau arbrofol penodol. Rwy'n credu ein bod ni ar ddechrau taith, yn hytrach nag ar ddiwedd taith ar hyn o bryd. 

Rydym ni gyd o'r un farn, yn ogystal, ynglŷn â'r angen i godi mwy o dai yn gynt. Rwy'n awyddus iawn, fel yr wyf i wedi crybwyll eisoes, i weld sut y gallwn ni ryddhau potensial y sector mentrau bach a chanolig, sydd wedi cael ergyd galed yn y blynyddoedd diwethaf. Rwyf wedi cael cyfarfodydd gyda'r Ffederasiwn Busnesau Bach ac eraill i archwilio'r hyn sy'n rhwystro busnesau bach a chanolig rhag adeiladu. Nid dyna'r ateb cyflawn, oherwydd nid ydyn nhw'n mynd i fod yn adeiladu ar y fath raddfa ag y sydd arnom ni ei hangen, ond rwyf yn credu eu bod nhw'n rhan bwysig o hyn hefyd. 

Rwyf yn pwyso a mesur, hefyd, yr hyn y gallwn ni ei wneud i ryddhau rhai o'r safleoedd sydd gennym ni ledled Cymru y mae oedi yn eu cylch o ran cyflwyno tir ar gyfer tai, gan ystyried tir Llywodraeth Cymru—pa dir allwn ni ei gyflwyno gan Lywodraeth Cymru i gefnogi codi tai hefyd? Felly, mae llawer o waith ar y gweill yn y maes penodol hwnnw hefyd. 

Yr agenda digartrefedd ymysg pobl ifanc a'r £10 miliwn—rydych chi'n gywir bod yr arian hwnnw yn berthnasol i 2019-20. Fel yr wyf i wedi dweud o'r blaen, rwy'n awyddus i glywed yr holl syniadau ynghylch yr hyn y mae angen inni fod yn ei wneud mewn gwirionedd i fynd i'r afael â digartrefedd ymhlith pobl ifanc. Roeddwn i'n bresennol yn lansiad yr ymgyrch roi terfyn ar ddigartrefedd ymysg pobl ifanc, lansiad y glymblaid yng Nghanolfan Mileniwm Cymru. Roedd hi'n glir iawn yn y lansiad nad oedd a wnelo hyn â'r Llywodraeth yn unig, nid yw'n ymwneud ag un neu ddau sefydliad, mewn gwirionedd, mae'n llawer ehangach na hynny. Mae'n ymwneud â'r sector tai yn ei gyfanrwydd. Ond, yn y lansiad, roedd hi'n glir iawn bod angen i'r glymblaid hon gynnwys busnesau lleol, mae angen iddi gynnwys elusennau y tu hwnt i'r sector tai, felly rwy'n awyddus iawn i gynnwys cynifer o bobl â phosib, gan fod digartrefedd ymysg pobl ifanc yn rhywbeth y dylai pob un ohonom ni fod yn bryderus yn ei gylch. Felly, os oes sefydliadau ac unigolion sydd wedi dweud wrthych chi eu bod yn pryderu, efallai, nad ydyn nhw'n cael eu cynnwys i'r graddau y gallant fod, ac na fanteisir ar eu brwdfrydedd a'r hyn y maen nhw'n ei gynnig, yna buaswn yn sicr yn awyddus i gysylltu â nhw i weld sut y gallwn ni weithio gyda'n gilydd hefyd. 

Fe wnaethoch chi sôn am y mater o iechyd meddwl gwael hefyd, ac fe wyddom ni fod cysylltiad cryf rhwng iechyd meddwl a digartrefedd. Credaf fod oddeutu 40 y cant o bobl ddigartref yn debygol o fod yn defnyddio adrannau damweiniau a gwasanaethau brys fel eu cam cyntaf o ddod i gysylltiad â'r gwasanaeth iechyd, ac mae hynny, mewn gwirionedd, yn nifer enfawr o bobl nad ydyn nhw'n cael unrhyw fath o gymorth parhaus, hirdymor gan y system iechyd. Felly, mae'n amlwg bod angen inni fod yn bwrw ymlaen â gwaith i'r perwyl hynny, ac mae hi yn amcan yn ein cynllun cyflawni iechyd meddwl er mwyn galluogi pobl sydd ag afiechyd meddwl i allu elwa mewn modd teg ar gymorth yn ymwneud â thai a materion cysylltiedig, ac i annog pobl ddigartref a'r rhai mewn cartrefi a llety ansicr i ddefnyddio'r gwasanaeth iechyd. Felly, mae hynny'n ddarn o waith yn amlwg y mae angen inni fod yn rhoi llawer o ymdrech iddo, ac mae'n ddarn o waith, hefyd, y mae Tai yn Gyntaf yn amlwg yn cydweddu'n dda iawn ag ef, yn yr ystyr ei fod yn ymwneud â chael to uwchben rhywun yn gyntaf ac yna adeiladu'r pecyn cymorth hwnnw o'u cwmpas, er mwyn eu helpu i symud ymlaen â'u bywydau ac ymdrin â llawer o'r materion hynny, fel y gwyddom ni, y mae pobl ar y stryd yn aml yn eu hwynebu.