Part of the debate – Senedd Cymru am 4:07 pm ar 6 Chwefror 2018.
Diolch yn fawr iawn ichi am y cwestiynau hynny. Mae Mike Hedges yn llygad ei le i nodi, mewn gwirionedd, pan rydym ni'n sôn am ddigartrefedd, nad ydym ni'n sôn yn unig am gysgu ar y stryd, er mai dyna ydy'r elfen weledol ohono. Mae amcangyfrifon yn awgrymu y gallai fod 30 o bobl yn mynd o soffa i soffa neu mewn mathau eraill o lety dros dro ar gyfer pob person y gwelwn ni yn cysgu ar y stryd. Pan rydym ni'n gofyn i bobl beth yw'r rhesymau y daethon nhw yn ddigartref, mewn gwirionedd, yn aml, mae hynny oherwydd nad yw rhiant neu ffrind neu berthynas yn fodlon rhoi cartref iddyn nhw dim mwy. Felly, i lawer o bobl, er bod ganddyn nhw do uwch eu pen heno, mae'n un ansicr, ac fe allai eu sefyllfa newid ar unrhyw adeg.
Roeddwn i hefyd yn falch bod Mike wedi sôn na ddylem ni fod yn feirniadol o bobl sy'n cysgu ar y stryd a phobl a welwn ni ar y strydoedd, oherwydd rwy'n awyddus iawn ein bod yn ymdrin â hyn mewn ffordd sy'n rhoi ystyriaeth i drawma, a'n bod yn ystyried profiadau plentyndod andwyol. Mae unrhyw berson yr wyf i wedi siarad â nhw sydd wedi bod mewn sefyllfa o fod yn ddigartref, neu sy'n camddefnyddio sylweddau, mewn gwirionedd, y math o stori sydd wedi eu harwain at fod yn y sefyllfa y maen nhw ynddi nawr yn rhywbeth y byddai ychydig iawn ohonom ni yn gallu ymdopi ag ef, felly credaf ei bod hi'n gwbl briodol tynnu sylw at ddifrifoldeb y materion sy'n arwain at gysgu ar y stryd a chamddefnyddio alcohol a chyffuriau hefyd.
Cytunaf yn llwyr fod angen inni adeiladu mwy o dai cyngor. Rwy'n awyddus, hefyd, ein bod yn sicrhau bod y cynghorau hynny sy'n barod i adeiladu, yn gallu adeiladu ac yn barod i gychwyn arni yn gallu gwneud hynny. Fe wn i fod rhai o'n hawdurdodau lleol wedi cyrraedd eu terfyn benthyca bellach, a gosodir y terfyn benthyca gan y Trysorlys. Felly, mae angen gwneud dau beth yma: un yw gweld beth y gallem ni ei wneud, mewn partneriaeth ac mewn cytundeb ag awdurdodau lleol, i drosglwyddo peth o'r benthyciadau sydd heb gael eu defnyddio gan rai awdurdodau lleol i awdurdodau lleol sydd wedi cyrraedd eu terfyn benthyca ond sydd yn dal yn gallu ac yn awyddus i wneud mwy. A hefyd, gweld beth y gallwn ni ei wneud er mwyn sicrhau bod y terfyn ar fenthyca, a gynyddwyd yn Lloegr—y cawn ni gynnydd cymharol cyffelyb i'n terfyn benthyca ni hefyd. Mae'r trafodaethau hynny yn digwydd ar hyn o bryd.
O ran llochesi nos, rydym ni wedi darparu cyllid ar gyfer 40 lle gwely ychwanegol ledled Casnewydd, Wrecsam, Abertawe a Chaerdydd, a byddant yn ymddangos ar-lein dros yr wythnosau a'r misoedd nesaf. Fodd bynnag, fe wyddom ni hefyd, ar unrhyw noson, bod gwelyau gwag mewn llochesi nos, ac mae hyn yn bryder penodol i mi: y ceir pobl sy'n dewis cysgu ar y stryd yn hytrach na defnyddio'r lloches nos. Mae'r rhesymau dros hynny yn amrywiol. Er enghraifft, nid yw rhai pobl eisiau cadw at rai o'r amodau llymach sydd o bosib mewn grym mewn rhai llochesi nos. Bydd pobl eraill sydd wedi cael eu gwahardd o'r llochesi nos ar sail ymddygiad blaenorol. Nid yw eraill eisiau mynd i'r llochesi nos oherwydd eu bod yn eu gweld yn fannau lle ceir camddefnyddio sylweddau o fathau amrywiol, ac maen nhw eisiau cadw'n glir oddi wrth hynny i gyd. Mewn achosion eraill, efallai nad oes cyfle i ddau gymar aros gyda'i gilydd neu i bobl fod ag anifeiliaid anwes, er enghraifft. Felly, mae amrywiaeth eang o resymau pam nad yw pobl yn aros mewn llochesi nos. Rwy'n credu bod darn o waith inni ei wneud ynghylch hyn, gyda'r sector hefyd. Rwy'n gobeithio y bydd y gwaith y mae Shelter yn ei wneud, yn siarad yn uniongyrchol gyda phobl sy'n cysgu ar y stryd, yn rhoi inni rhai o'r atebion ynghylch beth allai wneud llochesi nos yn fwy deniadol, yn arbennig ar y nosweithiau oeraf.