Part of the debate – Senedd Cymru am 4:41 pm ar 6 Chwefror 2018.
Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei ddatganiad. Mi wnaf i hefyd nodi fy niolch i i Brif Swyddog Meddygol Cymru, Dr Frank Atherton, am ei ail adroddiad o. Mae hi yn bwysig, serch hynny, fy mod i'n tynnu sylw at y ffaith mai datganiad sydd gennym ni ar yr adroddiad yma heddiw, tra yn y gorffennol, yn cynnwys y llynedd, dadleuon rydym ni wedi'u cael ar adroddiad y prif swyddog meddygol, ac mi fyddwn i yn annog y Llywodraeth i fynd yn ôl i'r patrwm hwnnw, a pheidio â gadael i fregusdra balansiau gwleidyddol yn fan hyn benderfynu ym mha fodd mae materion pwysig iawn ynglŷn â iechyd ein cenedl ni yn cael eu trafod yma yn y Cynulliad.
Mi allwn i fynd i sawl maes gwahanol, mewn difrif—bron unrhyw faes o ran iechyd yng Nghymru—yn sgil yr adroddiad yma. Mi wnaf gadw yn fras at yr hyn sydd wedi cael ei grybwyll yn y datganiad ei hun gan yr Ysgrifennydd Cabinet heddiw.
Mae'r datganiad wedi nodi bod yna lawer o ffactorau, wrth gwrs, sydd yn dylanwadu ar iechyd ein poblogaeth ni; mae hynny wedi cael ei drafod ni wn faint o weithiau yn fan hyn. Ond, o bosib, gallai'r adroddiadau yma a'r hyn rydym ni wedi'i glywed gan y Llywodraeth yn gyffredinol roi rhagor o eglurder i ni ynglŷn â gwir effaith llymder a phenderfyniadau gwariant mewn meysydd ar wahân i iechyd ar allbynnau iechyd—bod toriadau i ofal cymdeithasol, tai ac ati, yn doriadau i'r gwasanaeth iechyd yn gyffredinol. Mi fyddwn i'n gofyn am ffyrdd o gael gwerthusiad i fesur yn union beth ydy effaith y toriadau hynny ar y gwasanaeth iechyd yn y dyfodol.
Mi symudaf i at brif gorff y datganiad heddiw yma, sef gamblo. Mae'r adroddiad yn bwrw goleuni ar y problemau sy'n cael eu hachosi gan bobl yn mynd yn gaeth i gamblo. Mae o'n nodi y cynnydd sydd yna mewn hysbysebion teledu ar gyfer betio. Wrth gwrs, rydym ni'n ymwybodol hefyd o'r rhagrith o'r gymdeithas bêl-droed yn Lloegr yn gwahardd chwaraewyr rhag gamblo ar gemau tra'n derbyn nawdd mawr iawn gan gwmnïau gamblo ar yr un pryd.
Mae'ch datganiad chi, Ysgrifennydd Cabinet, yn dweud eich bod chi'n gresynu bod gamblo yn cael ei reoleiddio ar lefel Brydeinig. Rydw i'n cytuno, pan mae rhywbeth yn cael ei reoleiddio ar lefel Brydeinig, bod hynny'n destun gresynu yn aml iawn, achos yn aml iawn mae o'n golygu bod rheoleiddio'n digwydd er budd diwydiant yn hytrach na'r cyhoedd, ac rydw i'n gobeithio y byddai hynny'n rhywbeth y gallwn ni edrych arno fo yng Nghymru yn y dyfodol. Ond mae yna rai pethau y gall y Llywodraeth ei wneud. Mae adroddiad y prif swyddog meddygol yn nodi bod Deddf Cymru yn rhoi pwerau i Weinidogion Cymru mewn perthynas â fixed-odds betting terminals er mwyn lleihau y stake uchaf o £100 i £10 ar gyfer peiriannau categori B2. Fy nghwestiwn cyntaf, am wn i: a fyddwch chi'n gwneud hynny? A ydy hynny'n rhywbeth y byddech chi'n dymuno ei wneud?
Hefyd, mae yna bwerau sydd ar gael i lywodraeth leol pan mae’n dod at roi caniatâd cynllunio ar gyfer newid defnydd siopau i siopau betio. Mae ymchwil yn fan hyn mewn perthynas â thrafodaethau ar Ddeddf bosib ar gynhwysiant ariannol wedi canfod bod llawer o awdurdodau lleol yn ofalus iawn ac yn bryderus am ddefnyddio pwerau sydd ganddyn nhw i gynyddu niferoedd y siopau betio, rhag ofn i gamau cyfreithiol, o bosib, gael eu cymryd yn eu herbyn nhw. A fyddwch chi, neu a wnewch chi ofyn i’r Ysgrifennydd llywodraeth leol roi rhagor o eglurder a sicrwydd i lywodraeth leol sydd eisiau cymryd camau i atal y cynnydd sydd wedi bod yn nifer y siopau betio?
Mi wnaf i orffen, os caf i, drwy gyfeirio at yr hyn a ddywedoch chi ynglŷn â hepatitis C. Fel un o bencampwyr hepatitis C yma yn y Siambr—fi a nifer o Aelodau—mae’n dda gweld bod Cymru ar y blaen yn y maes yma, ac yn aml iawn y broblem rŷm ni’n ei hwynebu ydy darganfod y bobl sydd â hepatitis C—darganfod digon o gleifion i ddod drwy ein system ni. Mae’n broblem braf i’w chael, ond mae hi’n broblem sydd angen ei datrys. A gaf i ddefnyddio’r cyfle yma, fel rydw i ac Aelodau eraill yn chwilio am gyfleoedd eraill hefyd yn aml iawn, i bwyso arnoch chi i wneud datganiad eto heddiw, o bosib, ynglŷn â’r angen i fod hyd yn oed yn fwy uchelgeisiol yn yr angen inni symud ymlaen at gael gwared ar hepatitis C yng Nghymru?