Part of the debate – Senedd Cymru am 5:39 pm ar 6 Chwefror 2018.
Ie, wir. Rwy'n hapus iawn i groesawu'r holl gyfraniadau y mae Jane Hutt wedi tynnu sylw atyn nhw, yn arbennig yn y Barri a'r Fro; maen nhw'n ardderchog. Ceir nifer o arddangosfeydd ardderchog fel hyn ledled Cymru wrth gwrs. Mae'r cynllun grant a gyhoeddaf heddiw, yn wir, yn mynd i helpu pobl i gadw'r arddangosfeydd hynny yn y dyfodol neu i'w datblygu mewn unrhyw ffordd y gwelan nhw'n dda i wneud hynny. Dylwn i fod wedi ymateb i Siân Gwenllian, ond rwyf am ei ddweud yn awr: nid ydym yn edrych ar amserlen fer i gyflawni hyn. Rydym yn tybio y gweithredir llawer o'r cynlluniau hyn tua ddiwedd y flwyddyn pan fydd rhai o'r dathliadau canmlwyddiant eraill ar fin digwydd. Canmlwyddiant y bleidlais wirioneddol gyntaf, er enghraifft, yw mis Rhagfyr, ac ati. Felly, mae eleni yn flwyddyn gyfan o ddathlu. Ceir rhai cynlluniau yn y DU sydd ar waith ar hyn o bryd ac rydym yn eu hannog i fynd yn eu blaenau. Felly, nid wyf yn edrych ar gyfnod byr o amser; byddwn yn rhoi cyfnod rhesymol o amser i bobl er mwyn iddyn nhw gael y grantiau ynghyd a rhywfaint o gymorth i wneud hynny.
Mae hyn yn ymwneud ag ymdrin â nifer fawr o'r materion sydd newydd eu codi ynghylch gwneud yn siŵr bod cyfraniad menywod yn cael ei gydnabod a'r patrymau ymddygiad yn cael eu cydnabod, gyda'r holl gynlluniau sydd ar y gweill i annog menywod ifanc yn benodol i ddod ymlaen a chael eu gweld mewn bywyd cyhoeddus. Nid yw hyn yn golygu fel gwleidydd etholedig yn unig, ond eu bod yn cael eu gweld mewn bywyd cyhoeddus hefyd. Felly, mae'r cynghorwyr benywaidd yn bwysig iawn, ond yn wir, mae'n bwysig iawn eu bod yn cael eu gweld ar fyrddau cyhoeddus ac yn amlwg ar fyrddau elusennau ac ati, fel bod menywod yn cymryd eu priod le ym mywyd cyhoeddus. Gwyddom unwaith y cawn y gynrychiolaeth honno i ddechrau, yna bydd pethau megis ysbyty mamolaeth ac ati yn cyflymu'n sydyn i fyny'r agenda, ac yn gwbl briodol felly. Dyna'n rhannol beth yw ystyr hyn; creu prosesau gwell o wneud penderfyniadau a chael arferion cyflogaeth sy'n llai cyfyng a bod mwy o drefniadau sy'n gefnogol ar gael nid yn unig i fenywod, ond i lawer o bobl â nodweddion gwarchodedig eraill. Mae hyn yn bwysig iawn er mwyn dod ag amrywioldeb mewn bywyd cyhoeddus i'r amlygrwydd a ddylai fod ganddo yng Nghymru.