Part of the debate – Senedd Cymru am 5:41 pm ar 6 Chwefror 2018.
Diolch ichi am eich datganiad, arweinydd y tŷ. Gan mlynedd yn ôl i heddiw, daeth yr hawl y gwnaeth llawer o fenywod ymladd ac aberthu llawer er ei mwyn yn ddeddf; o'r diwedd, cafodd menywod yr hawl i bleidleisio ar ôl blynyddoedd lawer o ymdrech. Mae'r ffaith fod menywod wedi ennill yr hawl i bleidleisio yn tystio i waith caled ac aberth y swffragetiaid a'u cynghreiriaid, y tu mewn a'r tu allan i'r Senedd. Pan bleidleisiodd y 8.5 miliwn o fenywod hynny yn etholiad cyffredinol Rhagfyr 1918, roedden nhw'n defnyddio'r hawl i benderfynu pwy fyddai'n rheoli eu gwlad a nhw eu hunain. Gallai pleidlais fy hen fam-gu a phleidlais y rheini o'i chenhedlaeth hi benderfynu pwy fyddai'n rheoli polisi masnach y dyfodol, polisi amaethyddol a physgodfeydd, polisi economaidd, y cyfreithiau cystadlu, cyfreithiau cwmni a phob maes arall o lywodraethu. Dyna'r hyn yr ymladdodd y swffragetiaid drosto. Ond ychydig mwy na 50 mlynedd wedi i fenywod bleidleisio am y tro cyntaf yn y wlad hon, dechreuodd ein Llywodraeth wanhau ein pleidlais a'i rhoi i ffwrdd, o dipyn i beth, ynghyd â llywodraethiad ein gwlad, i fiwrocratiaid anetholedig.
Mae'r bleidlais a ddefnyddiwyd gan fy nghenhedlaeth i o fenywod yn awr yn amodol ar gymwysterau. Nid yw'n effeithio ond ar y cyfreithiau a'r polisïau hynny nad ydyn nhw wedi cael eu penderfynu gan yr Undeb Ewropeaidd. Gallwn newid y sawl sy'n penderfynu ar sut y mae ein GIG yn darparu gwasanaethau, ond nid a yw TAW yn cael ei godi ar damponau. Ni ofynnodd neb i fenywod o 'm cenhedlaeth i ai dyna'r hyn a fynnem. Rwy'n siŵr y bydd llawer o'r Aelodau yn siarad yn wresog am y cam ymlaen gogoneddus a gafwyd 100 mlynedd yn ôl i heddiw, fel yr oedd hynny, wrth gwrs. Caiff plant ysgol eu synnu'n aml pan maent yn dysgu nad oedd gan fenywod y bleidlais erioed. Nid ydyn nhw'n dirnad pam y buasai unrhyw un yn credu ei bod yn dderbyniol i adael i'r ychydig wneud yr holl benderfyniadau. Ond yn y lle hwn, ac yn San Steffan, mae gennym wleidyddion sy'n hapus i'r hawliau i bleidleisio, y bu'r fath ymdrech i'w hennill, gael eu hanwybyddu fel y gellir gwneud y penderfyniadau gan fiwrocratiaid anetholedig, nad oes modd eu cyrraedd na'u cyffwrdd â nhw. [Torri ar draws.]
Felly, er, wrth gwrs, fy mod innau'n dathlu 100 mlynedd o fenywod yn cael y bleidlais, rwyf hefyd yn dathlu'r bleidlais Brexit ragorol pan bleidleisiodd menywod a dynion Cymru i adennill grym eu pleidlais. Os nad ydym am ganiatáu i'r frwydr, yr anafiadau, y marwolaethau a'r aberthau aruthrol a wnaeth y mudiad pleidlais i bawb fynd yn wastraff, ac os nad ydym yn awyddus i fenywod a dynion hefyd golli grym eu pleidlais, mae'n rhaid ichi sicrhau Brexit priodol ac ailwladoliad llawn ein llywodraeth. Mae adennill grym ein pleidlais yn barhad o frwydr y swffragetiaid 100 mlynedd yn ôl. Felly, fy nghwestiwn mawr i yw hwn—[Torri ar draws.] Roeddech yn gwybod y byddwn i'n dod ato. Mae gosod placiau, dathlu menywod nodedig a rhoi grantiau yn burion, ond sut rydych yn mynd i ail-rymuso menywod yng Nghymru? A sut fyddwch yn sicrhau yn y dyfodol y bydd eu pleidlais yn golygu cymaint ar ôl Brexit ag yr oedd 100 mlynedd yn ôl? Diolch.