2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol – Senedd Cymru ar 7 Chwefror 2018.
1. Yn dilyn y gwrandawiad diweddar yn yr Uchel Lys, pa gyngor cyfreithiol y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i baratoi ar gyfer Llywodraeth Cymru i unioni'r diffyg gweithredu anghyfreithlon ar lygredd aer? OAQ51706
Diolch i'r Aelod am ei chwestiwn. Rwy'n llwyr gefnogi ymrwymiad Llywodraeth Cymru i wella ansawdd aer ledled Cymru a'i gwahanol fentrau i fynd i'r afael â llygredd aer yn benodol. Bydd yr Aelod yn ymwybodol, fel y mae'n dweud, o'r achos diweddar yn yr Uchel Lys, a glywyd ar 25 Ionawr, ac y disgwylir dyfarniad yn ei gylch. Mae Llywodraeth Cymru wedi derbyn nad oedd ei chynigion yn cydymffurfio â'r dyletswyddau statudol ac mae'n rhoi camau ar waith i fynd i'r afael â hyn ar unwaith.
Croesawaf y ffaith bod Llywodraeth Cymru wedi cydnabod y broblem ac wedi cyfaddef diffyg gweithredu anghyfreithlon yn hyn o beth, sy'n fwy nag y mae Llywodraeth y DU wedi ei wneud. Yn ôl yr hyn rwy'n ei ddeall, dywedodd y CF sy'n gweithredu ar ran Llywodraeth Cymru, Jonathan Moffett, y bydd Llywodraeth Cymru'n gweithio gyda ClientEarth wrth gwrs i unioni'r diffyg gweithredu anghyfreithlon hwn. Tybed a allech ddweud ychydig mwy wrthym am lefel y brys sydd ei angen i sicrhau na fyddwch yn gorfod mynd i'r Uchel Lys eto. Yn amlwg, mae gennyf lu o syniadau ynglŷn â sut y gallem fynd i'r afael â hyn fel mater o frys, ond byddai'n dda gwybod a ymgynghorir â ni ar hyn. Sut y mae'r camau brys hyn yn mynd i ddigwydd?
Mae cwestiynau'r Aelod yn cynnwys nifer o bwyntiau polisi, a byddai'n amhriodol i mi roi sylwadau arnynt yn benodol, ond mewn perthynas â sut yr aethpwyd i'r afael â hyn yn yr achos llys, a fydd, efallai, yn ateb rhan o'i chwestiwn, oherwydd y ffaith bod Llywodraeth Cymru wedi derbyn nad oedd cynllun 2017 yn cydymffurfio â'i dyletswyddau, gwnaeth y sylwadau hynny yn y llys, ac felly mae'r trafodaethau rhwng ClientEarth a Llywodraeth Cymru yn ymwneud â thelerau'r Gorchymyn caniatâd, sy'n ymgorffori sylwadau Llywodraeth Cymru i'r llys. Dywedodd wrth y llys nad oedd y rhannau hynny o gynllun 2017 a oedd yn rhan o gymhwysedd datganoledig yn cydymffurfio ac nad oedd ganddi'r wybodaeth briodol ar adeg y cynllun i fodelu'n union pa gamau a fyddai wedi sicrhau'r canlyniadau gofynnol.
Mae'r Llywodraeth wedi dweud y bydd ymgynghori'n digwydd ar gynllun ansawdd aer atodol yn fuan iawn, gyda'r bwriad o roi hwnnw ar waith yn ddiweddarach eleni. Ceir rhai ardaloedd sydd o fewn rheolaeth Llywodraeth Cymru a rhai ardaloedd sydd o fewn rheolaeth cyngor dinas Caerdydd a chyngor bwrdeistref Caerffili, ac mae trafodaethau'n parhau gyda'r ddau awdurdod ar hyn o bryd mewn perthynas â chamau penodol i ddatrys y broblem.
Yn amlwg, o’r hyn rydych chi newydd ei ddisgrifio, Gwnsler Cyffredinol, mae’n hynod bwysig i drigolion Cymru gael y mynediad yma i’r Uchel Lys ac i gyfiawnder yn gyffredinol er mwyn dal Llywodraeth Cymru i gyfrif ar lygredd awyr, a hefyd, gobeithio, er mwyn gweld y gwelliant sy’n mynd i ddod yn sgil y prosesau cyfreithiol yma. Nawr, wrth inni adael yr Undeb Ewropeaidd, mae nifer o’r pethau amgylcheddol yma yn dod yn ddiffygiol, mae’n ymddangos i fi, achos ar hyn o bryd mae gan drigolion Cymru fynediad nid yn unig i’r Uchel Lys, ond hefyd i Lys Cyfiawnder Ewrop, yr ECJ, ac mae nifer o achosion pwysig amgylcheddol yn cael eu gwneud drwy’r dulliau hynny, sy’n sicrhau bod dinasyddion yn cael eu hawliau—eu hawliau i amgylchedd glân—yn cael eu cadw a’u diogelu gan y broses gyfreithiol. Pa gamau mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau bod yr hawl parhaol yma, sydd newydd gael ei amlinellu yn yr achosion cyfreithiol yma, yn cael ei gadw yma yng Nghymru wrth inni adael yr Undeb Ewropeaidd?
Fel mae’r Aelod yn sôn, mae amryw o’r hawliau a’r mesurau sy’n gwarchod yr amgylchedd yn deillio o ddeddfwriaeth Ewropeaidd. Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn blaen ein bod ni am weld y rheolau hynny yn parhau i fod yn berthnasol yma yng Nghymru, a bod yr hawl i wneud hynny yn dod yma i’r Cynulliad o dan y setliad datganoli, ac nid yn aros yn San Steffan ar y ffordd. Dyna yw bwriad parhaol y Llywodraeth yma yng Nghymru, er mwyn bod gallu gan bobl i sicrhau bod y safonau hynny yn parhau yng Nghymru.