1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig – Senedd Cymru ar 14 Chwefror 2018.
5. A wnaiff Llywodraeth Cymru gynnal asesiad o'r effaith amgylcheddol yn dilyn y penderfyniad gan Gyfoeth Naturiol Cymru i roi trwydded weithredu ar gyfer y datblygiad Biomass UK No. 2 yn y Barri? OAQ51760
Mae Gweinidogion Cymru wedi rhoi gwybod i ddatblygwr y safle biomas eu bod yn ystyried ei gwneud yn ofynnol iddynt gyflwyno asesiad o'r effaith amgylcheddol ochr yn ochr â'u cais cynllunio sydd gerbron Cyngor Bro Morgannwg ar hyn o bryd. Bydd unrhyw sylwadau a wneir ganddynt yn cael eu hystyried cyn y gwneir penderfyniad terfynol.
Wel, rwy’n croesawu hynny. Credaf fod hynny'n dangos rhywfaint o gynnydd, ond a ydych hefyd yn croesawu, fel finnau, y datganiad ddoe gan Gomisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru ei bod yn ystyried sut y caiff trwyddedau amgylcheddol eu rhoi yng Nghymru gan Cyfoeth Naturiol Cymru? Mae hi wedi ysgrifennu at Cyfoeth Naturiol Cymru i ofyn iddynt ddangos sut y mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 yn cael ei rhoi ar waith mewn perthynas â'r broses drwyddedu amgylcheddol. Bydd trigolion y Barri a'r Fro yn croesawu hyn, gan eu bod yn teimlo bod eu pryderon a'u tystiolaeth ar yr effaith ar iechyd y cyhoedd ac effaith amgylcheddol llosgydd biomas y Barri, a adeiladwyd yng nghanol y Barri, yn agos at eu cartrefi, ysgolion, ysbytai a siopau, wedi cael eu hanwybyddu wrth roi trwydded.
Diolch am eich cwestiwn. Rwy'n deall pryderon y trigolion a'r Aelod, ac yn cydnabod y rhan y mae’r Aelod wedi ei chwarae’n gwneud sylwadau ar y mater hwn ar ran ei hetholwyr.
O ran y cyhoeddiad gan gomisiynydd cenedlaethau'r dyfodol, mae ein canllawiau yn Neddf llesiant cenedlaethau’r dyfodol yn ei gwneud yn glir fod y Ddeddf yn cynnig cyfleoedd i gyrff cyhoeddus ystyried sut y gellir cyflawni dyletswyddau mewn ffordd fwy integredig. Fodd bynnag, mae'n rhaid i gyrff cyhoeddus fod yn hyderus fod eu dyletswyddau statudol perthnasol yn cael eu cyflawni yn erbyn y meini prawf yn y ddeddfwriaeth berthnasol.
Credaf ei bod yn deg dweud, ers imi gael fy ethol i'r sefydliad hwn, o safbwynt Bro Morgannwg, mai llosgydd y Barri, heb os, yw'r ymgyrch fwyaf wedi bod, ac ar draws y pleidiau gwleidyddol, hoffwn ychwanegu. Cymeradwyaf y gymuned o amgylch y llosgydd, a'r gymuned ehangach ym Mro Morgannwg, am y camau a gymerwyd ganddynt i ymladd yr ymgyrch hon. Ond mae yna broblem yn codi ynglŷn ag asesiadau o’r effaith amgylcheddol a'u haddasrwydd. A ydych wedi cael amser, ers ichi ddod yn Weinidog, i fynd i'r afael â'r sefyllfaoedd lle mae angen asesiadau o effaith amgylcheddol? A ydych yn credu bod y model y mae cyrff cyhoeddus yn enwedig, cyrff fel Cyfoeth Naturiol Cymru, yn ei ddilyn ar hyn o bryd yn addas at y diben, gan gofio sylw comisiynydd cenedlaethau'r dyfodol wrth gwrs? Ond yn y pen draw, chi fel Llywodraeth a fydd yn pennu'r paramedrau ar gyfer y canllawiau i gyrff os ydynt yn rhoi asesiadau o'r effaith amgylcheddol ar waith.
Diolch am eich cwestiwn. Gwn, hefyd, fod yr Aelod wedi bod yn uchel ei gloch mewn perthynas â'r mater hwn ac wedi gofyn nifer o gwestiynau o'r blaen ar ran trigolion ac etholwyr.
O ran yr asesiad o'r effaith amgylcheddol, cyfeiria hyn at broses benodol i gydymffurfio â'r gyfarwyddeb AEA, felly pan fo'r AEA yn cael ei gymryd fel rhan o'r cais cynllunio, ac yn gweithredu fel ymgynghorai—[Anghlywadwy.]—mae'r pwynt amgylcheddol yn fater i Cyfoeth Naturiol Cymru, ond mae'n rhywbeth a fydd yn amlwg yn cael ei ystyried yn ei gyfanrwydd hefyd.