6. Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon ar unigrwydd ac unigedd

Part of the debate – Senedd Cymru am 5:09 pm ar 14 Chwefror 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Dawn Bowden Dawn Bowden Labour 5:09, 14 Chwefror 2018

(Cyfieithwyd)

Rwy'n credu y buaswn yn cytuno gyda bron bob un o'r sylwadau sydd eisoes wedi'u gwneud y prynhawn yma. Roedd llawer iawn o gonsensws yn y pwyllgor, a chlywsom dystiolaeth bwerus iawn gan nifer o sefydliadau a chyrff a'n harweiniodd at ein hadroddiad a'r argymhellion ynddo.