Part of the debate – Senedd Cymru am 3:27 pm ar 27 Chwefror 2018.
A gaf i ddechrau drwy ddweud mor dda yw cael Steffan Lewis yn cymryd rhan mewn trafodaethau ar y mater hwn yma y prynhawn yma a chymaint, yn fy marn i, y mae ei gyfraniad hyd yma ac eto heddiw yn ein helpu ni i bendroni ynghylch rhai o'r materion cymhleth iawn a phwysig hyn?
Felly, rwy'n cytuno ag ef y credaf fod ein Bil parhad, y gyfraith sy'n deillio o Fil yr Undeb Ewropeaidd, yn ddarn ystyriol o ddeddfwriaeth, a'i fod yn ddarn angenrheidiol o ddeddfwriaeth i ddiogelu buddiannau datganoli, er nad hynny, fel y dywedais dro ar ôl tro y prynhawn yma, yw ein dewis cyntaf, ond sefyllfa wrth gefn y mae'n rhaid inni allu ei diffinio a'i datblygu.
Sut ydym ni'n deall safbwynt Gweinidogion y DU? Wel, mae'n fater dyrys. Yn sicr, mae anallu yn chwarae rhan, fel hyn o leiaf: fel y dywedaf, fy argraff i o gwrdd â Llywodraeth y DU yw bod yr holl agwedd o adael yr Undeb Ewropeaidd wedi bod yn sioc enfawr i'r system. Y diffyg paratoi ar gyfer y posibilrwydd hwn, y frwydr enfawr i ysgogi'r ymdrech ddeallusol, i gasglu ynghyd y bobl sydd eu hangen arnoch chi, natur y manylder sydd wrth wraidd llawer o hyn i gyd—rydych chi'n cael yr argraff o system sydd bron bob amser mewn peryg o gael ei llethu gan y dasg sydd ganddi. Ond mae rhai lleisiau yn Llywodraeth y DU—ac, fel y gŵyr Steffan Lewis yn dda, nid Llywodraeth yw hi o bell ffordd sy'n siarad ag un llais, ond mae elfennau yn y Llywodraeth honno nad ydyn nhw'n gefnogol i ddatganoli. Er bod ganddyn nhw ffurf ar eiriau y maen nhw'n arfer eu ddefnyddio, yn y bôn maen nhw'n credu bod datganoli yn rhywbeth y rhoddodd Senedd San Steffan inni yn ei haelioni ac y gall gymryd hynny oddi wrthym pan ddaw'n anghyfleustra iddynt. Ac nid dweud yr wyf i bod y lleisiau hynny yn y mwyafrif, ond mae pobl yr ydych chi'n cwrdd â nhw yn Llywodraeth y DU y mae'n amlwg iddyn nhw bod y newid sylweddol yng nghyfansoddiad y Deyrnas Unedig yn sgil datganoli wedi eu gadael ar ôl i bob pwrpas, ac maen nhw'n credu bod ymadael â'r Undeb Ewropeaidd yn gyfystyr â chamu'n ôl mewn amser, ac y byddant rywsut yn gallu ail-greu'r Deyrnas Unedig a oedd yno cyn inni erioed ymuno â hi. Mae hon yn adeg bwysig yn ein hanes, wrth gwrs. Os yw'r Cynulliad Cenedlaethol yn cytuno â'r drefn y bydd y Llywodraeth yn ei chynnig yr wythnos nesaf, byddwn yn treulio mis Mawrth fel deddfwrfa yn gorfod ymwneud yn uniongyrchol â chymhlethdod y Bil parhad, a bydd hynny'n gofyn am ymdrechion pawb yn y Siambr hon i wneud yn siŵr bod y Bil gystal ag y gall fod.
Gadewch imi orffen yr hyn a ddywedaf wrth Steffan Lewis drwy gadarnhau ei gred yn fy ngallu i edrych ar yr ochr orau o bethau. Oherwydd cyn belled ag y mae fframweithiau cyffredin yn y cwestiwn, yna mewn gwirionedd bu llawer iawn o waith manwl ar y gweill ar lefel swyddogol ers i'r broses honno ddechrau. Bellach bu dros 20 o'r hyn a elwir yn sesiynau trochi sy'n cynnwys Llywodraeth yr Alban, ni, Llywodraeth y DU a gweision sifil o Ogledd Iwerddon, ac mae hyd at oddeutu 10 arall wedi eu trefnu ar gyfer mis Mawrth. Felly, mae'n dangos y pwynt a wnaed o amgylch y Siambr hon y prynhawn yma: ein bod yn abl iawn i ddod at ein gilydd a datrys y problemau cyffredin hyn drwy eistedd o gwmpas y bwrdd a mynd ati'n adeiladol heb yr angen i chwifio ffon fawr arnom ni a dweud na ellir ymddiried ynom i wneud y pethau hyn yn iawn. Rydym yn gwneud hyn drwy'r amser, ac yn llwyddiannus. Yr hyn y mae'n ei ddangos—ac rwy'n gwybod y bydd Steffan Lewis yn ymddiddori yn hyn ac yn dymuno meddwl am y peth—yr hyn y mae'r holl waith hwn yn ei ddangos yw'r angen am set o drefniadau llywodraethu sy'n ategu pob un ohonynt. Pe baem ni'n gallu cytuno i ymdrin ag agweddau ar amaethyddiaeth, er enghraifft, yng nghyd-destun fframweithiau, sut y gall pob un ohonom ni fod yn hyderus, wythnos yn ddiweddarach, ar ôl cytuno ar hynny, na fyddai un o'r rhai a fu'n rhan o'r cytundeb hwnnw o bosib yn cerdded ymaith ac yn gwneud rhywbeth y tu hwnt i ffiniau'r cytundeb? Sut y gallwn ni fod yn hyderus, chwe mis wedi llofnodi'r cytundeb, pan fydd rhywbeth arall yn dod i'r amlwg, bod dulliau priodol i roi gwybod ynglŷn â'r mater newydd hwnnw, er mwyn ailddechrau trafodaethau ac, os oes angen, ar gyfer gwyntyllu dadleuon? Ac ym mhob agwedd ar y trafodaethau ar fframweithiau, ceir ymdeimlad bod angen mecanweithiau llywodraethu cryfach ar y DU yn y dyfodol, yn gyfrwng i'w gydrannau ddod at ei gilydd, cynnal busnes, a chynnal y sefyllfa yn briodol ac yn bwrpasol. Rwy'n credu bod hynny'n her enfawr sy'n deillio o'r trafodaethau fframwaith, a bydd yn rhaid inni ddwyn perswâd ar Lywodraeth y DU i ddod o hyd i beth o'r ynni angenrheidiol i fynd i'r afael â'r mater hwnnw ochr yn ochr â phopeth arall sydd ganddi i feddwl yn ei gylch.