Part of the debate – Senedd Cymru am 3:23 pm ar 27 Chwefror 2018.
Rwy'n diolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei ddatganiad y prynhawn yma, ac mae'n rhaid imi ddweud fy mod i'n parhau i fod wedi fy syfrdanu gan hwyliau lled rhadlon Ysgrifennydd y Cabinet. Ni allaf ddychmygu pa mor rhwystredig a phoenus o drwyadl y bu'r broses hon, ac eto ymddengys ei fod bob amser yn llwyddo i gynnwys y gair 'adeiladol' mewn datganiad ynglŷn â'r Cyd-bwyllgor Gweinidogion (Negodiadau'r UE), er y gall ceisio dod o hyd i unrhyw beth adeiladol fod yn her weithiau. Ond mae hynny'n rhywbeth yr wyf yn ei edmygu llawer am Ysgrifennydd y Cabinet.
Yn amlwg, rwy'n croesawu'n fawr y penderfyniad i fwrw ymlaen i gyhoeddi Bil parhad, nid oherwydd, fel y dywed Ysgrifennydd y Cabinet, ei fod yn ddymunol ond am mai dyna'r peth iawn i'w wneud, a dyna'r peth pwyllog i'w wneud, ac, yn wir, dyna'r peth angenrheidiol i'w wneud os ydym eisiau anrhydeddu ewyllys pobl Cymru a fynegwyd mewn dau refferendwm, nid yn unig i sefydlu Senedd i Gymru ond i gael Senedd i Gymru gyda'r pwerau sydd gennym ni heddiw.
Hefyd byddai gennyf ddiddordeb mewn clywed barn Ysgrifennydd y Cabinet ynghylch a yw'n credu bod ffordd y mae Llywodraeth y DU wedi camdrafod—o'i fynegi'n gwrtais—y cysylltiadau yn fwy cyffredinol gyda'r llywodraethau datganoledig yn gynllwyn, neu ai anallu ydyw? Rwy'n pendilio rhwng y naill a'r llall byth a beunydd; ni allaf gredu mewn rhai agweddau fod modd i Lywodraeth fod mor ddi-glem, ond yna gwrandawaf ar rai o'i Gweinidogion ac yna gallaf gredu hynny'n bur hawdd.
Rwyf hefyd yn credu, yn ogystal â bod hwn yn gam angenrheidiol i ddeddfu yn gyflym, os oes angen, o ran ein cyfansoddiad a'i ddiogelu, yn wir, fod hon yn adeg bwysig ar gyfer y Cynulliad Cenedlaethol hwn a chymeriad cenedlaethol Cymru. Os ydym yn mynd i fwrw ymlaen â deddfwriaeth frys i amddiffyn ein cyfansoddiad, yna gobeithio y bydd hynny'n nodi dechrau diwedd sefyllfa lle caiff Cymru ei gweld fel doli glwt yr ynysoedd hyn, ac y bydd unrhyw Lywodraeth yn San Steffan yn y dyfodol, beth bynnag ei lliw, yn meddwl ddwywaith cyn dechrau ein cam-drin a chredu y gallant wneud fel y mynnant â'n cyfansoddiad.
Hoffwn i gael eglurhad gan Ysgrifennydd y Cabinet o ran y trafodaethau sydd ar y gweill ar gyfer y Cyd-bwyllgor Gweinidogion (Negodiadau'r UE), yn enwedig yr wythnos nesaf. Mae'r gair 'negodi' yn air poblogaidd iawn y dyddiau hyn, am resymau amlwg. Ond, o ran y nod y mae Llywodraeth Cymru wedi ei osod o ran yr hyn fyddai'n dderbyniol mewn Bil ymadael yr UE sydd wedi'i wella, a all ef sicrhau'r Cynulliad hwn na fydd unrhyw negodi yn gyfystyr â chymryd grymoedd oddi ar Gymru, bod angen trafod a bod angen cydweithio a negodi, ond ei fod yn barod i wthio'r ddeddfwriaeth hon, ac na fydd yn ddigon i San Steffan ildio ychydig, y byddai'n rhaid cael newid sylfaenol yn y ddeddfwriaeth cyn belled â bod datganoli yn y fantol?
Hefyd—soniodd fy nghyd-Aelod a'm cyfaill Simon Thomas am hyn yn ei gyfraniad, ond mae Ysgrifennydd y Cabinet a Llywodraeth yr Alban wedi bod mor brysur yn gwarchod rhag difrod posib y Bil ymadael, tybed a all ein diweddaru ni ymhellach ynglŷn ag unrhyw gynnydd sydd wedi bod o bosib o ran fframweithiau cyffredin. Mae'n rhywbeth y mae Aelodau eraill wedi ei grybwyll hefyd. Oherwydd, os nad oes gennym ni newid safbwynt yn Llywodraeth y DU ar fater y Bil ymadael, mae arnaf ofn na chawn ni byth newid ar fater fframweithiau yn y dyfodol, er y bu sôn yn y gorffennol y bu rhywfaint o gynnydd, o leiaf consesiwn y gellid llunio a chytuno ar y cyd ar gynnwys fframweithiau, a oedd yn adeg nodedig i Lywodraeth San Steffan. Ond byddai gennyf ddiddordeb mawr mewn clywed gan Ysgrifennydd y Cabinet a fu unrhyw drafodaeth bellach ynglŷn â'r fframweithiau cyffredin hynny.
Ac yn olaf, a yw Ysgrifennydd y Cabinet yn cytuno â mi y dylai trafodaethau fel hyn, a chytundebau rhwng y Llywodraethau datganoledig, fod wedi dirwyn i ben ymhell cyn i grŵp o bobl gyfarfod yn Chequers i benderfynu ar ein tynged heb fod cynrychiolaeth i'n gwlad yn y grŵp hwnnw?