Part of the debate – Senedd Cymru am 5:44 pm ar 27 Chwefror 2018.
A gaf i ddiolch i Dai Lloyd am ei gwestiynau? Byddwn yn cytuno'n llwyr ag ef y gall teithio llesol chwarae rhan hanfodol wrth leihau nifer yr achosion o ordewdra ac afiechydon corfforol eraill, ond gall hefyd helpu i wella ein lles, ac yn sicr ein hiechyd meddwl. Rwyf i yn sicr yn cael budd o gerdded, beicio a rhedeg yn rheolaidd, yn enwedig pan fy mod yma ym Mae Caerdydd, ar ôl gwaith neu cyn gwaith. Rwy'n gweld fy mod yn perfformio'n llawer gwell os ydw i wedi bod yn rhedeg ar ôl gwaith neu yn gynnar yn y bore na phan fy mod yn segur am y rhan fwyaf o'r diwrnod. Rwy'n credu bod gan bob un ohonom ni yn y Siambr, mae'n debyg, ran i'w chwarae wrth arwain drwy esiampl a cheisio bod yn fwy egnïol yn gorfforol yn amlach. Gwn fod amser yn brin iawn, ond mae'n gwbl hanfodol mewn bywyd modern i allu neilltuo digon o amser i chi i fod yn gorfforol egnïol. Mae'n gwbl hanfodol ar gyfer eich iechyd corfforol, eich iechyd meddwl a'ch lles.
O ran pwysigrwydd cyd-Aelodau eraill yn y Llywodraeth ac adrannau eraill, rwy'n credu bod addysg ac iechyd, yn enwedig, yn hanfodol wrth herio a newid ymddygiad pobl er mwyn cael mwy o bobl i fod yn egnïol yn gorfforol, nid yn unig o ran gweithgarwch corfforol, ond i fod yn fwy egnïol yn gyffredinol, i fod yn gwneud mwy, i fod yn fwy corfforol yn amlach. Yn sicr drwy fforymau fel y bwrdd teithio llesol rydym yn gallu galw ar swyddogion ar draws adrannau am ddiweddariadau gan eu priod Ysgrifenyddion Cabinet ar y camau a gymerir i gyflawni ysbryd Deddf Teithio Llesol (Cymru) 2013. Credaf fod ofn, fel y mae Russell George wedi ei ddweud eisoes, yn ffactor hollbwysig sy'n atal neu'n gwneud pobl yn amharod i fod yn egnïol wrth deithio. Roedd bod ofn colli allan, neu 'FOMO', fel y'i gelwir erbyn hyn ymhlith pobl ifanc, yn arfer gwneud iddynt gerdded adref neu gerdded i'r ysgol, oherwydd eu bod yn ofni methu â bod gyda'u ffrindiau. Erbyn hyn, mae arnaf ofn, mae FOMO yn gwneud i lawer o bobl ifanc fynnu eu bod yn cael eu nôl er mwyn gallu mynd yn ôl adref i fynd ar y cyfryngau cymdeithasol yn gyflymach, neu ar y system gyfrifiadurol. Yn anffodus, mae hynny wedi dod yn norm diwylliannol. Mae'n rhaid herio hynny mewn ysgolion, ac mae hynny'n rhywbeth y gwn fod llawer o ysgolion yn ei wneud eisoes. Mae gennym rai hyrwyddwyr gwych yn y gwasanaeth addysg hefyd, ac rwy'n credu bod angen inni sicrhau bod mwy o bobl yn cael y math o gefnogaeth a gefais i yn sicr, ac a gafodd llawer o bobl eraill, o ran hyfedredd beicio.
Roedd llyfr gwych a ysgrifennwyd gan Anthony Seldon ychydig o flynyddoedd yn ôl o'r enw Trust, lle'r oedd yn rhoi darlun eithaf tywyll o fywyd cyfoes lle rydym yn cael ein trochi mewn delweddau ofnus, delweddau negyddol, sy'n arwain at golli ffydd yn ein gilydd. Rwy'n credu, o ganlyniad i hynny, fod pobl yn credu eu bod yn llai diogel nag y maen nhw mewn gwirionedd, maen nhw'n llai tebygol o ymddiried mewn pobl eraill mewn cymdeithas, fel y byddent wedi gwneud yn y gorffennol, ac mae hynny'n anffodus iawn. Yr hyn y mae angen inni ei wneud yw annog pobl i fod yn fwy ffyddiog, mewn gwirionedd, a bod yn realistig ynghylch y bygythiadau ar ein system ffyrdd a'n llwybrau seiclo ac ar ein palmentydd.
O ran y gwariant fesul pen, does dim angen fy argyhoeddi i o gwbl bod angen inni weld cynnydd sylweddol yn yr adnoddau a ddyrennir i gefnogi teithio llesol. Hoffwn i ddefnyddio fy meic Boardman yn fwy aml. Hoffwn i fod yn fwy egnïol o ran cerdded, ac er na fyddwn yn dymuno rhoi ffigur ar hyn o bryd o ran faint yr hoffwn gynyddu'r gwariant ar deithio llesol, hoffwn ei weld yn cynyddu, o ran punnoedd y pen o'r boblogaeth, i'r un lefel â'r Alban. Rwy'n credu y byddai hynny'n ddyhead. Rwy'n credu, yn y bôn, os gallem ni gyrraedd lefelau iwtopia beicio rhai o wledydd y cyfandir un diwrnod, yna byddai hynny'n wych, ond yn sicr, i ddechrau, mae angen inni anelu at gynyddu i'r math o lefel yr ydym wedi'i gweld yn yr Alban. Ond rwy'n credu hefyd bod angen inni fod yn realistig ynghylch o ble y daw'r cyllid hwn. Ni all ddod o un pot mewn un adran o fewn y Llywodraeth. Mae'n rhaid iddo ddod o amrywiaeth o adrannau ac nid yn unig, yn wir, o Lywodraeth Cymru. Mae'n rhaid cael cyfraniad, yn fy marn i, gan Lywodraeth Leol hefyd, ac mae llawer iawn o gynghorau ledled Cymru wedi bod yn hynod gyfrifol a rhagweithiol yn yr agenda hon.