8. Datganiad gan Weinidog yr Amgylchedd: Ailgylchu yng Nghymru

Part of the debate – Senedd Cymru am 6:55 pm ar 27 Chwefror 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Hannah Blythyn Hannah Blythyn Labour 6:55, 27 Chwefror 2018

(Cyfieithwyd)

Diolch ichi am y cwestiwn hwnnw. Hoffwn eich llongyfarch ar fod ymhlith y rhai cyntaf i ddatgan eich cefnogaeth i'r tâl am fagiau siopa yng Nghymru, ac ni yw'r cyntaf yn y DU. [Torri ar draws.] Ie, yn yr hen ddyddiau drwg. Rwy'n deall yn llwyr yr hyn yr ydych yn ei ddweud o ran y materion yr ydych chi'n eu cael ar yn lleol. Mater i awdurdodau lleol unigol yw pennu amlder eu casgliadau gwastraff gweddilliol yn eu hardaloedd, ond yn sicr, wrth gwrs, os ydych am gysylltu â ni gallwn roi ystyriaeth i rai o'r problemau penodol yr ydych chi'n eu crybwyll. Mewn egwyddor, byddem yn cefnogi casgliadau gwastraff gweddilliol llai rheolaidd, cyhyd â bod ailgylchu a chasgliadau gwastraff bwyd yn wythnosol, a hefyd bod trefniadau ar wahân ar gyfer clytiau a deunyddiau tebyg fel hynny, felly er mwyn mynd i'r afael â rhai o'r materion o ran— [Torri ar draws.] Ie. Felly, os hoffai'r Aelod gysylltu ynglŷn â hynny mewn mwy o fanylder, yna mae'n rhywbeth y gallem roi rhywfaint o ystyriaeth iddo.