Cefnogaeth i Gyn-filwyr

Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus – Senedd Cymru am 2:03 pm ar 28 Chwefror 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Alun Davies Alun Davies Labour 2:03, 28 Chwefror 2018

(Cyfieithwyd)

A gaf fi ddweud fy mod yn cytuno'n llwyr gyda'r Aelod dros Fro Morgannwg ar y pwyntiau a wnaeth? Mewn sawl ffordd, mae hi wedi adleisio'r pwynt a wnaed gan yr Aelod dros Orllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro yn ei chwestiwn cyntaf y prynhawn yma ynghylch pwysigrwydd gwirfoddolwyr, a'r rôl y maent yn ei chwarae yn ein cymunedau a'n cymdeithas yn darparu gwasanaethau mewn amgylchiadau cyfannol, sy'n eu galluogi i ddarparu'r gwasanaethau sydd eu hangen ar bobl sy'n wynebu anawsterau o'r fath. Rwy'n falch iawn fod Woody's Lodge wedi gallu sicrhau'r cyllid i agor yng ngogledd Cymru, yn 2020 rwy'n credu, ac yna yng ngorllewin Cymru hefyd. Credaf ei bod yn enghraifft wych o sut y gall gwirfoddolwyr lleol ddod at ei gilydd, darparu gwasanaeth—gwasanaeth gwych—i bobl pan fyddant ei angen, a defnyddio'r wybodaeth honno wedyn, defnyddio'r profiad hwnnw, defnyddio'r sgiliau hynny a defnyddio'r ymrwymiad hwnnw i ehangu'r gwasanaeth er mwyn darparu rhywbeth y byddai'n amhosibl i ni ei wneud fel Llywodraeth.