Part of the debate – Senedd Cymru am 4:18 pm ar 28 Chwefror 2018.
Rwy'n codi i gefnogi'r cynnig hwn y prynhawn yma ac mae'n anodd gweld sut y gallai unrhyw un ei wrthwynebu mewn difrif. Pa ddadl bosibl a allai fod dros beidio â bod eisiau cyhoeddi'r adroddiad hwn gyda'i holl gyfyngiadau a golygiadau? Mewn bywyd blaenorol, roedd gennyf gyfrifoldeb ar ran Llywodraeth y DU dros gyhoeddi tystysgrifau imiwnedd lles y cyhoedd, a oedd yn golygu eich bod yn cadw rhywbeth yn gyfrinachol am resymau'n ymwneud â diogelwch gwladol neu ystyriaethau pwysig eraill er budd cenedlaethol. Nid oes unrhyw ystyriaeth o'r fath y gellid ei rhoi i gyfiawnhau parhau'r cyfrinachedd mewn perthynas â'r adroddiad hwn. Gallaf weld bod yna resymau'n ymwneud â diogelwch y Llywodraeth pam na fyddent yn dymuno ei weld yn cael ei gyhoeddi, ond yn sicr ni all fod unrhyw reswm yn ymwneud â diogelwch gwladol a fyddai'n cyfiawnhau parhau'r cyfrinachedd.
Nawr, nid yw hynny'n dweud y credaf y byddwn yn dysgu llawer iawn pan gyhoeddir yr adroddiad hwn. Rwyf wedi cael profiad o ymchwiliadau i ddatgelu gwybodaeth heb ganiatâd, neu honiadau o ddatgelu heb ganiatâd o'r Llywodraeth ar sawl achlysur yn y gorffennol ac nid yw ymchwiliadau mewnol byth yn cyrraedd y gwirionedd yn eu cylch. Y gwir amdani yma yw nad yw uwch weision sifil, drwy eu natur, yn cael eu hyfforddi i gyrraedd y gwir mewn ymchwiliadau o'r math hwn. Nid ydym yn gwybod pa mor eang y mae ymchwiliadau'r Ysgrifennydd Parhaol wedi mynd. Nid ydym yn gwybod i ba raddau y defnyddiodd ryw fath o frwdfrydedd fforensig wrth edrych ar y dystiolaeth y gallai ei harchwilio. Pan wneir y pethau hyn y tu ôl i ddrysau caeedig, nid yw'r darnau hyn o wybodaeth, sy'n ein galluogi i werthuso pa mor ddwfn a manwl y mae ymchwiliad wedi bod, yn dod ar gael. Felly, nid wyf yn disgwyl fawr o ddim i godi o hyn ac yn wir, mae'r gyfres o ymchwiliadau a roddwyd ar y gweill wedi'u cynllunio'n fwriadol, rwy'n credu, i beidio â'n galluogi i gyrraedd y gwir.
Fel arall, pe baem wedi cael ymchwiliad trosfwaol wedi'i wneud gan berson a oedd yn amlwg yn annibynnol, megis Cwnsler y Frenhines, yna efallai y byddem wedi cyrraedd rhywle, ond o ystyried y lliaws o ymchwiliadau a'r gwahanol gylchoedd gorchwyl, pob un wedi'i osod gan Lywodraeth sydd ei hun yn cael ei hymchwilio, mae'n debyg, nid ydym yn debygol o gyrraedd y gwir. Nid yw Ysgrifenyddion Parhaol yn cael eu hyfforddi i chwarae ditectif, ac nid ydynt yn arbennig o wrthwynebus o ran y sgiliau sydd ganddynt ar gyfer y dasg. Nid beirniadaeth o'r Ysgrifennydd Parhaol yw hynny yn yr achos hwn nac mewn unrhyw achos arall yn wir; mater o ffaith yn unig ydyw. Ac o ganlyniad, nid hi, gyda'i holl alluoedd a'i chryfderau amlwg, yw'r person gorau i gyflawni'r dasg a roddwyd iddi. Yr un peth a wyddom yw bod cyfrinachedd yn celu anghyfiawnder ac yn hwyluso camddefnydd o rym ac ni allaf weld unrhyw reswm pam na ddylid cyhoeddi canlyniadau'r ymchwiliad hwn yn yr achos penodol hwn.
Yn anffodus, yn y Blaid Lafur ar y funud, gwyddom fod helyntion mewnol o bob math yn digwydd—nid wyf am fanylu arnynt yn y ddadl hon gan y byddai hynny y tu hwnt i gylch gorchwyl yr hyn rydym yn ei drafod yma. Ond mae yna natur annymunol yn perthyn i wleidyddiaeth o bryd i'w gilydd yn y pleidiau eraill yn ogystal, a chredaf fod yr hyn rydym yn ymdrin ag ef yma yn enghraifft o hynny a dylai pob un ohonom, mewn gwirionedd, fod eisiau mynd i wraidd y mater. Rwyf wedi derbyn triniaeth debyg fwy nag unwaith yn ystod fy ngyrfa wleidyddol ac nid yw Llywodraethau'r dydd erioed wedi bod eisiau i chi gyrraedd y gwir. Ac nid yw'n ymwneud o reidrwydd â Gweinidogion eu hunain; yn aml, pobl sy'n mynd y tu hwnt i'w hawdurdod gan feddwl eu bod yn gwneud rhywbeth y byddai eu Gweinidogion yn ei gymeradwyo sy'n gyfrifol. Mae holl system y cynghorwyr arbennig ei hun yn tueddu i wneud hyn. Fel rheol, aelod o staff sy'n gyfrifol am arllwys y fath gasineb ar y byd gwleidyddol. Fe'i gwelais yn y Blaid Geidwadol, a chredaf ein bod bellach yn ei weld yn y Blaid Lafur yn ogystal.
Ac felly, rwy'n gobeithio, yn ystod y ddadl hon, y bydd y rhai sy'n ceisio'r gwirionedd, y rhai sy'n arddel tryloywder, y rhai sy'n datgelu anghyfiawnder yn y Blaid Lafur—yn y grŵp Llafur yn y Cynulliad hwn—yn dod i'n cynorthwyo ac yn dweud, er eu mwyn hwy, ac er mwyn eu plaid hefyd, eu bod am gyrraedd y gwirionedd ynghylch y mater hwn, eu bod am gynnal am enw da'r Llywodraeth, a'i wella yn wir, ac yn fwy perthnasol, eu bod am weld y Cynulliad hwn yn arwain pobl Cymru i gyrraedd y gwir ynghylch y mater hwn a sefydlu ei enw da ei hun fel cynrychiolydd y bobl a chynrychiolydd gwirionedd a chyfiawnder.