1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru ar 7 Mawrth 2018.
3. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu datblygu system addysg sy'n adlewyrchu amcanion Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015? OAQ51835
Diolch, Bethan, ac a gaf fi fanteisio ar y cyfle hwn i’ch llongyfarch ar eich priodas yn ddiweddar?
Mae 'Addysg yng Nghymru: Cenhadaeth ein Cenedl' yn darparu cynllun gweithredu a fydd yn arwain at drawsnewid y system addysg yng Nghymru. Datblygwyd y cynllun yn unol ag egwyddorion Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015, a bydd yn cael ei gyflawni a'i asesu yn erbyn yr amcanion llesiant.
Diolch am eich ateb. Mae’r polisi ad-drefnu ysgolion a chreu uwchysgolion canolog, yn enwedig yng Nghastell-nedd Port Talbot a ledled Cymru, wedi peri pryder, yn enwedig gyda'r posibilrwydd o gau Ysgol Gyfun Cymer Afan yn fy rhanbarth. Mae'n arbennig o ddifrifol mewn perthynas â Deddf Teithio Llesol (Cymru) 2013, ac mae'n mynd yn erbyn y Ddeddf honno, oherwydd os yw'r ysgol yn cau bydd yn rhaid iddynt deithio am 50 munud i gyrraedd yr ysgol agosaf. Felly, pan gawsom gyfarfod cyhoeddus ar hyn yn ddiweddar, roedd pobl yn dweud y byddai hyn yn ychwanegu straen ym mywydau'r plant, ac y byddai'n mynd yn groes i gynaliadwyedd y Ddeddf honno. Rwy'n cydnabod na allwch edrych ar y mater penodol hwn ynddo'i hun, ond beth yw eich barn chi ynglŷn â'r ffaith, os yw ysgol yn cau a bod hynny'n arwain, felly, at fwy o drafnidiaeth, fod rhagor o bwysau'n cael ei roi ar blant ysgol—beth rydych yn ei wneud mewn perthynas â lles y plant hynny i geisio cefnogi datblygiad eu haddysg, yn hytrach na'u rhwystro, fel y cred llawer o'r rhieni yn yr achos penodol hwn?
Wel, Bethan, wrth ymgymryd â'u cyfrifoldebau trefniadaeth ysgolion, mae'n rhaid i awdurdodau lleol gydymffurfio â Deddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013 a'r cod trefniadaeth ysgolion, ac mae'n rhaid iddynt ystyried amrywiaeth o ffactorau. Un o'r ffactorau hynny yw buddiannau dysgwyr. Fe fyddwch yn ymwybodol ein bod wedi cynnal ymgynghoriad diweddar ar y cod i weld lle y gellir ei gryfhau. Pan fo'r cynigion yn cynnwys cau unrhyw ysgol, sy'n gallu bod yn heriol iawn, ac yn emosiynol iawn, mae'n rhaid i'r ddogfen ymgynghori ddangos effaith y cynigion ar unigolion, ac yn wir ar y gymuned, ac mae'n rhaid cynnal asesiad o'r effaith honno ar y gymuned.
Ysgrifennydd y Cabinet, o ystyried yr amcanion lles, a gaf fi ofyn i chi pa ystyriaeth, os o gwbl, rydych wedi'i rhoi i fentrau a welsom yn Ffrainc ac yn fwy diweddar yn yr Alban i reoli'r defnydd o ffonau symudol mewn ysgolion fel ffordd o helpu i fynd i'r afael â bwlio mewn ysgolion a tharfu ar ddysgu?
Diolch, Dawn. Mae'n rhaid i mi ddweud mai cyfrifoldeb ysgolion unigol yw penderfynu ar y ffordd fwyaf effeithiol o fynd i'r afael â bwlio a rhoi unrhyw bolisïau gwrth-fwlio ar waith yn eu hysgolion, gan gynnwys unrhyw fesurau yr hoffent eu hystyried i reoli'r defnydd o ffonau neu offer technoleg gwybodaeth, a allai arwain at seiberfwlio. Rydym hefyd yn datblygu cyfres—mae gennym eisoes gyfres o fesurau ar waith i gynorthwyo ysgolion i fynd i'r afael â seiberfwlio yn eu hysgolion ac rydym wrthi'n diweddaru ein canllawiau gwrth-fwlio.
Credaf ei bod yn bwysig dweud, fodd bynnag, na allwn honni bod pob math o dechnoleg gwybodaeth yn cael effaith niweidiol ar addysg. Ddoe, buom yn trafod sgiliau digidol a'r defnydd o dechnoleg yn ein hystafelloedd dosbarth a'r manteision y gall hynny eu rhoi i ddisgyblion ac athrawon. Felly, mae angen inni fabwysiadu ymagwedd gytbwys yn hyn o beth.
Ysgrifennydd y Cabinet, un o amcanion Deddf cenedlaethau'r dyfodol yw sicrhau bod pob plentyn yn cael cyfle i gyflawni eu llawn botensial, beth bynnag yw eu cefndir. Rwy'n siŵr y byddai pob un ohonom yn cytuno â hynny. Mae'r bwlch yn y canlyniadau yno o hyd, fodd bynnag, rhwng plant sy'n gymwys i gael prydau ysgol am ddim. Mae nifer o deuluoedd yn byw ychydig uwchlaw'r ffin tlodi ond heb gyrraedd y categori y dylent ei gyrraedd. A ydych yn hyderus fod y meini prawf presennol yn ddigon eang i gyrraedd pob un o'r plant hyn sy'n dioddef yn yr amgylchiadau hyn, ac os nad ydynt, beth rydych yn bwriadu ei wneud i sicrhau bod rhwyd ddiogelwch well i'w chael?
Nick, rydych yn llygad eich lle: un o'r heriau mwyaf sy'n ein hwynebu mewn addysg yng Nghymru yw sicrhau'r tegwch hwnnw o fewn ein system ac mae hynny'n cynnwys cau'r bwlch cyrhaeddiad rhwng y disgyblion sy'n gymwys i gael prydau ysgol am ddim a'u cyfoedion. Eleni, bydd Llywodraeth Cymru yn buddsoddi dros £91 miliwn yn y grant datblygu disgyblion. Rydym bob amser yn herio'r consortia rhanbarthol ac ysgolion unigol i fabwysiadu'r arferion gorau ar sail tystiolaeth o ran y ffordd orau o ddefnyddio'r adnodd hwnnw i gynorthwyo'r plant sy'n cael prydau ysgol am ddim.
Rydym yn ymwybodol nad yw rhai teuluoedd yn bodloni'r meini prawf ar gyfer prydau ysgol am ddim, ac o ystyried y cyfyngiadau ar gyllid cyhoeddus ar hyn o bryd, buaswn ar fai'n awgrymu ein bod wedi gallu cynyddu nifer y plant. Ar hyn o bryd, mae prydau ysgol am ddim yn cynrychioli'r procsi gorau ar gyfer angen sydd gennym yn fy marn i.