Twristiaeth yn Ne-orllewin Cymru

Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru am 2:58 pm ar 7 Mawrth 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Lord Dafydd Elis-Thomas Lord Dafydd Elis-Thomas Independent 2:58, 7 Mawrth 2018

Wel, mae twristiaeth, wrth gwrs, yn un o'r diwydiannau sylfaenol sydd wedi'u nodi yn y cynllun economaidd. Nid ydym ni fel Llywodraeth yn gyfrifol am benderfyniadau gan awdurdodau lleol ynglŷn â'u cyllideb nhw, ond rwy'n meddwl y byddai fo'n adeiladol iawn pe byddai awdurdodau lleol yn gwneud beth y ces i gyfle i gymryd rhan ynddo fo yn sir Gaerfyrddin yn ddiweddar iawn, sef cael trafodaeth hir a manwl ynglŷn â blaenoriaethau yr awdurdod, ac yn arbennig lle roedd y cyngor sir yn gweld cyfle i fanteisio ar amrywiol gynlluniau sydd yn dod o fewn cyllideb yr adran rwy'n gyfrifol amdani, ond yn arbennig y cynlluniau sydd yn darparu ar gyfer twristiaeth ond sydd hefyd yn darparu yn yr un modd tuag at drigianwyr ac ymwelwyr lleol. Felly, nid wyf i am wneud sylw am benderfyniad awdurdodau lleol, ond mi fyddai o'n haws o lawer pe byddai awdurdodau yn trafod eu blaenoriaethau gyda Llywodraeth Cymru yn y gwahanol feysydd yma.