Part of the debate – Senedd Cymru am 6:10 pm ar 7 Mawrth 2018.
Fel y mae wedi'i ddrafftio ar hyn o bryd, mae'r Bil ymadael â'r UE wedi cael ei feirniadu'n hallt am y ffordd y mae pwerau i wneud rheoliadau i gael eu harfer, gyda llawer o bwyllgorau seneddol o'r deddfwrfeydd yn y DU yn mynegi pryder ynghylch trosglwyddo gormod o bŵer o'r ddeddfwrfa i'r llywodraeth. Yn benodol, mae hyn i'w gyflawni drwy ddefnyddio pwerau Harri VIII helaeth, gyda'r weithdrefn gadarnhaol i'w defnyddio mewn amgylchiadau mwy cyfyngedig nag y byddai disgwyl fel arfer.
Mewn rhai o'n datganiadau cychwynnol ar oblygiadau deddfu i adael yr UE, rydym wedi nodi rhai egwyddorion cyfansoddiadol pwysig y credwn y dylent fod yn berthnasol i rôl y Cynulliad Cenedlaethol. Mae'r rhain yn cynnwys y Cynulliad Cenedlaethol yn pasio deddfwriaeth sylfaenol mewn meysydd datganoledig, gan ddirprwyo pwerau i Weinidogion Cymru wneud is-ddeddfwriaeth fel y bo'n briodol ym marn y Cynulliad Cenedlaethol, a'r weithdrefn sydd i'w chymhwyso i graffu ar yr is-ddeddfwriaeth honno.
Nawr, rydym yn cydnabod bod y ffaith bod y DU yn ymadael â'r Undeb Ewropeaidd yn her ddeddfwriaethol unigryw a chymhleth sy'n rhaid ei chyflawni o fewn amser byr. Yn yr amgylchiadau hyn, ac am resymau ymarferol, rydym yn derbyn y bydd angen i'r Bil ddirprwyo pwerau i Weinidogion Cymru allu gwneud is-ddeddfwriaeth ac yn unol â hynny, bydd angen iddo bennu'r weithdrefn sydd ynghlwm wrth y pwerau hynny. Rydym yn pwysleisio na ddylid ystyried bod y dull hwn o weithredu yn ildio'r egwyddorion pwysig hyn neu ein pryderon cyffredinol ynglŷn ag ymagwedd y Bil tuag at ddatganoli, yn enwedig mewn perthynas â chymal 11. Yn hytrach, dyma ymateb pragmatig i raddfa a her y dasg unigryw o'n blaenau er mwyn sicrhau llyfr statud gweithredol.
Nawr, hoffwn rannu'r araith yn ddwy ran. Yn gyntaf, byddaf yn ystyried argymhellion 1, 2, 4 a 7, sy'n ymdrin â materion rydym yn ystyried eu bod yn galw am ddiwygio Bil Llywodraeth y DU ac sy'n destun pwynt 2 y cynnig, ac yna, yn ail, byddaf yn ystyried yr argymhellion eraill a'u goblygiadau ar gyfer y Rheolau Sefydlog, y bydd angen rhoi sylw iddynt yn nes ymlaen.
O ran argymhellion 1, 2, 4 a 7, yn ystod ei daith drwy Dŷ'r Cyffredin, diwygiwyd y Bil i gymhwyso dull sifftio ar gyfer yr holl reoliadau sydd i'w gwneud o dan gymalau 7, 8 a 9 gan ddefnyddio'r weithdrefn negyddol, sy'n ymwneud â thrin diffygion yn deillio o ymadael, cydymffurfio â rhwymedigaethau rhyngwladol a gweithredu'r cytundeb ymadael. O fewn 10 diwrnod i'w osod, rhaid i bwyllgor sifftio benderfynu a ddylai'r rheoliad fod yn ddarostyngedig i'r weithdrefn gadarnhaol yn lle hynny, er nad yw argymhelliad o'r fath yn rhwymol. Credwn fod y dull sifftio ar gyfer Tŷ'r Cyffredin sydd bellach wedi'i gynnwys o fewn y Bil yn gam cadarnhaol ymlaen, gan wella lefel y craffu sydd ynghlwm wrth is-ddeddfwriaeth a wneir o dan y Bil hwnnw. Yn unol â hynny, mae argymhelliad 1 yn darparu y dylid diwygio'r Bil i gymhwyso'r dull sifftio ar gyfer pob un o'r rheoliadau a osodir gerbron y Cynulliad Cenedlaethol a bod pwyllgor yma'n gyfrifol am wneud argymhelliad ynghylch y weithdrefn briodol ar gyfer y rheoliadau.
Fodd bynnag, rhannwn bryderon Pwyllgor Pwerau Dirprwyedig a Diwygio Rheoliadol Tŷ'r Arglwyddi nad yw'r mecanwaith cyfredol o fewn y Bil yn ddigon cryf. Felly, mae argymhelliad 2 yn ei gwneud yn ofynnol diwygio'r Bil i'w gwneud yn ofynnol i argymhelliad pwyllgor sifftio fod yn rhwymol, ac eithrio lle mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn penderfynu fel arall. Bydd yr argymhelliad hwn yn sicrhau y gall y Cynulliad Cenedlaethol gael y gair olaf ynghylch pa weithdrefn a gaiff ei chymhwyso i wneud is-ddeddfwriaeth a osodir gerbron y Cynulliad Cenedlaethol. Mae hon yn rhan bwysig o sicrhau bod y dull sifftio'n gadarn, a byddaf yn esbonio ffyrdd eraill o sicrhau bod y dull sifftio'n gadarn drwy wneud newidiadau i'n Rheolau Sefydlog.
Fodd bynnag, ni waeth pa mor gadarn yw dull sifftio, nid yw'n cymryd lle datganiad clir ar wyneb y Bil ynglŷn â pha bryd y mae'n rhaid defnyddio'r weithdrefn gadarnhaol. Felly, rydym yn credu y dylid ehangu'r amgylchiadau cyfyngedig lle mae'n rhaid i'r weithdrefn gadarnhaol gael ei chymhwyso o dan y Bil. I bob pwrpas, mae argymhelliad 4 yn dweud y dylai'r Bil ddarparu ar gyfer defnyddio gweithdrefn gadarnhaol mewn perthynas ag unrhyw fesur sy'n ymwneud â llunio polisi, a dylid cymhwyso'r weithdrefn gadarnhaol ar gyfer rheoliadau gan gynnwys y rhai a wneir gan Weinidogion Cymru o dan gymalau 7, 8, 9 ac 17 ac Atodlen 2 sy'n diwygio neu'n diddymu deddfwriaeth sylfaenol. Yn ein barn ni, dylai'r un peth fod yn gymwys ar gyfer rheoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru. Ni ddylid defnyddio pwerau Harri VIII a gynhwysir yn y Bil i ddiwygio Deddf Llywodraeth Cymru 2006 a dylai Deddf Llywodraeth Cymru 2006, o ganlyniad i hynny, gael ei chynnwys yn y rhestr o ddeddfiadau yng nghymal 7(7) na ellir eu diwygio gan reoliadau. Rydym hefyd yn credu y dylid diwygio'r Bil fel y nodir yn argymhelliad 7, sef y dylai'r weithdrefn 'gwneud cadarnhaol' ar gyfer achosion brys hefyd gael ei chymhwyso ar gyfer rheoliadau a wnaed gan Weinidogion Cymru, pa un a ydynt yn gweithredu ar eu pen eu hunain neu gyda Gweinidogion y DU mewn rheoliadau cyfansawdd, neu'n gweithredu gyda Gweinidogion y DU mewn rheoliadau ar y cyd, er mwyn sicrhau cysondeb o ran y modd y caiff Gweinidogion pob Llywodraeth eu trin.