Part of the debate – Senedd Cymru am 6:20 pm ar 7 Mawrth 2018.
A gaf fi ddiolch i Gadeirydd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol, Mick Antoniw, am amlinellu pethau mor glir? A gaf fi ddweud wrth yr Aelodau y ceir adegau pan fo'r hyn sydd yn ôl pob golwg yn aneglur yn hanfodol bwysig mewn gwirionedd, ac mae hwn yn un ohonynt? Hoffwn danlinellu un neu ddau o'r pethau y mae Mick wedi eu dweud oherwydd, yn amlwg, nid oes angen ychwanegu at y disgrifiad o'r sefyllfa rydym ynddi yn awr.
Mae'r Bil ymadael â'r UE yn Fil rhyfeddol, ac yn amlwg, mae'n newid yn llwyr ein perthynas ag Ewrop, ond hefyd y setliad datganoli. Mae sut rydym yn rheoli hynny i gyd yn hanfodol bwysig, ac mae'n bwysig iawn fod gennym ddull sifftio. Mae'n amlwg mai dyna yw'r argymhelliad canolog yma, a bydd yn adlewyrchu'r arfer tebygol bellach yn San Steffan i lywodraethu'r gwaith, felly, o weinyddu pwerau gweinidogol yno. Ond mae angen inni wneud yr un peth gyda materion datganoledig. Fel y mae aelodau'r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol yn sylweddoli, rwy'n credu ei bod hi'n debygol y bydd yn rhaid i'r pwyllgor wneud y gwaith hwnnw. Felly, rydym yn gwneud yr argymhelliad hwn i chi, ond rydym hefyd yn dweud ein bod yn barod i wneud y gwaith.
Mae'n bwysig iawn fod penderfyniad y pwyllgor sifftio yn rhwymol. Gan amlaf, mae'r argymhellion y mae Gweinidogion yn eu gwneud yn mynd i gael eu derbyn. Rydym yn sôn am nifer helaeth o eitemau a allai ddod drwodd ar bwerau is-ddeddfwriaethol—mae 500 neu 600, rwy'n meddwl, wedi cael eu crybwyll. Felly, mae nifer yr offerynnau statudol yn mynd i fod yn fawr iawn.
Felly, gan dderbyn y pwerau rheoleiddio eang sy'n rhaid i Weinidogion eu cael, y ffordd briodol o wirio cydbwysedd yma yw dull sifftio. Os nad oes gennym ddull sifftio, ceir perygl gwirioneddol, drwy ba amryfusedd bynnag, o symud pŵer sylweddol o'r ddeddfwrfa i Weinidogion. Rwy'n siŵr nad yw Llywodraeth Cymru eisiau hynny. Felly, mae'r awgrym hwn yn ffordd ymarferol iawn ymlaen.
Ar rai pwyntiau, credaf y dylai unrhyw ddefnydd o bwerau Harri VIII ei gwneud yn ofynnol, o leiaf, i'r weithdrefn gadarnhaol gael ei defnyddio. Mae honno'n egwyddor bwysig iawn, ond yn gyffredinol, mae'n anodd gweld sut y gall ein dyletswydd i graffu weithio'n effeithiol mewn gwirionedd oni fydd gennym y ffordd hon o wirio'r cydbwysedd ar ffurf dull sifftio. Diolch.