Cyn-filwyr

Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus – Senedd Cymru am 2:26 pm ar 21 Mawrth 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Alun Davies Alun Davies Labour 2:26, 21 Mawrth 2018

(Cyfieithwyd)

Rwy'n gobeithio ein bod yn cefnogi ac yn darparu cyllid digonol i GIG Cymru i Gyn-filwyr. Ar hyn o bryd, rydym yn darparu cyllid blynyddol o £585,000, ac fe fyddwch yn ymwybodol fod Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cyhoeddi cyllid ychwanegol yn ddiweddar o £100,000 y flwyddyn er mwyn cynyddu'r capasiti ar gyfer cyn-filwyr ag anghenion iechyd meddwl. Rwy'n gobeithio, felly, ein bod yn darparu ar gyfer yr anghenion a nodir ar hyn o bryd.

Cyfeiria'r Aelod dros Ogledd Cymru at y grŵp trawsbleidiol a'r adroddiad a gyhoeddwyd gan y grŵp trawsbleidiol cyn y Nadolig. Roeddwn wedi gobeithio ymateb yn llawn iddo erbyn toriad y Pasg; nid wyf wedi gallu gwneud hynny, ond gallaf roi ymateb llawn gan Lywodraeth Cymru i'r adroddiad hwnnw yn gynnar yn y tymor newydd.