Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus – Senedd Cymru am 2:25 pm ar 21 Mawrth 2018.
Fel y gŵyr Ysgrifennydd y Cabinet, mae'r materion hyn wedi'u cynnwys yn adroddiad y grŵp trawsbleidiol ar y lluoedd arfog a chadetiaid ar gyfamod y lluoedd arfog yng Nghymru, a gwn fod y grŵp hwnnw'n edrych ymlaen at eich ymateb ffurfiol i'r adroddiad hwnnw.
Un o'r pethau sy'n cael sylw ynddo hefyd yw'r alwad am gyllid craidd ar gyfer partneriaid trydydd sector sy'n darparu cynlluniau mentora cymheiriaid. Fe fyddwch yn ymwybodol fod Newid Cam, y gwasanaeth mentora cymheiriaid a chyngor i gyn-filwyr ac eraill gydag anhwylder straen wedi trawma ac amrywiaeth o broblemau seicolegol sy'n awyddus i wneud newidiadau cadarnhaol yn eu bywydau, dan arweiniad yr elusen CAIS, wedi sicrhau 12 mis o gyllid gan Help for Heroes i gyflogi mentor cymheiriaid ym mhob bwrdd iechyd yng Nghymru. Sut rydych chi'n ymateb, felly, i'r angen a nodwyd gan GIG Cymru i Gyn-filwyr am gyllid craidd i gadw mentoriaid cymheiriaid yn eu swyddi fel rhan o'u tîm craidd, i adlewyrchu model cyn-filwyr yr Alban?