Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus – Senedd Cymru am 2:23 pm ar 21 Mawrth 2018.
Fe fyddwch yn gwybod bod rhai aelodau o'r lluoedd arfog yn ei chael hi'n anodd addasu i fywyd y tu allan i'r lluoedd, ac mae rhai'n cael trafferthion penodol o ganlyniad i'r digwyddiadau trawmatig y maent wedi'u gweld. Gallai hyn esbonio pam y canfu arolwg gan y Lleng Brydeinig yn 2014 fod cyn-filwyr o oedran gweithio ddwywaith yn fwy tebygol o fod yn ddi-waith na'u cymheiriaid ym mhoblogaeth gyffredinol y DU. Mae astudiaethau mwy diweddar ar lefelau digartrefedd ymysg cyn-filwyr y DU yn amrywio, ond yr hyn na wyddom yw cyfran y cyn-filwyr ymysg y boblogaeth ddigartref yng Nghymru, gan nad yw'r ffigurau hynny'n bodoli. Ysgrifennydd y Cabinet, a ydych yn hyderus fod awdurdodau lleol yn dilyn cyfamod y fyddin o ran sicrhau nad yw cyn-filwyr o dan anfantais mewn perthynas â thai? Ac a wnewch chi roi ymrwymiad hefyd y bydd eich adran yn edrych ar ddigartrefedd ymysg cyn-filwyr yng Nghymru i nodi maint y broblem, ac ystyried pa fesurau y gallwch eu rhoi ar waith i fynd i'r afael â'r problemau penodol hynny?