Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus – Senedd Cymru am 2:24 pm ar 21 Mawrth 2018.
Cytunaf gyda'r Aelod dros y Rhondda fod nifer o faterion y gall cyn-filwyr eu hwynebu wrth iddynt adael y lluoedd arfog a dychwelyd i fywyd sifil. Efallai y bydd yr Aelod yn ymwybodol ein bod yn datblygu llwybr cyflogaeth er mwyn mynd i'r afael â rhai o'r materion hynny a'n bod yn gweithio gydag awdurdodau lleol i ymdrin â materion sy'n ymwneud â digartrefedd hefyd. Rwy'n gwbl hyderus fod awdurdodau lleol yn gwneud popeth a allant i gyflawni'r ymrwymiadau a wnaethant o dan y cyfamod, ac yn sicr, rydym yn gweithio gyda llywodraeth leol i sicrhau bod hynny'n cael ei gyflawni ledled y wlad. Rwy'n ymwybodol o'r pwynt a wnaeth ynglŷn â gwybodaeth, ac rwy'n cytuno. Bûm yn gohebu â Gweinidog y DU yn y maes hwn cyn y Nadolig, ac rydym yn edrych ar sut y gallwn ddatblygu set o fatricsau i ddeall faint o gyn-filwyr a all fod yn ddigartref, ond hefyd i ddeall patrwm bywyd, os mynnwch, ar ôl bywyd yn y lluoedd arfog i gyn-filwyr ledled Cymru. A bydd hynny nid yn unig yn llywio'r modd yr awn i'r afael â digartrefedd a chyflogaeth, ond yr ystod gyfan o wasanaethau a ddarperir i gyn-filwyr.