Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:10 pm ar 17 Ebrill 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 2:10, 17 Ebrill 2018

A gaf fi ddweud, yn hanesyddol wrth gwrs, mai cynghorau Llafur oedd ar flaen y gad i sefydlu ysgolion Cymraeg, yn enwedig yn ne Cymru, felly mae yna record dda ynglŷn â hynny? Mae'n wir i ddweud, wrth gwrs, nad yw rhai awdurdodau wedi dod lan i'r safon y byddem ni'n ei herfyn. Rŷm ni wedi gofyn iddyn nhw sicrhau bod y cynlluniau eu hunain yn cael eu hail-wneud er mwyn inni allu symud ymlaen gyda'r targed uchelgeisiol sydd gyda ni. Mae'r Gweinidog yn mynd i siarad ag arweinwyr yr awdurdodau hynny sydd ddim wedi cael eu WESPs wedi'u caniatáu ar hyn o bryd. Rŷm ni'n moyn sicrhau bod pob WESP newydd yn cael ei roi i'r Llywodraeth erbyn diwedd mis Mai.