1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 17 Ebrill 2018.
7. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddatblygu cynlluniau strategol Cymraeg mewn addysg? OAQ51969
Penodwyd Aled Roberts ym mis Chwefror 2018 am gyfnod o 12 mis i weithredu argymhellion yr adolygiad cyflym o gynlluniau strategol Cymraeg mewn addysg. Mae 15 cynllun wedi cael eu cymeradwyo ac mae’r gwaith yn parhau gyda’r saith awdurdod sydd ar ôl. Rydym ni wedi ymrwymo i wella’r gwaith o gynllunio darpariaeth cyfrwng Cymraeg, fel y gwelir yn 'Cymraeg 2050'.
Yn bellach i'r ateb yna ac, yn naturiol, fel rydych chi wedi crybwyll eisoes, yn dilyn datganiad Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes ar 15 Mawrth, mae yna saith awdurdod lleol yn dal heb gael eu cynlluniau strategol Cymraeg mewn addysg wedi eu cymeradwyo gan eich Llywodraeth chi. Mae tri o'r awdurdodau hynny, sef Abertawe, Castell Nedd Port Talbot a Phen-y-bont, yn fy rhanbarth i. Yn wir, roedd eu cynlluniau drafft cyntaf yn warthus ac yn embaras llwyr wrth feddwl am darged eich Llywodraeth chi i gyrraedd 1 miliwn o siaradwyr Cymraeg. A ydych chi felly yn siomedig gan ddiffyg gweledigaeth a diffyg uchelgais y cynghorau Llafur yma yn y de-orllewin, a beth ydych chi'n ei wneud fel Llywodraeth i symud pethau ymlaen?
A gaf fi ddweud, yn hanesyddol wrth gwrs, mai cynghorau Llafur oedd ar flaen y gad i sefydlu ysgolion Cymraeg, yn enwedig yn ne Cymru, felly mae yna record dda ynglŷn â hynny? Mae'n wir i ddweud, wrth gwrs, nad yw rhai awdurdodau wedi dod lan i'r safon y byddem ni'n ei herfyn. Rŷm ni wedi gofyn iddyn nhw sicrhau bod y cynlluniau eu hunain yn cael eu hail-wneud er mwyn inni allu symud ymlaen gyda'r targed uchelgeisiol sydd gyda ni. Mae'r Gweinidog yn mynd i siarad ag arweinwyr yr awdurdodau hynny sydd ddim wedi cael eu WESPs wedi'u caniatáu ar hyn o bryd. Rŷm ni'n moyn sicrhau bod pob WESP newydd yn cael ei roi i'r Llywodraeth erbyn diwedd mis Mai.