Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:09 pm ar 17 Ebrill 2018.
Yn bellach i'r ateb yna ac, yn naturiol, fel rydych chi wedi crybwyll eisoes, yn dilyn datganiad Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes ar 15 Mawrth, mae yna saith awdurdod lleol yn dal heb gael eu cynlluniau strategol Cymraeg mewn addysg wedi eu cymeradwyo gan eich Llywodraeth chi. Mae tri o'r awdurdodau hynny, sef Abertawe, Castell Nedd Port Talbot a Phen-y-bont, yn fy rhanbarth i. Yn wir, roedd eu cynlluniau drafft cyntaf yn warthus ac yn embaras llwyr wrth feddwl am darged eich Llywodraeth chi i gyrraedd 1 miliwn o siaradwyr Cymraeg. A ydych chi felly yn siomedig gan ddiffyg gweledigaeth a diffyg uchelgais y cynghorau Llafur yma yn y de-orllewin, a beth ydych chi'n ei wneud fel Llywodraeth i symud pethau ymlaen?