Part of the debate – Senedd Cymru am 3:15 pm ar 17 Ebrill 2018.
A gaf i ddiolch i'r Gweinidog am ei ddatganiad? Mae'n iawn, mae yn Fil technegol, ond rydw i'n edrych ymlaen at fynd i'r afael â'r Bil wrth i'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg graffu ar y Bil dros yr wythnosau a'r misoedd nesaf yma.
Nawr, rydw i eisiau dechrau drwy daro nodyn o gonsérn, efallai, oherwydd byddwch chi'n gwybod bod Plaid Cymru yn cefnogi'r egwyddor o ehangu'r ddarpariaeth gofal plant yng Nghymru. Mae Plaid Cymru eisiau ei ehangu i bob plentyn tair i bedair oed yng Nghymru ac nid ei gyfyngu i blant o deuluoedd sy'n gweithio yn unig. Mi ddaeth hi'n glir o'r dystiolaeth a roddoch chi ychydig fisoedd yn ôl i'r pwyllgor fod y Llywodraeth yn dod at hwn o bersbectif y rhieni a'r elfen economaidd, efallai, yn fwy na'r elfen plant, tra, efallai, ein bod ni, fel Plaid—rŷm ni'n teimlo mai'r plant yw ffocws canolog y polisi yma, a gwella cyfleoedd bywyd neu addysgiadol y plant yna yn benodol. Felly, rydym ni'n cyd-weld â'r comisiynydd plant a'r adroddiadau sydd wedi cael eu cyhoeddi gan Achub y Plant ac eraill. Rŷm ni'n rhannu eu consérn nhw fod allgau plant o gartrefi di-waith o'r cynllun yma yn mynd i greu risg o ehangu'r bwlch addysg yna rhwng y rhai mwyaf difreintiedig a'u cyfoedion efallai ychydig yn llai difreintiedig, yn lle cau'r bwlch yna. Rydym ni am wneud cyfleoedd bywyd plant yn fwy cyfartal. Rydw i'n siŵr y byddwch chi'n cyfeirio at rai o'r rhaglenni eraill sy'n bodoli i gefnogi plant difreintiedig, fel Dechrau'n Deg ac yn y blaen, ond rŷm ni hefyd yn gwybod fod y rhan fwyaf o blant difreintiedig yn byw y tu allan i'r ardaloedd hynny. Felly, mae yna fwlch yn dal yn mynd i fod yn y ddarpariaeth, a hwnnw'n fwlch pwysig, rŷm ni'n teimlo, sy'n gorfod bod yn flaenoriaeth i ni fynd i'r afael â hyn.