Part of the debate – Senedd Cymru am 4:00 pm ar 17 Ebrill 2018.
Rwy'n credu y dylech fod wedi cyhoeddi hyn yn y Siambr, nid i aelodau eich plaid, ac a dweud y gwir, mae'n wir wrthun gennyf, oherwydd chi fyddai'r cyntaf i weiddi a beirniadu'r math hwn o ymddygiad pan oeddech chi ar feinciau'r gwrthbleidiau cyn ichi ymuno â'r Llywodraeth ddi-drefn hon, felly rwy'n siomedig iawn eich bod chi wedi gwneud y cyhoeddiad yn y modd hwn, a chredaf ei fod yn dangos diffyg parch sylweddol tuag at y pwyllgor plant a phobl ifanc yn arbennig, yn enwedig gan ein bod yng nghanol ymchwiliad i gyllid wedi'i dargedu ar gyfer plant a phobl ifanc yn ein hysgolion. Ac rydych yn gwybod, o fewn maes yr ymchwiliad hwnnw, ein bod ni'n edrych ar y grant datblygu disgyblion a'i effeithiolrwydd ac fe fyddwn, mae'n debyg, yn gwneud nifer fawr o argymhellion ynghylch ffurf y grant hwnnw yn y dyfodol. Felly, wn i ddim pam yr ydych chi wedi gwneud hyn yn awr. Dylech chi fod wedi aros i gael yr adroddiad hwnnw, yn hytrach nag achub y blaen gyda rhagymosodiad heddiw. Felly, siomedig iawn yn wir, ac yr wyf yn siomedig iawn eich bod chi wedi gosod o'r neilltu'r moesau yr oedd gennych pan oeddech chi yn yr wrthblaid o ran y mathau hyn o gyhoeddiadau.
Yn awr, wedi dweud hynny, mae gennyf nifer o gwestiynau, fel y gallwch ddychmygu, ynglŷn â'ch cyhoeddiad. Rydych wedi nodi eich bod wedi rhoi rhywfaint o sicrwydd i awdurdodau addysg lleol o ran yr arian yr ydych wedi ei ddarparu hyd at ddiwedd tymor y Cynulliad, ond, fel y deallaf, rydych wedi seilio'r dyraniadau ar ddata cyfrifiad ysgolion 2016. Pam y dewisoch chi seilio'r dyraniadau ar ddata cyfrifiad ysgolion 2016 yn hytrach nag un 2017, sydd ar gael i chi? A yw wedi'i sefydlu nawr ar ddata 2016, er eich bod chi'n gwybod bod niferoedd y plant a phobl ifanc a allai fod yn gymwys ar gyfer grant amddifadedd disgyblion yn newid o flwyddyn i flwyddyn yn ein hysgolion? Mae ysgolion yn fy etholaeth i fy hun wedi cysylltu i ddweud 'Dydyn ni ddim wedi cael ceiniog o'r grant amddifadedd disgyblion eleni, er bod gennym ddisgyblion a ddylai fod â hawl i'r grant, yn ôl meini prawf Llywodraeth Cymru, ac mae hyn oherwydd eu bod wedi defnyddio hen ddata o'r flwyddyn flaenorol'. Pam dewisoch chi wneud hynny? Yn sicr dydi hynny ddim yn ymddangos yn deg o gwbl. Felly, gwerthfawrogwn eglurhad ynglŷn â pham wnaethoch chi hynny.
Yr wyf yn falch o glywed eich bod yn cydnabod ei bod hi'n bwysig iawn bod pob dysgwr sydd â hawl i'r grant hwn yn cael y cyfle i ddatblygu i'w botensial llawn, gan gynnwys y rhai sy'n fwy galluog a thalentog. Un peth sydd wedi bod yn glir iawn o'r dystiolaeth sydd wedi cyrraedd y Pwyllgor yw eu bod wedi eu hanwybyddu i raddau helaeth hyd yma o ran yr ymdrechion sydd wedi'u gwneud, a chredaf ei bod yn bwysig iawn, nid yn unig eich bod yn anfon neges glir gan ddweud ychydig o eiriau yn y Siambr hon, ond bod canllawiau clir ac ymarferol yn cael eu rhoi i'n hawdurdodau addysg lleol, consortia rhanbarthol ac i'n hysgolion. Felly, gofynnaf i chi: a wnewch chi gyhoeddi canllawiau o'r fath yn y dyfodol ar bethau sydd ar gael i bobl eu defnyddio, sydd yn unol ag arfer gorau i gyflawni'r canlyniadau gorau posibl ar gyfer y dysgwyr hynny?
Fe gyfeirioch at y ffaith mai nod y gronfa hon yw cau'r bwlch o ran cyrhaeddiad addysgol. Rydym yn gwybod bod y bwlch hwnnw wedi agor yn sylweddol yn 2017. Yn awr, yr wyf yn gwerthfawrogi eich bod yn dweud na allwch gymharu'n uniongyrchol â'r flwyddyn flaenorol o reidrwydd oherwydd rydych wedi newid y mesurau; mae'n beth arferol i bob Llywodraeth newid mesurau pan nad ydy hi'n hoffi'r mesurau sydd yn eu lle, ond y realiti yw, hyd yn oed os gymrwch chi'r newidiadau hynny yn y mesurau i ystyriaeth, roedd y bwlch yn dal i dyfu. Felly, er gwaetha'r ffaith eich bod yn cynyddu'r grant datblygu disgyblion, mae'n ymddangos fod ei effeithiolrwydd yn lleihau o ran ei allu i gau'r bwlch hwnnw. Felly, tybed pa waith yr ydych yn ei wneud i ganfod pam yn union fod y bwlch hwnnw'n tyfu er gwaethaf yr adnoddau ychwanegol yr ydych yn eu rhoi i mewn.
Yn olaf, os caf, un cwestiwn y mae llawer o bobl yn gofyn imi yw pam nad oes neb yn cydnabod yr unigolion hynny nad ydynt yn gymwys ar gyfer prydau ysgol am ddim, mewn ysgolion ble mae'r cyllid wedi gostwng yn sylweddol o ganlyniad i'r ymgyrch gynyddol i gynyddu'r grant hwn ar draul y pot cyllid cyffredinol ar gyfer ein hysgolion. Fe wyddoch chi a fi ein dau, pan fyddwch yn cynyddu grant penodol, fod yn rhaid i chi leihau'r dyraniad gwariant cyffredinol y mae'r ysgolion yn ei gael. Ceir llawer o rieni yn crafu byw yn yr ysgolion hynny ble mae gennych chi bobl ifanc sydd o gefndiroedd difreintiedig, ac, a dweud y gwir, nid yw'r mesur a ddefnyddiwn ar gyfer prydau ysgol am ddim, o reidrwydd yr un gorau, ac, unwaith eto, mae hyn wedi dod yn amlwg yn rhywfaint o'r dystiolaeth. Nawr, un o'r pethau sydd wedi ei awgrymu yw defnyddio'r mesur Ever 6, sy'n edrych ar yr unigolion sydd wedi bod yn gymwys ar gyfer prydau ysgol am ddim dros y chwe blynedd diwethaf, yn hytrach na chymryd un cipolwg yn ystod un flwyddyn arbennig. Tybed a ydych chi wedi ystyried defnyddio mesur Ever 6 erioed o ran cymhwysedd, yn hytrach na'r meini prawf cymhwysedd yr ydych yn eu defnyddio ar hyn o bryd. Diolch.