Part of the debate – Senedd Cymru am 4:05 pm ar 17 Ebrill 2018.
A gaf i ddiolch i Darren am ei gyfres o gwestiynau? Efallai y gallaf ddechrau lle y gorffennodd ef. Ar y naill llaw, dywed Darren, 'Rydych yn gwario gormod o arian ar y grant datblygu disgyblion, a hynny ar draul plant heb grant datblygu disgyblion yn yr ysgolion,' ac ar y llaw arall, mae'n dweud, 'Pam nad ydych wedi cyflwyno Ever 6 erioed?' [Torri ar draws.] 'Pam nad ydych wedi cyflwyno Ever 6 erioed?' Byddwn wrth fy modd—ac rwyf wedi edrych yn ofalus iawn ar yr egwyddor o allu cyflwyno system Ever 6 yma gyda grant datblygu disgyblion Cymru. Yn syml, nid yw'r adnoddau ar gael imi wneud hynny. I weithredu Ever 6 byddwn yn gwneud beth oedd Darren yn fy nghyhuddo o'i wneud—sef blaenoriaethu gwario ar y grant hwn ar draul plant eraill. Nawr, Darren, byddwn yn cytuno â chi nad prydau ysgol am ddim yw'r procsi perffaith ar gyfer diffinio anfantais, ond, ar yr adeg hon ac yn absenoldeb unrhyw beth arall, hwn yw'r procsi gorau sydd gennym ar hyn o bryd.
Gofynnodd Darren hefyd am y mater o arfer gorau. Yn gynyddol, rydym yn ymwybodol o'r hyn sy'n gweithio ar gyfer ein plant mwyaf difreintiedig, ac rydym eisoes wedi cyhoeddi canllawiau i ysgolion ac i gonsortia rhanbarthol unigol ynglŷn â defnyddio dull sy'n seiliedig ar dystiolaeth i wario'r adnoddau hyn. Un o'r adnoddau mwyaf hygyrch yw pecyn cymorth Ymddiriedolaeth Sutton, y gwn fod Darren a'r Pwyllgor yn gyfarwydd iawn ag ef, fel ymyriad seiliedig ar dystiolaeth sy'n gyfarwydd i ni yr ydym yn gwybod ei fod yn gweithio. Bydd Darren hefyd yn gwybod, o'r dystiolaeth a roddais i'r Pwyllgor cyn toriad y Pasg, ein bod ni'n ystyried edrych ar fersiwn i Gymru o becyn cymorth Ymddiriedolaeth Sutton, gan adeiladu ar ymyriadau Cymru, profiad Cymreig, ac ar yr hyn y gwyddom ni sy'n gweithio yma yn ein hysgolion. Ond, fel y dywedais yn fy natganiad agoriadol, mae Estyn ei hunan wedi dweud bod hwn yn un grant lle ceir tystiolaeth helaeth bod ysgolion yn defnyddio tystiolaeth i gyfeirio eu buddsoddiadau.
Gofynnodd Darren ynghylch y mater yn ymwneud â data CYBLD 2016 a defnyddio data CYBLD. Yr hyn sy'n bwysig i'w ddeall yw bod dyraniadau'r grant datblygu disgyblion o hyd ar ei hôl hi—dyna sut y buont erioed. Gofynnodd Darren gwestiwn rhesymol iawn—pam y dewisom ni 2016 fel y sylfaen ar gyfer y ddwy flynedd nesaf? Fe wnes i hynny am reswm syml iawn, Llywydd dros dro. Fe ddefnyddion ni'r data hwnnw oherwydd y mae'n fy ngalluogi i roi cymaint o arian â phosibl i mewn i'r system, oherwydd, mewn gwirionedd, oherwydd amrywiaeth o ffactorau, mae prydau ysgol am ddim yn lleihau. Felly, mae 2016 yn rhoi mwy o arian imi na defnyddio data 2017, ac rydym wedi ei rewi am ddwy flynedd mewn ymgynghoriad â'r proffesiwn, oherwydd nid ydym yn gwybod, ar hyn o bryd, beth fydd effaith cyflwyno'r credyd cynhwysol ar brydau ysgol am ddim yng Nghymru. Efallai y gwelwn ni newidiadau mewn ymddygiad a fyddai'n arwain at amrywiadau enfawr yn y niferoedd sy'n cymryd prydau ysgol am ddim ac, felly, amrywiadau mawr mewn cyllidebau ysgolion unigol. Rydym wedi penderfynu ei bod yn well—mae'n well—gallu rhoi sicrwydd adnoddau ar gyfer ysgolion ar gyfer y ddwy flynedd nesaf er mwyn iddynt allu cynllunio, yn hytrach na chymryd siawns ar beth fydd effaith y credyd cynhwysol ar y ddarpariaeth o brydau ysgol am ddim, oherwydd nid wyf yn gwybod beth fydd hynny. Fi fyddai'r cyntaf i gyfaddef, Darren, bod ein hysgolion mewn cyfnod heriol iawn yn ariannol, sicrwydd o ran y gyllideb honno sy'n bwysig i'r ymarferwyr hynny, ac mae data 2016 yn rhoi mwy o arian imi na fyddai data 2017, ac rwy'n ceisio cael cymaint o arian ag y gallaf i mewn i'r system. A dyna'r rheswm dros y buddsoddiad hwnnw.
Mae'r ffigurau yn 2017 yn gymhleth, ac, er na allwn wneud cymariaethau uniongyrchol, yr oeddwn yn glir iawn yn fy natganiad bod y plant hynny yn llai gwydn i wrthsefyll y newidiadau i'w harholiadau na'u cyfoedion mwy cefnog, ac mae'n rhaid inni fod yn glir ynghylch y rhesymau dros hynny, ac mae llu o resymau—popeth o eirfa haen 2 a lefel llafaredd sydd eu hangen bellach i gael cymhwyster mathemateg, i bobl sy'n cael eu tynnu allan o bynciau craidd eraill er mwyn llwyddo mewn Saesneg a mathemateg. Ceir llu o resymau, ond rwyf hefyd yn ymchwilio i hyn gyda goruchwylwyr annibynnol ein system gymwysterau, Cymwysterau Cymru, i gael gwell dealltwriaeth. Ond gadewch i ni fod yn glir: ceir rhai ysgolion lle gwelir disgyblion sy'n cael prydau ysgol am ddim yn gwneud yn well na'r disgyblion nad ydynt yn cael prydau ysgol am ddim. Felly, Cefn Hengoed yn Abertawe: fe wnaeth y rhai sydd â hawl i brydau ysgol am ddim yn well yn eu harholiadau TGAU y llynedd na'u cymheiriaid mwy cefnog. Ceir rhai ysgolion o fewn Dinas Caerdydd gyda niferoedd tebyg iawn yn cael prydau ysgol am ddim. Mae gan rai o'r ysgolion hynny nifer sylweddol o'r disgyblion hynny yn llwyddo yn eu lefel 2 plws, a charfan debyg yn yr un ddinas heb wneud cystal. Ac mae'r amrywiad yna yn y system, lle mae rhai ysgolion wedi gallu ynysu eu disgyblion sy'n cael prydau ysgol am ddim a'u datblygu'n llwyddiannus, ac ysgolion eraill yn yr un ddinas yn methu â gwneud hyn, yn fy mhryderu. A dyna pam y byddwn ni'n disgwyl i'n cydgysylltwyr grant datblygu disgyblion yn ein consortia rhanbarthol sicrhau bod arferion gorau—lle mae'r ysgolion hynny sy'n mynd yn groes i'r duedd a'r disgyblion yn gwneud yn dda, bod eu harferion da yn cael eu rhannu'n gyson â'r holl ysgolion. Oherwydd os gall rhai wneud hynny, yna dylai pob un fod yn gallu gwneud hynny.