1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid – Senedd Cymru ar 18 Ebrill 2018.
1. Pa gyllid ychwanegol y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn ei ddarparu i'r portffolio gwasanaethau cyhoeddus a llywodraeth leol i gefnogi pobl sydd mewn dyled? OAQ51998
Diolch i'r Aelod am ei gwestiwn. Mae cyllid ychwanegol ar gyfer undebau credyd a'r gronfa cymorth dewisol wedi'i gynnwys yn y gyllideb llywodraeth leol a gwasanaethau cyhoeddus ar gyfer 2018-19. Pan fydd y Bil Cyfarwyddyd Ariannol a Hawliadau yn cwblhau ei daith drwy Senedd y DU, rydym yn rhagweld y bydd cyfrifoldeb a chyllid cyngor ar ddyledion yn cael eu trosglwyddo i Gymru.
A gaf fi ddiolch i'r Aelod o'r Cabinet am ei ateb? Efallai y gwyddoch ei bod yn Fis Ymwybyddiaeth Straen cenedlaethol y mis hwn, ac yn ôl y Debt Support Trust, o’r rheini sydd â dyledion difrifol, mae oddeutu hanner y bobl yn y sefyllfa honno yn dioddef o anawsterau iechyd meddwl ac yn ystyried hunanladdiad. Mae'n straen aruthrol ar bobl. Yn 2017, rhoddodd canolfannau cyngor ar bopeth gymorth i 28,500 o bobl â phroblemau dyled ledled Cymru, ac roedd llawer o'r problemau hynny yn ymwneud â chardiau a dyledion benthyciadau. Felly, credaf ei bod yn bwysig ein bod yn edrych ar faint y gallwn ei roi i'r maes cyngor a chymorth. Gwn fod £4.4 miliwn wedi’i nodi yn y Cynulliad diwethaf ar gyfer gwasanaethau rheng flaen, a chan mai ni bellach fydd yn bennaf gyfrifol am gyngor ar ddyledion yn y dyfodol agos, rwy'n gobeithio y bydd hyn yn flaenoriaeth uchel yn ystyriaethau'r Gweinidog.
Diolch i'r Aelod am ei gwestiwn atodol. Rydym yn darparu bron i £6 miliwn eleni i gefnogi sefydliadau fel Cyngor ar Bopeth, Shelter ac Age Cymru, i ddarparu cyngor ledled Cymru ar faterion lles cymdeithasol, gan gynnwys gwella incwm aelwydydd a rheoli dyledion aelwydydd. Rhwng mis Ebrill a mis Rhagfyr y llynedd, rhoddodd canolfannau cyngor ar bopeth gymorth i 43,000 o bobl yn y categori hwnnw, gan helpu i sicrhau incwm ychwanegol o £28 miliwn i'r teuluoedd hynny yma yng Nghymru.
Cytunaf yn llwyr â'r Aelod fod cysylltiad anochel rhwng dyled a lefelau uchel o straen ac anawsterau mewn rhannau eraill o fywydau pobl. Rwy’n cymryd rhan mewn trafodaethau â llywodraeth leol yng Nghymru ynglŷn â dyled y dreth gyngor. Mae dyled y dreth gyngor i fod i nodi a yw aelwydydd yn fregus mewn meysydd eraill. Mae rhai awdurdodau lleol yng Nghymru yn gwneud hyn yn dda iawn. Nid oes gan rai awdurdodau lleol yng Nghymru unrhyw bolisi o gwbl ar fregusrwydd, felly yn sicr, mae mwy y gellir ei wneud, nid yn unig o ran cyllid, ond o ran y ffordd y caiff y gwasanaethau hyn eu cyflawni ar lawr gwlad.
Un peth sy'n debygol o achosi i fwy o bobl fynd i ddyled ydy'r cyfnod y bydd rhaid iddyn nhw ddisgwyl ar gyfer eu taliad cyntaf o gredyd cynhwysol. Bydd derbyn taliadau bob mis ar ôl y taliad cyntaf yn creu problemau mawr, problemau dyled i lawer. Methu deall ydw i pam mae eich Llywodraeth chi mor gyndyn i gymryd rheolaeth o elfennau o weinyddu'r system budd-daliadau a'r fframwaith gyllidol a fyddai'n dilyn hynny. Byddai modd wedyn i Gymru symud i system o wneud taliadau credyd cynhwysol bob pythefnos, gan liniaru rhai o'r problemau dyled y mae awdurdodau lleol Cymru yn mynd i'w hwynebu yn sgil credyd cynhwysol.
Wel, rwy'n clywed beth mae'r Aelod yn ei ddweud, ac, wrth gwrs, rwy'n cytuno gyda hi am yr effaith mae'r problemau yn y byd budd-daliadau yn cael ar bobl sy'n dibynnu ar fudd-daliadau. Mae'r cwestiwn ai'r peth gorau i'w wneud yw trosglwyddo cyfrifoldebau am fudd-daliadau i Gymru yn rhywbeth bach yn fwy eang na'r cwestiwn sydd gyda ni heddiw, ac mae lot o bethau, yn fwy na'r pwynt roedd yr Aelod yn ei godi, i'w hystyried os ydym ni'n mynd i fynd lawr y llwybr yna. Ar hyn o bryd, nid wyf yn meddwl bod yr achos wedi cael ei wneud yn ddigon cryf i gytuno ar y llwybr yna.
A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi sylwadau ar y ffaith mai un o'r prif resymau dros ddyledion cynyddol yn y DU yw effaith andwyol toriadau pellach Llywodraeth y DU i fudd-daliadau oedran gweithio o 1 Ebrill? Dyma’r set fwyaf ond un o doriadau i'r gyllideb fudd-daliadau yn y degawd diwethaf. Maent yn effeithio ar oddeutu 11 miliwn o deuluoedd, gyda thoriadau o £2.5 biliwn i fudd-daliadau oedran gweithio, a budd-daliadau oedran gweithio yn cael eu rhewi, ar gyfer y flwyddyn hon, ac elfen deuluol y cymorth ar gyfer hawliadau credyd treth a chredyd cynhwysol newydd gan deuluoedd â phlant wedi ei diddymu, gan gostio hyd at £545 i'r teuluoedd hynny. A wnaiff roi sylwadau pellach hefyd ar y rôl fuddiol y soniwyd amdani heddiw, ac y gallai'r gwasanaethau cynghori, yr undebau credyd, a mabwysiadu'r cyflog byw go iawn ei chwarae er mwyn cefnogi pobl mewn dyled, gyda chymorth Llywodraeth Cymru?
A gaf fi gytuno'n llwyr â Jane Hutt? Dywedais yn fy ateb gwreiddiol fod Llywodraeth Cymru, wrth gwrs, yn awyddus i barhau i fuddsoddi mewn gwasanaethau cynghori. Ond mae'n warthus fod yn rhaid inni ddarparu'r gwasanaethau hynny i bobl y mae Llywodraeth y DU yn lleihau eu hincwm yn fwriadol pan fo’r bobl hynny'n byw ar ymylon tlodi.
Yn y Cynulliad ddoe, ceisiodd nifer o Aelodau benywaidd gael trafodaeth ynglŷn ag adroddiad y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol a gyhoeddwyd yn ystod y toriad, gan gynnwys arweinydd Plaid Cymru, gan fod y ffigurau yn yr adroddiad hwnnw yn hollol syfrdanol, a dylent beri pryder i bob Aelod o'r Cynulliad hwn. Caiff 50,000 o blant ychwanegol eu gorfodi i fyw mewn tlodi yng Nghymru, nid drwy ddamwain, nid oherwydd bod rhywun wedi colli eu gwaith, nid oherwydd bod dirywiad wedi bod yn yr economi, ond o ganlyniad i benderfyniadau bwriadol Llywodraeth y DU i rewi budd-daliadau’r teuluoedd sy’n byw ar y lleiaf oll. A bydd hynny’n effeithio nid yn unig ar blant, ond bydd yn effeithio'n anghymesur ar fenywod hefyd. Awgrymai'r amcangyfrifon yn yr adroddiad hwnnw y bydd menywod yn colli £350 y flwyddyn ar gyfartaledd o ganlyniad i’r toriadau hyn i’r budd-daliadau, tra bydd dynion yn ennill oddeutu £15. Mae'r Aelod yn berffaith iawn i nodi'r achosion sydd wrth wraidd yr angen am gyngor ar ddyledion yng Nghymru, ac i nodi'r atebion, megis y cyflog byw go iawn, a fyddai'n cael effaith wirioneddol ar amgylchiadau'r teuluoedd sy'n byw yn yr amgylchiadau gwaethaf, mewn tlodi cynyddol, a’u rhagolygon ar gyfer y dyfodol o dan y fath fygythiad.