Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid – Senedd Cymru am 1:45 pm ar 18 Ebrill 2018.
Ni chredaf fod hynny'n wir. Credaf fod tystiolaeth fod bancio tir yn digwydd mewn rhai rhannau o Gymru. Rwyf eisoes wedi cyfeirio yn y Siambr at ein cronfa safleoedd segur, sy'n dangos bod yna dros 400 o safleoedd yng Nghymru na ellir eu cyflwyno i'w defnyddio at ddibenion cynhyrchiol, gan fod angen gwaith adfer, neu am fod yr angen i ddarparu gwasanaethau ar gyfer y tir hwnnw yn golygu nad yw'r tir yn cael ei ddefnyddio'n gynhyrchiol. Mae ein cronfa safleoedd segur, gyda £40 miliwn o fuddsoddiad ar gael gan Lywodraeth Cymru ar ei chyfer, wedi'i chynllunio i helpu i unioni'r sefyllfa honno.
Credaf ei bod yn bwysig iawn i mi nodi nad diben treth ar dir gwag yw cosbi unrhyw un sy'n gwneud eu gorau glas i sicrhau bod y tir hwnnw'n cael ei ddefnyddio, ond darparu cymhelliad ychwanegol i bobl sy'n eistedd ar dir gan obeithio y bydd y gwaith y mae'r cyhoedd wedi'i wneud yn darparu caniatâd cynllunio iddynt ac ati yn arwain at gynyddu gwerth y tir, a heb wneud unrhyw beth o gwbl eu hunain, byddant yn gallu elwa ar hynny drwy werthu'r tir yn y dyfodol.
Fodd bynnag, Lywydd, mae'r broses yn bwysig iawn, oherwydd ar hyn o bryd rydym megis dechrau'r broses hon a bydd llawer o'r cwestiynau a godwyd gan yr Aelod a chwestiynau manwl eraill yn rhan o'r gwaith y byddwn yn awyddus i'w wneud pan fyddwn yn gwybod bod y grym wedi'i drosglwyddo inni fwrw ymlaen ymhellach â'r syniad hwn.