Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid – Senedd Cymru am 1:46 pm ar 18 Ebrill 2018.
Rwy'n derbyn yr hyn a ddywed yr Ysgrifennydd cyllid yn llwyr. Yn amlwg, os ydym am gael treth o'r fath, mae angen inni sylweddoli y gall yr effeithiau ymddygiadol y gallai eu hachosi fod yn groes i hynny hefyd—pwynt y dof ato yn y man. Er y credir yn gyffredinol fod hon yn broblem y mae angen mynd i'r afael â hi mewn ardaloedd trefol, mae effaith bosibl ar ardaloedd gwledig hefyd. Yn ôl syrfëwr gwledig ar gyfer Cymdeithas Tir a Busnesau Cefn Gwlad Cymru, Charles De Winton,
Efallai na fydd datblygu rhai plotiau gwledig bach yn ymarferol. Mae'n anochel y bydd treth sy'n eu gorfodi i gael eu datblygu yn cynyddu cost eu datblygu—cost a fydd yn cael ei throsglwyddo i'r defnyddiwr terfynol. Nid yw hyn o gymorth inni fynd i'r afael â'r argyfwng o ran argaeledd cartrefi gwledig.
Awgrymai ymchwil y Gymdeithas Tir a Busnesau Cefn Gwlad yng Nghymru fod mwy na thraean o'r £1.3 biliwn sy'n mynd i mewn i'r economi'n flynyddol gan dirfeddianwyr gwledig eisoes yn mynd i mewn i ddatblygu preswyl. Un o'r problemau mawr gyda safleoedd datblygu, wrth gwrs, yw caniatâd cynllunio a'r oedi a all ddeillio o hynny weithiau. Felly, mae datblygwyr posibl yn aml mewn sefyllfa lle maent yn eistedd ar dir gwag yn erbyn eu hewyllys. Gwyddom fod llawer o safleoedd o'n cwmpas yma ym Mae Caerdydd sy'n edrych fel safleoedd ardderchog ond sy'n parhau i fod heb eu datblygu am nad oes prynwyr am ba reswm bynnag. Felly, mae hwn yn fater y dylid mynd i'r afael ag ef mewn ffordd sensitif a gofalus.