Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid – Senedd Cymru am 1:51 pm ar 18 Ebrill 2018.
Wel, Lywydd, fe ddechreuaf drwy groesawu'r ffaith bod gweithgynhyrchwyr wedi cymryd camau i leihau faint o siwgr sydd yn eu cynnyrch, ac i ailffurfio'r ffordd y caiff cynhyrchion eu dwyn i'r farchnad er mwyn dylanwadu ar ordewdra. Rwy'n gresynu at y ffaith bod y dreth siwgr wedi'i chyhoeddi mewn cyllideb heb unrhyw gyfeiriad at y gweinyddiaethau datganoledig, er ei bod yn effeithio'n uniongyrchol ar ein cyfrifoldebau. Felly, nid oedd modd inni gyfrannu at ddadl a allai fod wedi tynnu sylw at rai o ganlyniadau anfwriadol posibl y dreth fel y mae ar hyn o bryd.
Mae arian wedi'i drosglwyddo i gyllideb Cymru o ganlyniad i hynny. Bydd o gymorth, yn rhannol, i fwrw ymlaen â chynlluniau megis y rhaglen ordewdra ataliadwy y mae fy nghyd-Aelod Vaughan Gething yn ei rhoi ar waith, ond mae'n caniatáu inni wneud pethau eraill hefyd. Mae'n caniatáu inni gefnogi'r rhaglen brecwast iach am ddim yn ein hysgolion cynradd; mae'n ein cynorthwyo i gyflwyno'r rhaglen cyfoethogi gwyliau ysgol newydd, sy'n helpu i fwydo plant yn ystod gwyliau'r ysgol, a fyddai'n mynd heb fwyd fel arall; ac mae'n caniatáu inni wneud sawl peth arall yn y maes a grybwyllwyd gan yr Aelod, i'n helpu i ddylanwadu ar broblemau gordewdra, sy'n dra hysbys ac yn dra chyfarwydd.