1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid – Senedd Cymru ar 18 Ebrill 2018.
2. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am weithredu'r trethi datganoledig newydd cyntaf ers iddynt ddod i rym ar 1 Ebrill 2018? OAQ51976
Diolch, wrth gwrs, am y cwestiwn. Mae’r arwyddion cychwynnol yn awgrymu dechrau llwyddiannus i’r gwaith o weinyddu trethi datganoledig ers 1 Ebrill. Yn gynharach heddiw, cyhoeddodd Awdurdod Cyllid Cymru y cyntaf mewn cyfres reolaidd o ddatganiadau ystadegol. Mae’n dangos bod 1,100 o sefydliadau wedi cofrestru gyda’r awdurdod ar gyfer y dreth trafodiadau tir.
Diolch am y diweddariad gan yr Ysgrifennydd Cabinet, ac rwy'n siŵr ein bod ni'n diolch i Awdurdod Cyllid Cymru am ei waith ac am beth sydd yn ymddangos, felly, yn gychwyn llwyddiannus, fel mae e'n ei ddweud, ar gyfnod newydd yn hanes cyfansoddiadol Cymru. Byddwch chi, wrth gwrs, yn gwybod bod y pethau yma yn broses yn hytrach na digwyddiad, ac, fel rhan o'r broses, rydych chi wedi gosod allan hefyd yn y rhaglen waith drethiannol syniadau ar gyfer trethi newydd, neu ddatblygiadau trethi yng Nghymru, gan gynnwys, wrth gwrs, weithio gyda Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol ar lefi plastig o bosibl, a gweithio fan hyn yng Nghymru ar dreth ar dir gwag. A fedrwch chi ddiweddaru'r Siambr ynglŷn â'r broses yna a'r rhaglen waith yna, ac ym mha ffordd rydych chi wedi llwyddo i drafod, ai peidio, gyda Llywodraeth San Steffan ynglŷn â'r trethi newydd yma hefyd.
Diolch i Simon am y cwestiwn yna. Jest i ddweud, mae'r llwyddiant y mae'r awdurdod yn ei gael ar hyn o bryd yn dod mâs o'r gwaith caled sydd wedi bod ar y gweill dros y blynyddoedd, yn cynnwys gwaith y pwyllgor hefyd, sydd wedi bod yn rhan o baratoi'r awdurdod am y gwaith maen nhw nawr yn ei wneud. Ar y trethi newydd a'r awgrymiadau yna, rydym ni'n bwrw ymlaen i wneud gwaith gyda Llywodraeth y Deyrnas Unedig ar fwy nag un ochr. Rydym ni'n siarad gyda nhw am beth maen nhw'n ei wneud ym maes plastig, ac rydym ni wedi cytuno i helpu arwain y ddadl yma yng Nghymru, ac i fwydo i fewn am y galw am evidence—rydw i wedi anghofio'r gair am 'evidence'. Tystiolaeth, wrth gwrs—yr alwad am dystiolaeth y mae'r Trysorlys wedi ei gwneud ym mis Mawrth.
Rydym ni hefyd eisiau dechrau trafod pethau gyda nhw am waith Gerry Holtham a beth mae e wedi awgrymu ym maes gofal. Ond rydw i wedi ysgrifennu—ac rydw i wedi rhannu'r llythyr gyda'r Pwyllgor Cyllid—yn swyddogol nawr at y Trysorlys i ddechrau'r broses ym maes tir gwag. Dyna'r un rydym ni eisiau ei dreialu i ddefnyddio'r system newydd sydd gyda ni yn Neddf 2014. Rydw i wedi ysgrifennu at y Trysorlys. Rydym ni'n paratoi ar lefel swyddogol y gwaith sydd i'w wneud gyda nhw, ac rydw i'n edrych ymlaen i gael ateb positif ganddyn nhw ac i ddechrau'r gwaith yma yn y Cynulliad—y gwaith mwy manwl ar y polisi—ac i weld a fydd e'n bosibl i ddod â'r Bil ymlaen ar lawr y Cynulliad ac i greu'r dreth gyntaf jest i Gymru drwy'r broses sydd gyda ni.
Yn ei ddadansoddiad diweddaraf o swyddfeydd Caerdydd, dywed Ross Griffin, cyfarwyddwr buddsoddi y DU yn Savills, y bydd cynyddu’r dreth stamp i 6 y cant ar ddatblygiadau swyddfeydd sylweddol yn rhwystro buddsoddiad drwy wneud Cymru yn lle drytach wrth i fuddsoddwyr dargedu dinasoedd rhanbarthol yn Lloegr yn lle Caerdydd, gan dorri llif y cyfalaf i farchnad Caerdydd. Daw i'r casgliad y bydd hyn yn cyfyngu ar dwf marchnad swyddfeydd Caerdydd yn y dyfodol a thwf cyflogaeth yn y ddinas yn y dyfodol. Sut y bydd hyn o gymorth i fy etholwyr a phobl eraill sy'n awyddus i weithio yng Nghaerdydd?
Wel, Lywydd, byddwn bellach yn canolbwyntio ar gasglu tystiolaeth yn hytrach na chyfnewid damcaniaethau. Mae'r Cynulliad Cenedlaethol hwn wedi gwneud y penderfyniad ar lefelau trethiant eiddo annomestig ar gyfer y flwyddyn ariannol hon. Bydd 90 y cant o'r trafodion masnachol yng Nghymru yn denu'r gyfradd isaf o drethiant ledled y Deyrnas Unedig, gan fod 90 y cant o drafodion masnachol yn digwydd ar lefel o £1.1 miliwn neu lai, ac mae gennym y cyfraddau treth isaf ar gyfer y rhan honno o’n heconomi o gymharu ag unrhyw ran o'r Deyrnas Unedig. Clywais y ddadl a wnaed gan Mr Reckless ac eraill sy'n ei gwneud. Rwyf wedi cyfarfod â'r cwmnïau a'r unigolion hynny fy hun. Mae fy swyddogion wedi cyfarfod â hwy wedi hynny. Nid oedd y dadansoddiad a wnaed gan Fangor fel rhan o'n paratoadau yn awgrymu mai dyna fyddai’r canlyniadau, ond byddaf yn edrych yn ofalus iawn ar y dystiolaeth, ac os yw'r dystiolaeth yn awgrymu bod y canlyniadau a awgrymir yn yr erthygl honno'n rhywbeth a ddylai ymwneud â'r Cynulliad Cenedlaethol hwn, wrth gwrs, byddaf yn ystyried hynny mewn penderfyniadau a fydd yn cael eu gwneud ar gyfer y blynyddoedd i ddod.
A gaf fi groesawu'r atebion a roddwyd gan Ysgrifennydd y Cabinet i Simon Thomas? A gaf fi ychwanegu fy llais, unwaith eto, at y galwadau am dreth ar blastigion, sy'n rhywbeth y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi fy nghlywed yn ei ddweud ar fwy o achlysuron nag y byddai wedi hoffi gwrando arnynt, yn ôl pob tebyg?
Fy nghwestiwn, fodd bynnag, yw: a yw Llywodraeth Cymru wedi cynhyrchu proffil o dderbyniadau treth disgwyliedig o'r trethi datganoledig fel y gallwn wirio, yn y Pwyllgor Cyllid neu yn y Cynulliad yn llawn, sut y mae'r proffil yn gweithio yn erbyn yr hyn a ddisgwylir?
Lywydd, rydym wedi cynhyrchu amcangyfrifon o'r fath. Fe’u cyhoeddwyd gennym ochr yn ochr â'r gyllideb derfynol ym mis Rhagfyr y llynedd. Roeddent yn dangos, er enghraifft, ein bod yn rhagweld y bydd y dreth gwarediadau tirlenwi yn darparu £26 miliwn yn y flwyddyn ariannol gyfredol, gan ostwng, fel y bwriedir i’r dreth honno ei wneud, i £20 miliwn yn y flwyddyn 2021-2022. Ategir ein rhagolygon gan waith y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol. Cyhoeddwyd rhagolygon wedi'u diweddaru ganddynt ar gyfer dwy dreth ddatganoledig Cymru a chyfraddau treth incwm Cymru ym mis Mawrth eleni. Maent yn debyg ar y cyfan i'r ffigurau a gynhyrchwyd gennym ym mis Rhagfyr, a bydd y ddwy set o ffigurau ar gael i’r Pwyllgor Cyllid allu craffu ar berfformiad gwirioneddol y trethi hyn wrth i'r wybodaeth honno ddod ar gael eleni a thu hwnt.