Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid – Senedd Cymru am 1:56 pm ar 18 Ebrill 2018.
Ni chredaf y gall yr Aelod ddisgwyl cyfeirio at yr achosion hynny a dweud eu bod yn dystiolaeth go iawn. Rydym gwpl o wythnosau i mewn i gyfundrefn dreth newydd, ac ni chredaf y gall ef nac unrhyw un arall nodi un penderfyniad lle y gallai cwmni ddweud, 'Rydym wedi penderfynu peidio â dod i Gymru oherwydd y gyfradd o 6 y cant.' Mae'n gallu cynhyrchu'r canrannau uchel hynny am fod ganddo rifau isel, a dengys y rhifau isel fod effaith wirioneddol yr 1 y cant hwnnw'n fwy cymedrol o lawer nag y mae'n ei awgrymu.
Rwy'n glynu wrth y farn a oedd yn sail i'r penderfyniad a wneuthum ac a gyflwynais ar lawr y Cynulliad hwn, na fydd y gyfradd yn atal pobl rhag dod yma i Gymru, ac y bydd gostwng trethi i'r 90 y cant o drafodiadau eiddo masnachol yng Nghymru, gan sicrhau mai hwy yw'r isaf yn y Deyrnas Unedig, yn cael effaith ysgogol fwy o lawer ar fusnesau yng Nghymru na'r agwedd y mae'n cwyno amdani.
Fodd bynnag, mae'n rhaid i unrhyw unigolyn synhwyrol fod yn agored i'r dystiolaeth a cheir safbwyntiau gwahanol o ran sut y gall hyn effeithio ar y farchnad, a bellach, dros y misoedd nesaf, byddwn yn darganfod a oes effaith o'r fath, ac os cadarnheir hynny ac y ceir tystiolaeth go iawn, yna rwy'n ailadrodd yr hyn rwyf wedi'i ddweud, Lywydd, a byddai unrhyw un yn ystyried hynny wrth i'r penderfyniadau hyn gael eu hadolygu.