Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid – Senedd Cymru am 1:57 pm ar 18 Ebrill 2018.
A bod yn deg ag Ysgrifennydd y Cabinet, rydych yn llygad eich lle, mae'n ddyddiau cynnar, rwy'n derbyn hynny'n llwyr, ac yn amlwg, mae'n rhaid inni edrych ar y dystiolaeth. Byddem yn awyddus i gael ymagwedd sy'n seiliedig ar dystiolaeth at hyn, a buaswn hefyd yn derbyn fy mod wedi nodi ac wedi siarad cryn dipyn am un dreth, ond un dreth yn unig o becyn cyffredinol yw honno, ac mae'r economi yn cynnwys ysgogiadau gwahanol, ac efallai wir nad yw hyn ond yn un agwedd ar hynny. Fodd bynnag, ni ellir diystyru'r un agwedd honno wrth ymdrin â sefyllfaoedd ar ymylon economi. Gall hynny wneud gwahaniaeth. Rwy'n falch, mewn gwirionedd, eich bod wedi gadael y drws ar agor o ran newid cyfundrefn y dreth stamp o bosibl—cyfundrefn y dreth trafodiadau tir, dylwn ddweud—yn y dyfodol, os yw'r dystiolaeth honno'n peri problem.
Ysgrifennydd y Cabinet, nid oes gennyf unrhyw amheuaeth o gwbl eich bod yn dymuno bod yn gyfeillgar i fusnesau, fod Llywodraeth Cymru yn dymuno bod yn gyfeillgar i fusnesau, nid oes gennyf unrhyw amheuaeth o gwbl mai eich bwriad yw bod yn gyfeillgar i fusnesau, gan mai gwallgofddyn yn unig na fyddai'n dymuno hynny. Fodd bynnag, pan fyddwch yn edrych ar y dystiolaeth sydd gennym hyd yn hyn, buaswn yn dweud bod busnesau'n bryderus. Felly, a allwch ddweud wrthym, os edrychwch ar y lluosydd ardrethi yng Nghymru, er enghraifft, o gymharu â rhannau eraill o'r DU, mae'n sylweddol uwch. Mae hynny'n gwneud gwahaniaeth mewn perthynas ag ardrethi busnes. A allwch ddweud wrthym pa ryngweithio a fu rhyngoch hyd yn hyn, er ei fod yn gyfnod byr, ond pa ryngweithio a fu rhyngoch chi a busnesau hyd yn hyn, ac a oes unrhyw fusnesau wedi mynegi pryderon go iawn na fyddant yn buddsoddi yng Nghymru oherwydd y newidiadau hyn?