Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid – Senedd Cymru am 1:59 pm ar 18 Ebrill 2018.
Wel, rwyf wedi ateb y cwestiwn hwnnw, ond fe ailadroddaf unwaith eto: cyfarfûm â grŵp o fusnesau a oedd yn dadlau'r achos a wnaed yn blwmp ac yn blaen gennych chi y prynhawn yma, ac rwyf wedi gofyn i fy swyddogion gyfarfod â hwy wedi hynny fel y gallwn barhau mewn cysylltiad â hwy ac mewn sefyllfa dda i gasglu'r dystiolaeth y soniais amdani y prynhawn yma.
Mae ei bwynt ynglŷn a'r lluosydd yn un rhyfedd oherwydd yn Lloegr, lle mae ei blaid ef mewn grym, mae ganddynt luosydd ardrethi uwch, wrth gwrs, ar gyfer yr union fath o fusnesau y sonioch amdanynt y prynhawn yma. Mae'r busnesau mwyaf yn Lloegr yn talu cyfradd lluosydd uwch ac nid oes gennym y gyfradd lluosydd uwch honno yma yng Nghymru. Ac mae hynny oherwydd yn Lloegr, wrth gwrs, mae'n rhaid iddynt gasglu arian gan y busnesau ar y gyfradd uwch am fod y busnesau hynny ar y gyfradd uwch yn talu am y cynlluniau rhyddhad ardrethi y mae'r busnesau llai yn eu mwynhau yn Lloegr, tra bo'n cynlluniau rhyddhad ardrethi busnes yng Nghymru yn cael eu hariannu'n uniongyrchol gan Lywodraeth Cymru.