Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid – Senedd Cymru am 2:11 pm ar 18 Ebrill 2018.
Diolch iddi am ei chwestiwn pellach. Wrth gwrs, gwelais y datganiad ar bolisi cyfiawnder a wnaed gan fy nghyd-Aelod Alun Davies yn ystod y toriad. Pa bryd bynnag y ceir datblygiadau yn y maes hwn, rydym yn gweithio'n agos gyda'r Weinyddiaeth Gyfiawnder i sicrhau, os yw gweithgarwch heb ei ddatganoli yn cael ei ddatblygu yng Nghymru, y daw'r adnoddau angenrheidiol gydag ef. Rydym yn gwneud hynny, fodd bynnag, ar yr adeg pan wneir cynnig penodol y gellir cynnal y trafodaethau hynny yn ei gylch. Felly, yr ateb cyffredinol i gwestiwn yr Aelod yw, pe bai unrhyw gynigion, wrth gwrs y byddai'r trafodaethau hynny'n mynd rhagddynt, ond nid ydynt yn mynd rhagddynt yn yr achos penodol hwn, gan nad oes unrhyw beth ar y bwrdd y gellir canolbwyntio arno mewn trafodaethau o'r fath.