Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid – Senedd Cymru am 2:10 pm ar 18 Ebrill 2018.
Iawn. Diolch am eich ateb. Byddai goblygiadau ariannol i wariant y Llywodraeth pe bai carchar arfaethedig ym Mhort Talbot neu mewn man arall yng Nghymru yn mynd yn ei flaen. A ydych wedi gwneud unrhyw ddadansoddiad o'r effaith o ran sut y byddai angen i chi ddyrannu adnoddau ychwanegol i adrannau? Deallaf fod Ysgrifennydd y Cabinet dros wasanaethau cyhoeddus wedi gwneud datganiad yn ystod y toriad, lle y nodwyd yr effeithiau ar agweddau eraill ar wasanaethau cyhoeddus a pholisi fel rhan o'r rheswm dros gyhoeddi gohiriad. Felly, rwyf wedi cael peth gwybodaeth sy'n dangos effaith sylweddol ar adnoddau cyhoeddus mewn perthynas â charchardai sy'n bodoli eisoes, felly hoffwn ofyn: a ydych wedi rhoi unrhyw ystyriaeth, yn benodol, i'r effaith ar wasanaethau cyhoeddus yn ne Cymru a sut y byddai angen ichi newid y gyllideb, o bosibl, pe bai angen gwneud hynny?