1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid – Senedd Cymru ar 18 Ebrill 2018.
3. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am ymrwymiadau Llywodraeth Cymru ar gyfer gwariant mewn perthynas â'r portffolio llywodraeth leol a gwasanaethau cyhoeddus? OAQ52006
A gaf fi ddiolch i’r Aelod am y cwestiwn? Diau y caf i’r ateb iddo unrhyw eiliad nawr. Lywydd, bydd y portffolio llywodraeth leol a gwasanaethau cyhoeddus yn gwario £5.4 biliwn yn 2018-19, yn cynnwys £3.7 biliwn mewn refeniw, £209 miliwn mewn cyfalaf ac £1.1 biliwn mewn gwariant a reolir yn flynyddol. Mae’r buddsoddiad hwnnw yn cwmpasu ystod o feysydd hanfodol bwysig, gan gynnwys tai, digartrefedd, gofal plant a chynllun lleihau’r dreth gyngor.
Iawn. Diolch am eich ateb. Byddai goblygiadau ariannol i wariant y Llywodraeth pe bai carchar arfaethedig ym Mhort Talbot neu mewn man arall yng Nghymru yn mynd yn ei flaen. A ydych wedi gwneud unrhyw ddadansoddiad o'r effaith o ran sut y byddai angen i chi ddyrannu adnoddau ychwanegol i adrannau? Deallaf fod Ysgrifennydd y Cabinet dros wasanaethau cyhoeddus wedi gwneud datganiad yn ystod y toriad, lle y nodwyd yr effeithiau ar agweddau eraill ar wasanaethau cyhoeddus a pholisi fel rhan o'r rheswm dros gyhoeddi gohiriad. Felly, rwyf wedi cael peth gwybodaeth sy'n dangos effaith sylweddol ar adnoddau cyhoeddus mewn perthynas â charchardai sy'n bodoli eisoes, felly hoffwn ofyn: a ydych wedi rhoi unrhyw ystyriaeth, yn benodol, i'r effaith ar wasanaethau cyhoeddus yn ne Cymru a sut y byddai angen ichi newid y gyllideb, o bosibl, pe bai angen gwneud hynny?
Diolch iddi am ei chwestiwn pellach. Wrth gwrs, gwelais y datganiad ar bolisi cyfiawnder a wnaed gan fy nghyd-Aelod Alun Davies yn ystod y toriad. Pa bryd bynnag y ceir datblygiadau yn y maes hwn, rydym yn gweithio'n agos gyda'r Weinyddiaeth Gyfiawnder i sicrhau, os yw gweithgarwch heb ei ddatganoli yn cael ei ddatblygu yng Nghymru, y daw'r adnoddau angenrheidiol gydag ef. Rydym yn gwneud hynny, fodd bynnag, ar yr adeg pan wneir cynnig penodol y gellir cynnal y trafodaethau hynny yn ei gylch. Felly, yr ateb cyffredinol i gwestiwn yr Aelod yw, pe bai unrhyw gynigion, wrth gwrs y byddai'r trafodaethau hynny'n mynd rhagddynt, ond nid ydynt yn mynd rhagddynt yn yr achos penodol hwn, gan nad oes unrhyw beth ar y bwrdd y gellir canolbwyntio arno mewn trafodaethau o'r fath.
Ysgrifennydd y Cabinet, dadneilltuwyd oddeutu £100 miliwn o grantiau yn y gyllideb ar gyfer awdurdodau lleol a llywodraeth leol eleni, ac wrth gwrs, rydym yn ystyried hwnnw'n gam cadarnhaol ymlaen. Yn amlwg, mae'r costau gweinyddol yn uchel iawn. Fodd bynnag, mae nifer o awdurdodau lleol wedi mynegi pryderon difrifol fod y £13 miliwn a ddyrannwyd yn flaenorol ar gyfer elfen leiafrifoedd ethnig, Sipsiwn/Teithwyr a Roma y grant gwella addysg wedi'i ddal yn ôl mewn gwirionedd a heb ei drosglwyddo i'r llinell gyllideb benodol hon. Ers hynny, mae'r Ysgrifennydd addysg wedi cyfaddef bod gwall wedi digwydd yn hyn o beth, ac o ganlyniad wedi trosglwyddo'r cyllid ychwanegol hwn i wneud iawn am y diffyg. Fodd bynnag, unwaith eto, hepgorwyd ein hawdurdodau lleol mwy gwledig yn llwyr o'r cywiriad hwn. Ysgrifennydd y Cabinet, nid yw hyn yn ennyn hyder yng ngallu Llywodraeth Lafur Cymru i bennu'r gyllideb. Felly, pa sicrwydd y gallwch ei roi imi y bydd unrhyw gyllid a ddadneilltuir yn y dyfodol yn cyrraedd yr awdurdodau hynny a'r cyllidebau y bwriedir iddynt eu cyrraedd?
Wel, rwy'n ddiolchgar am yr hyn a ddywedodd yr Aelod ar ddechrau ei chwestiwn ynglŷn â'i chefnogaeth i egwyddor gyffredinol dadneilltuo, ac roeddwn yn awyddus iawn, yn y cylch cyllidebol ar gyfer y flwyddyn hon, i gymryd cam ymlaen yn hynny o beth, oherwydd, ar adeg pan fo cyllidebau awdurdodau lleol o dan y fath bwysau, rydym yn ymateb i'r sylwadau a wnânt inni, os aiff arian i mewn i'r grant cynnal refeniw, y gallant wneud defnydd mwy hyblyg, a mwy effeithiol ac effeithlon felly, ohono.
O ran y grant cyflawniad lleiafrifoedd ethnig, rydym wedi dod i gytundeb, Lywydd, gyda Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ar y mater hwnnw. Rwyf wedi darparu £5 miliwn ychwanegol o gronfeydd canolog i helpu gydag addysg plant o'r cefndiroedd hynny, ac mae fy nghyd-Aelod Kirsty Williams wedi ychwanegu £2.5 miliwn ychwanegol at y swm hwnnw i sicrhau y gellir datblygu'r ddarpariaeth hon ar sail ranbarthol yn y dyfodol. Roeddem yn falch o ddod i'r cytundeb hwnnw gyda CLlLC. Wrth inni symud rhagor o grantiau i'r grant cynnal refeniw, rwy'n derbyn y pwynt cyffredinol a wnaed gan yr Aelod—fod yn rhaid gwneud hynny'n ofalus a thrwy drafodaeth drwyadl ymlaen llaw er mwyn sicrhau bod yr elfen benodol honno yn y fformiwla gyllido a ddefnyddiwn yn golygu bod yr arian hwnnw'n cyrraedd y mannau lle mae ei angen fwyaf.