Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid – Senedd Cymru am 2:09 pm ar 18 Ebrill 2018.
A gaf fi ddiolch i’r Aelod am y cwestiwn? Diau y caf i’r ateb iddo unrhyw eiliad nawr. Lywydd, bydd y portffolio llywodraeth leol a gwasanaethau cyhoeddus yn gwario £5.4 biliwn yn 2018-19, yn cynnwys £3.7 biliwn mewn refeniw, £209 miliwn mewn cyfalaf ac £1.1 biliwn mewn gwariant a reolir yn flynyddol. Mae’r buddsoddiad hwnnw yn cwmpasu ystod o feysydd hanfodol bwysig, gan gynnwys tai, digartrefedd, gofal plant a chynllun lleihau’r dreth gyngor.