Part of the debate – Senedd Cymru am 8:00 pm ar 18 Ebrill 2018.
Byddai Gemma Ellis, sy'n nyrs sepsis arweiniol yn Ysbyty Athrofaol Cymru ac sy'n rheoli eu tîm allgymorth, yn dweud wrthych fod yna ddau fater yma: syndrom ôl-sepsis ac anhwylder straen wedi trawma. Mae'n debyg fod gennym oll ddealltwriaeth o anhwylder straen wedi trawma, ond mae syndrom ôl-sepsis yn gyflwr sy'n effeithio ar hyd at 50 y cant o oroeswyr sepsis. Cânt eu gadael gydag effeithiau corfforol a/neu seicolegol hirdymor, megis anhunedd—bois bach, rwy'n gwybod am hwnnw—anhawster mynd i gysgu, hunllefau, poenau sy'n anablu yn y cyhyrau a'r cymalau, blinder eithafol, canolbwyntio gwael, lleihad yn y gallu i resymu a gweithrediad gwybyddol a graddau helaeth o golli hunan-barch a hunan-gred. Gellir esbonio'r problemau parhaol hyn, ond mae mwy i syndrom ôl-sepsis sydd eto i'w ddeall, megis y blinder sy'n anablu a'r poen cronig y mae llawer o oroeswyr yn ei brofi ac nid yw'r rhain wedi eu deall yn llawn. Mae goroeswyr sepsis wedi ei ddisgrifio fel: 'Nid ydych byth yn teimlo'n ddiogel. Bob tro y mae rhywbeth bach yn digwydd i chi, mae "A oes angen imi fynd i'r ysbyty, neu a yw hyn yn ddim byd?" yn mynd drwy eich meddwl.'
Sy'n dod â mi at stori menyw a anfonodd e-bost ataf ddydd Sadwrn y Pasg, mewn gofid mawr—nid yw'n un o fy etholwyr, ond roedd hi wedi dod o hyd i mi rywsut. Roedd hi wedi colli ei phlentyn wrth esgor a hefyd wedi cael sepsis. Cafodd ei thrin ac fe wellodd. Naw wythnos yn ddiweddarach, ddydd Sadwrn y Pasg, roedd hi'n teimlo'n sâl iawn, ac roedd ganddi yr un set o symptomau ag o'r blaen ac roedd arni ofn mai sepsis oedd hyn unwaith eto. Mae darllen ei stori'n syfrdanol. Nid yn unig ei bod hi wedi cael ei throi ymaith gan yr adran ddamweiniau ac achosion brys a'r gwasanaeth y tu allan i oriau, ond nid oedd unrhyw gydnabyddiaeth y gallai fod yn sepsis eto, ac yn anad dim, ni chafwyd unrhyw gydnabyddiaeth o'r trawma roedd hi wedi bod drwyddo a'i chyflwr meddwl. Rwy'n dal i fod mewn cysylltiad â hi. Nid oedd ganddi sepsis, ond roedd hi'n sâl iawn. Am sefyllfa, pan fo person sâl yn troi at rywun fel fi am help ar benwythnos y Pasg am eu bod wedi dweud wrthi am fynd adref ac ymbwyllo. Dyma ddarn bach iawn o'i negeseuon e-bost: 'Dywedodd meddygon ei fod wedi'i ganfod yn gyflym cyn iddo allu gwneud unrhyw niwed, ond ni allaf help ond meddwl "Beth os yw wedi dod yn ôl?" Nid wyf yn gwybod beth rwyf ei eisiau o'r e-bost hwn hyd yn oed, ond o wybod eich bod chi wedi bod drwy hyn eich hun, efallai y gallwch helpu i dawelu fy meddwl. Nid wyf yn gwybod llawer am sepsis. Ni wnaeth y meddygon esbonio llawer mewn gwirionedd, ac mae pob math o straeon ar Google. Diolch ichi am roi amser i ddarllen fy e-bost'.
Ysgrifennydd y Cabinet, i mi mae hyn yn crynhoi'r diffyg ymwybyddiaeth sy'n bodoli o'r hyn yw sepsis yn y boblogaeth gyffredinol, a'r bylchau enfawr yn sylfaen wybodaeth a dealltwriaeth llawer iawn o bobl yn y proffesiynau meddygol a gofalu. Cefais fy sepsis i dair blynedd yn ôl, a Rachel y llynedd, a digwyddodd profiad y wraig hon adeg y Pasg, 11 wythnos yn ôl. Beth sydd wedi newid? Oes, mae mwy o ymwybyddiaeth ymhlith rhai, ac rwy'n cydnabod bwriad Llywodraeth Cymru, ond ar lawr gwlad, mae newidiadau a hyfforddiant yn araf i ddigwydd. Mae rhai timau penodedig yn arwain yn y rhan fwyaf o fyrddau iechyd, ond rwyf fi ac eraill yn y grŵp trawsbleidiol heb ein hargyhoeddi fod yr ymdrech hon yn gallu gwneud y newidiadau sydd eu hangen. Mae'r timau hyn yn cael eu cefnogi'n helaeth gan Ymddiriedolaeth Sepsis y DU, sy'n cael ei arwain yng Nghymru gan Terence Canning, sydd hefyd â phrofiad uniongyrchol o golli rhywun annwyl oherwydd sepsis.
Rwy'n sylweddoli bod Llywodraeth Cymru yn ceisio helpu goroeswyr sepsis drwy eu cyfeirio at wasanaethau a gosod cynlluniau hunanreoli ar waith, ond mae goroeswyr sepsis angen llawer mwy o gymorth penodol na hynny. Soniais yn gynharach am Jayne Carpenter, sy'n ddynes anorchfygol. Ar ôl goroesi'r trawma o golli ei braich a'i choesau, aeth hi a'i gŵr drwy bob math o uffern wedyn yn ceisio cael cymorth fel y gallent barhau i fyw yn eu cartref teuluol. Yn syml iawn, nid oedd y gwasanaethau cymdeithasol yn deall y broblem. Bu'n rhaid ymladd am addasiadau i'w chartref, ac mae Jayne yn disgrifio system brawf modd sy'n lladdfa. Y realiti yw mai eu rhwydwaith gwych o deulu a ffrindiau sydd wedi talu am bron bob un o'r addasiadau a oedd eu hangen ar Jane i barhau gyda normalrwydd newydd ei bywyd bellach.
Mae yna gamau y gellir eu cymryd, ac rwy'n talu teyrnged i Ymddiriedolaeth Sepsis y DU am y gwaith y maent wedi ei wneud yn gwthio'r agenda hon, ond rwy'n galw am fwy o weithredu gan Lywodraeth Cymru. Gwn fod yna oblygiadau o ran costau a staff, ond mae ymgyrch ymwybyddiaeth y cyhoedd a llawer mwy o hyfforddiant i bawb, o weithwyr gofal cartref i feddygon ymgynghorol, yn hanfodol. Dengys y llun hwn y GIG yn Lloegr yn annog ambiwlansys i arddangos poster 'Just ask: Could it be sepsis?' Ymddiriedolaeth Sepsis y DU. Gallem wneud rhywbeth tebyg. Mae'r prif swyddog deintyddol yn Lloegr wedi cytuno i fynnu bod pob practis deintyddol yn Lloegr yn dangos posteri rhybudd sepsis. A gawn ni wneud yr un peth yma? Dangosodd arolwg y grŵp trawsbleidiol o ymarfer cyffredinol ddiffyg truenus o ran adnabod a dealltwriaeth o sepsis. A gawn ni gynnal ymgyrch ar gyfer ymarfer cyffredinol? Ysgrifennydd y Cabinet, mae angen inni hefyd gael clinigau ôl-sepsis, a dealltwriaeth fod sepsis yn salwch difrifol gydag effeithiau sylweddol ar bobl. Mae angen inni gefnogi goroeswyr a theuluoedd a'r rhai sy'n galaru mewn ffordd well o lawer, a chynnwys gwasanaethau cyhoeddus eraill, megis tai a gofal cymdeithasol. Mae'r GIG yn gweithio mewn cydweithrediad agos ag elusennau megis Tenovus a Macmillan i ddarparu cymorth ar gyfer rhai sydd â chanser. Gallai'r GIG weithio mewn dull o'r fath gyda sefydliadau megis Ymddiriedolaeth Sepsis y DU. A wnewch chi ymrwymo i edrych ar hynny?
Mae Ymddiriedolaeth Sepsis y DU yn gweithio ar gofrestrfa sepsis genedlaethol yn Lloegr, gyda lle wrth y bwrdd ar gyfer y GIG yn Lloegr, NHS Digital ac Ymddiriedolaeth Sepsis y DU, ymhlith eraill. Ac yma, gwn fod Dr Paul Morgan yn arwain ar ddatblygu cofrestrfa sepsis ar gyfer Cymru. A allech roi'r wybodaeth ddiweddaraf inni am y cynnydd? Oherwydd os gallwn gael data dibynadwy, gallwn dargedu adnoddau'r GIG yn fwy effeithiol. A gawn ni edrych ar fodelau eraill y mae Ymddiriedolaeth Sepsis y DU eisoes wedi ymwneud â hwy a gweld a oes unrhyw rai'n addas ar gyfer Cymru? Ac yn olaf, Ysgrifennydd y Cabinet, gydag un llais, mae pawb ohonom yn gofyn am ymgyrch wybodaeth i'r cyhoedd wedi'i hariannu'n briodol mewn ysgolion, mewn grwpiau mam a'i phlentyn, mewn cartrefi gofal, meddygfeydd, unrhyw le a phob man, oherwydd mae angen i bawb ohonom ofyn, 'A allai fod yn sepsis?'