– Senedd Cymru am 7:52 pm ar 18 Ebrill 2018.
Mae un eitem o fusnes eisoes eto i'w trafod, sef y ddadl fer yn enw Angela Burns ar Sepsis—Y cameleon'. Ac rydw i'n galw ar Angela Burns i gyflwyno'r ddadl. Angela Burns.
Diolch, Lywydd. Rwy'n mynd i siarad yn gyflym iawn, oherwydd rwyf wedi addo rhoi munud i Julie Morgan, i Janet Finch-Saunders ac i Suzy Davies hefyd, ac mae gennyf lawer i'w ddweud ar y pwnc hwn.
Penwythnos gŵyl y banc lai na blwyddyn yn ôl oedd hi pan gurodd Rachel ar ddrws ystafell wely y fenyw oedd yn rhannu fflat â hi yn oriau mân y bore a gofyn iddi fynd â hi i'r ysbyty oherwydd ei bod yn teimlo'n sâl iawn. Roeddy fenyw fywiog 29 oed hon wedi teimlo ychydig yn sâl y noson cynt, ond bedair awr yn ddiweddarach roedd hi'n dweud wrth ei ffrind, 'Rwy'n meddwl fy mod yn marw'. Cyrhaeddodd Rachel ysbyty'r Heath, ac ar ôl ychydig o wiriadau cyflym gan nyrs frysbennu, dywedwyd wrthi fod yn rhaid iddi aros am bum awr a hanner i weld meddyg, ac y dylai hi fod yn iawn ac mai'r peth gorau iddi ei wneud oedd mynd adref, cymryd paracetamol a gorffwys. Nid oedd Rachel yn yr adran damweiniau ac achosion brys am fwy na 30 munud i gyd, ond y gwir ofnadwy oedd fod Rachel eisoes mewn sioc septig.
Penderfynodd ei mam a'i thad, Bernie a Steve, ar fympwy i gael coffi ger fflat Rachel a'i ffonio. Llwyddodd eu merch annwyl i sgrechian i lawr y ffôn, a rhuthrodd ei rhieni gofidus ati. Galwyd am ambiwlans ac roedd y parafeddyg ymateb cyntaf ychydig yn ddifater, yn gwrthod gadael i'r fenyw sâl orwedd, am na allai gymryd ei phwysedd gwaed. Y gwir amdani oedd bod ei phwysedd gwaed bellach mor isel fel ei bod hi'n anodd iawn ei ganfod, a dylai'r ffaith honno, yn anad yr un arall, fod wedi gweiddi rhybudd: 'Gallai hyn fod sepsis'. Aethpwyd â Rachel i Ysbyty Athrofaol Cymru, ac yn yr uned ddadebru dywedwyd wrthi hi a'i theulu y byddai angen iddi gael ei rhoi mewn coma meddygol, a'i bod mewn sioc septig.
Gofynnodd Rachel a oedd sioc septig yn bygwth bywyd, a dywedodd y meddyg wrthi hi a'i theulu y byddai'n iawn am ei bod hi'n cael ei thrin. Ni siaradodd Steve a Bernie â'u merch eto. Nid oedd gan y teulu normal hwn unrhyw ddealltwriaeth go iawn beth oedd sepsis yn ei olygu na beth oedd y canlyniadau posibl. Aethpwyd â Rachel i'r theatr i gael toriadau yn ei breichiau a'i choesau er mwyn ysgafnhau'r pwysau oedd yn cronni. Ond ar ôl y driniaeth, dywedwyd wrth ei theulu y byddai'n rhaid i Rachel golli ei choesau a gwaelod ei braich dde. Erbyn hynny, roeddent wedi dysgu sut yr oedd goroeswyr sepsis eraill, fel Jayne Carpenter, nyrs yn Ysbyty Brenhinol Gwent, wedi ymdopi â cholli dwy goes a braich, ac felly teimlent y byddai cytuno i'r llawdriniaeth hon yn dal i roi cyfle i Rachel gael bywyd da ac y byddai am ymladd i gael hynny.
Aethpwyd â Rachel i gael ei llawdriniaeth, ond ar ôl ychydig oriau, dywedodd y meddygon wrthynt y byddai'n rhaid iddi golli ei braich chwith hefyd. Ymdrechodd y teulu i brosesu'r holl wybodaeth erchyll hon; dywedwyd wrthynt feddwl am y peth dros nos. Fodd bynnag, y bore wedyn, dywedodd y meddygon wrthynt nad oedd yn benderfyniad iddynt hwy i'w wneud. Dywedasant y byddai Rachel hefyd yn colli rhan o'i hwyneb, fod amheuaeth ynglŷn â gweithrediad ei hymennydd, ac y byddai ei dyfodol yn golygu blynyddoedd o lawdriniaethau a grafftiadau croen. Ac felly gwnaed y penderfyniad i adael iddi farw'n dawel.
Mae Bernie a Steve yn aelodau o'r grŵp trawsbleidiol ar sepsis ac maent wedi rhoi caniatâd llawn imi ddweud y stori hon. Nid adrodd stori drist yn unig ydw i, ond ceisio gwneud i bawb sylweddoli realiti enbyd a milain sepsis, ac oherwydd bod stori Rachel yn amlygu'r nifer o fylchau yn ein dealltwriaeth o beth yw sepsis a pha mor bwysig yw hi ei fod yn cael ei drin yn gyflym ac yn effeithiol gyda lefelau diwydiannol o wrthfiotigau.
Rwyf wedi rhoi'r pennawd 'Sepsis—y cameleon' i'r ddadl hon oherwydd gall sepsis guddio tu ôl i fathau eraill o salwch—sepsis, salwch sy'n bygwth bywyd, a achosir gan ymateb eich corff i heintiau megis haint wrinol neu niwmonia, neu gwt ar eich corff, neu fewnblaniad o ryw fath. Mae'r rhestr yn faith ac yn aml y broblem sylfaenol yn unig a nodir. Mae sepsis yn datblygu pan fydd y cemegau y mae'r system imiwnedd yn eu rhyddhau i lif y gwaed i ymladd llid yn achosi haint drwy'r corff cyfan yn lle hynny. Mae'r llid yn amrywio'n fawr o ran ei ddifrifoldeb a'i hyd, ac ar asesiad arwynebol, caiff ei gamgymryd yn aml am ffliw.
Fe gefais i sepsis. Cafodd ei ddal yn gynnar iawn gan y rheolwr nyrsio yn Ysbyty Llwynhelyg a wrthododd adael i'r ymgynghorydd locwm damweiniau ac achosion brys fy anfon adref. Yr hyn a welai'r meddyg ymgynghorol oedd menyw â niwmonia; gwelai'r rheolwr nyrsio goes a oedd wedi chwyddo i'r fath raddau fel na allwn roi fy nhroed ar lawr, gwelodd greithiau'r pen-glin newydd, gwelodd y cryndod, clywodd y poen ac achubodd fy mywyd oherwydd cefais fy nghadw i mewn a fy rhoi ar wrthfiotigau ar unwaith. Er hynny, treuliais wyth neu naw wythnos mewn tri ysbyty gwahanol ac nid wyf yn cofio llawer o'r hyn a ddigwyddodd.
Aeth Rachel i'r adran ddamweiniau ac achosion brys, cafodd ei hanfon adref a dywedwyd wrthi am gymryd paracetamol, ond gwnaeth y 12 awr honno wahaniaeth rhwng byw a marw, oherwydd aeth Rachel i mewn i sioc septig. Rwyf fi yma, ac nid yw hi, oherwydd fy mod i wedi cael y cyffuriau achub bywyd. Cefais sepsis, ond nid euthum i mewn i sioc septig.
Mae sioc septig yn gyflwr sy'n peryglu bywyd a all ddigwydd o ganlyniad i sepsis. Mae eich pwysedd gwaed yn gostwng i lefelau peryglus o isel. Mae faint o ocsigen a gwaed sy'n cyrraedd organau'r corff yn lleihau'n sylweddol, ac mae hynny, yn ei dro, yn atal eich organau rhag gweithio'n iawn. Mae sepsis a sioc septig yn digwydd yn y bôn pan fydd adwaith eich corff i haint yn dechrau niweidio meinweoedd ac organau mewnol y corff; caiff eich corff ei lethu, rydych yn ymladd ar bob ffrynt, ac os ydych yn goroesi, mae'r tebygolrwydd y bydd gennych ryw fath o niwed arhosol yn uchel.
Roeddent yn arfer dweud y bydd traean o'r rhai sy'n cael sepsis yn marw, traean yn goroesi gyda chyflyrau sy'n newid bywyd, a thraean yn iawn. Ond mae ymchwil bellach yn dangos nad yw hynny'n wir hyd yn oed. Ceir llawer mwy o berygl o afiachedd seicolegol a briodolir yn uniongyrchol i niwed sepsis.
Cofiaf yn glir eistedd wrth fwrdd y gegin ychydig ddyddiau wedi i mi adael yr ysbyty, ac fel y digwyddodd, roedd stori am sepsis mewn papur newydd cenedlaethol yn sôn am y traean, y traean a'r traean, a fy rhyddhad euog wrth sylweddoli fy mod yn y traean lwcus. Ond roedd hynny cyn imi deall, fel rwy'n deall yn awr, yr effaith wanychol y mae sepsis wedi'i chael ar fy iechyd—o fy esgyrn brau, fy ngwaed simsan, i golli miniogrwydd meddwl. Gwn fy mod yn gweithredu mewn niwl ar rai dyddiau. Gwn fy mod yn cael fy llenwi â thristwch ac ymdeimlad o golled ar rai dyddiau ac ni allaf ei esbonio na'i ddisgrifio. Roeddwn yn arfer bod yn wydn iawn ac yn glyfar, ac yn meddu ar gof o'r radd flaenaf. Nid y person hwnnw wyf fi mwyach, ac ni allaf ddychwelyd i fod yn honno; aeth sepsis â hi.
Ychydig iawn o symptomau corfforol sepsis oedd i'w gweld gan John hefyd, ond mae'n sôn am yr amser anodd a gafodd yn yr ysbyty pan gafodd ei drosglwyddo o'r uned gofal dwys. Mae'n dweud nad oedd y rhan fwyaf o'r staff meddygol yn ymwybodol o daith y goroeswr sepsis, o'i anallu i gofio beth oedd wedi digwydd iddo i'w orbryder, ei ddiffyg awydd a'i anallu i ffurfio brawddegau. Bellach, mae'n dioddef o ddryswch ac anawsterau lleferydd. Nid yw'n gallu cysgu ac mae'n ei chael hi'n anodd clywed. Mae'r dyn hyderus hwn yn gorfod dibynnu ar ei wraig i'w helpu drwy fywyd, a byddai'n dadlau gydag argyhoeddiad nad oes unrhyw un yn dianc rhag sepsis yn ddianaf.
Byddai Gemma Ellis, sy'n nyrs sepsis arweiniol yn Ysbyty Athrofaol Cymru ac sy'n rheoli eu tîm allgymorth, yn dweud wrthych fod yna ddau fater yma: syndrom ôl-sepsis ac anhwylder straen wedi trawma. Mae'n debyg fod gennym oll ddealltwriaeth o anhwylder straen wedi trawma, ond mae syndrom ôl-sepsis yn gyflwr sy'n effeithio ar hyd at 50 y cant o oroeswyr sepsis. Cânt eu gadael gydag effeithiau corfforol a/neu seicolegol hirdymor, megis anhunedd—bois bach, rwy'n gwybod am hwnnw—anhawster mynd i gysgu, hunllefau, poenau sy'n anablu yn y cyhyrau a'r cymalau, blinder eithafol, canolbwyntio gwael, lleihad yn y gallu i resymu a gweithrediad gwybyddol a graddau helaeth o golli hunan-barch a hunan-gred. Gellir esbonio'r problemau parhaol hyn, ond mae mwy i syndrom ôl-sepsis sydd eto i'w ddeall, megis y blinder sy'n anablu a'r poen cronig y mae llawer o oroeswyr yn ei brofi ac nid yw'r rhain wedi eu deall yn llawn. Mae goroeswyr sepsis wedi ei ddisgrifio fel: 'Nid ydych byth yn teimlo'n ddiogel. Bob tro y mae rhywbeth bach yn digwydd i chi, mae "A oes angen imi fynd i'r ysbyty, neu a yw hyn yn ddim byd?" yn mynd drwy eich meddwl.'
Sy'n dod â mi at stori menyw a anfonodd e-bost ataf ddydd Sadwrn y Pasg, mewn gofid mawr—nid yw'n un o fy etholwyr, ond roedd hi wedi dod o hyd i mi rywsut. Roedd hi wedi colli ei phlentyn wrth esgor a hefyd wedi cael sepsis. Cafodd ei thrin ac fe wellodd. Naw wythnos yn ddiweddarach, ddydd Sadwrn y Pasg, roedd hi'n teimlo'n sâl iawn, ac roedd ganddi yr un set o symptomau ag o'r blaen ac roedd arni ofn mai sepsis oedd hyn unwaith eto. Mae darllen ei stori'n syfrdanol. Nid yn unig ei bod hi wedi cael ei throi ymaith gan yr adran ddamweiniau ac achosion brys a'r gwasanaeth y tu allan i oriau, ond nid oedd unrhyw gydnabyddiaeth y gallai fod yn sepsis eto, ac yn anad dim, ni chafwyd unrhyw gydnabyddiaeth o'r trawma roedd hi wedi bod drwyddo a'i chyflwr meddwl. Rwy'n dal i fod mewn cysylltiad â hi. Nid oedd ganddi sepsis, ond roedd hi'n sâl iawn. Am sefyllfa, pan fo person sâl yn troi at rywun fel fi am help ar benwythnos y Pasg am eu bod wedi dweud wrthi am fynd adref ac ymbwyllo. Dyma ddarn bach iawn o'i negeseuon e-bost: 'Dywedodd meddygon ei fod wedi'i ganfod yn gyflym cyn iddo allu gwneud unrhyw niwed, ond ni allaf help ond meddwl "Beth os yw wedi dod yn ôl?" Nid wyf yn gwybod beth rwyf ei eisiau o'r e-bost hwn hyd yn oed, ond o wybod eich bod chi wedi bod drwy hyn eich hun, efallai y gallwch helpu i dawelu fy meddwl. Nid wyf yn gwybod llawer am sepsis. Ni wnaeth y meddygon esbonio llawer mewn gwirionedd, ac mae pob math o straeon ar Google. Diolch ichi am roi amser i ddarllen fy e-bost'.
Ysgrifennydd y Cabinet, i mi mae hyn yn crynhoi'r diffyg ymwybyddiaeth sy'n bodoli o'r hyn yw sepsis yn y boblogaeth gyffredinol, a'r bylchau enfawr yn sylfaen wybodaeth a dealltwriaeth llawer iawn o bobl yn y proffesiynau meddygol a gofalu. Cefais fy sepsis i dair blynedd yn ôl, a Rachel y llynedd, a digwyddodd profiad y wraig hon adeg y Pasg, 11 wythnos yn ôl. Beth sydd wedi newid? Oes, mae mwy o ymwybyddiaeth ymhlith rhai, ac rwy'n cydnabod bwriad Llywodraeth Cymru, ond ar lawr gwlad, mae newidiadau a hyfforddiant yn araf i ddigwydd. Mae rhai timau penodedig yn arwain yn y rhan fwyaf o fyrddau iechyd, ond rwyf fi ac eraill yn y grŵp trawsbleidiol heb ein hargyhoeddi fod yr ymdrech hon yn gallu gwneud y newidiadau sydd eu hangen. Mae'r timau hyn yn cael eu cefnogi'n helaeth gan Ymddiriedolaeth Sepsis y DU, sy'n cael ei arwain yng Nghymru gan Terence Canning, sydd hefyd â phrofiad uniongyrchol o golli rhywun annwyl oherwydd sepsis.
Rwy'n sylweddoli bod Llywodraeth Cymru yn ceisio helpu goroeswyr sepsis drwy eu cyfeirio at wasanaethau a gosod cynlluniau hunanreoli ar waith, ond mae goroeswyr sepsis angen llawer mwy o gymorth penodol na hynny. Soniais yn gynharach am Jayne Carpenter, sy'n ddynes anorchfygol. Ar ôl goroesi'r trawma o golli ei braich a'i choesau, aeth hi a'i gŵr drwy bob math o uffern wedyn yn ceisio cael cymorth fel y gallent barhau i fyw yn eu cartref teuluol. Yn syml iawn, nid oedd y gwasanaethau cymdeithasol yn deall y broblem. Bu'n rhaid ymladd am addasiadau i'w chartref, ac mae Jayne yn disgrifio system brawf modd sy'n lladdfa. Y realiti yw mai eu rhwydwaith gwych o deulu a ffrindiau sydd wedi talu am bron bob un o'r addasiadau a oedd eu hangen ar Jane i barhau gyda normalrwydd newydd ei bywyd bellach.
Mae yna gamau y gellir eu cymryd, ac rwy'n talu teyrnged i Ymddiriedolaeth Sepsis y DU am y gwaith y maent wedi ei wneud yn gwthio'r agenda hon, ond rwy'n galw am fwy o weithredu gan Lywodraeth Cymru. Gwn fod yna oblygiadau o ran costau a staff, ond mae ymgyrch ymwybyddiaeth y cyhoedd a llawer mwy o hyfforddiant i bawb, o weithwyr gofal cartref i feddygon ymgynghorol, yn hanfodol. Dengys y llun hwn y GIG yn Lloegr yn annog ambiwlansys i arddangos poster 'Just ask: Could it be sepsis?' Ymddiriedolaeth Sepsis y DU. Gallem wneud rhywbeth tebyg. Mae'r prif swyddog deintyddol yn Lloegr wedi cytuno i fynnu bod pob practis deintyddol yn Lloegr yn dangos posteri rhybudd sepsis. A gawn ni wneud yr un peth yma? Dangosodd arolwg y grŵp trawsbleidiol o ymarfer cyffredinol ddiffyg truenus o ran adnabod a dealltwriaeth o sepsis. A gawn ni gynnal ymgyrch ar gyfer ymarfer cyffredinol? Ysgrifennydd y Cabinet, mae angen inni hefyd gael clinigau ôl-sepsis, a dealltwriaeth fod sepsis yn salwch difrifol gydag effeithiau sylweddol ar bobl. Mae angen inni gefnogi goroeswyr a theuluoedd a'r rhai sy'n galaru mewn ffordd well o lawer, a chynnwys gwasanaethau cyhoeddus eraill, megis tai a gofal cymdeithasol. Mae'r GIG yn gweithio mewn cydweithrediad agos ag elusennau megis Tenovus a Macmillan i ddarparu cymorth ar gyfer rhai sydd â chanser. Gallai'r GIG weithio mewn dull o'r fath gyda sefydliadau megis Ymddiriedolaeth Sepsis y DU. A wnewch chi ymrwymo i edrych ar hynny?
Mae Ymddiriedolaeth Sepsis y DU yn gweithio ar gofrestrfa sepsis genedlaethol yn Lloegr, gyda lle wrth y bwrdd ar gyfer y GIG yn Lloegr, NHS Digital ac Ymddiriedolaeth Sepsis y DU, ymhlith eraill. Ac yma, gwn fod Dr Paul Morgan yn arwain ar ddatblygu cofrestrfa sepsis ar gyfer Cymru. A allech roi'r wybodaeth ddiweddaraf inni am y cynnydd? Oherwydd os gallwn gael data dibynadwy, gallwn dargedu adnoddau'r GIG yn fwy effeithiol. A gawn ni edrych ar fodelau eraill y mae Ymddiriedolaeth Sepsis y DU eisoes wedi ymwneud â hwy a gweld a oes unrhyw rai'n addas ar gyfer Cymru? Ac yn olaf, Ysgrifennydd y Cabinet, gydag un llais, mae pawb ohonom yn gofyn am ymgyrch wybodaeth i'r cyhoedd wedi'i hariannu'n briodol mewn ysgolion, mewn grwpiau mam a'i phlentyn, mewn cartrefi gofal, meddygfeydd, unrhyw le a phob man, oherwydd mae angen i bawb ohonom ofyn, 'A allai fod yn sepsis?'
Hoffwn longyfarch Angela am gael y ddadl hon ac am ei haraith bwerus a theimladwy. A hoffwn ei llongyfarch hefyd ar sefydlu'r grŵp hollbleidiol, y grŵp trawsbleidiol, ac am waith Terence Canning, sy'n un o fy etholwyr o Ystum Taf, a'r cyntaf i roi gwybod i mi am y mater hwn.
Y pwynt yr hoffwn ei godi yw'r effaith ar deuluoedd pobl sydd â sepsis, oherwydd mae hwn yn salwch mor sydyn, mor ddinistriol, sy'n peri trallod llwyr, dryswch llwyr, i deuluoedd, a throi eu bywydau wyneb i waered. Rwyf wedi cyfarfod â rhai o'r bobl y cyfeiriodd Angela atynt yn ei haraith ac wedi gweld yr effeithiau trychinebus ar eu bywydau. Felly, hoffwn i Weinidog y Cabinet, pan fydd yn ymateb, ddweud pa gynlluniau sydd ar gael i helpu teuluoedd cyfan i ymdopi â'r sefyllfa ofnadwy hon, a hefyd i helpu'r bobl sydd wedi colli rhywun o ganlyniad i sepsis, oherwydd, unwaith eto, mae hwnnw'n ddigwyddiad trawmatig a sydyn iawn. Mae Angela wedi disgrifio'n glir yr effaith ar yr unigolion y mae'n eu cyffwrdd a beth y gallem ei wneud i helpu pobl sy'n dioddef profedigaeth yn sgil afiechyd creulon sepsis, ond rwyf innau hefyd yn ategu'r alwad am fwy o ymwybyddiaeth, oherwydd nid wyf yn credu bod digon o bobl ar hyn o bryd yn adnabod sepsis pan fo'n digwydd.
Rydym yn brin o amser, ond fe gymeraf ddau gyfraniad cyflym iawn gan Janet Finch-Saunders a Suzy Davies.
Diolch, Lywydd. Unwaith eto, hoffwn gefnogi a thalu teyrnged i Angela am ei chyfraniad a soniodd am gymaint o agweddau ar sepsis. Yn ddyddiol, rydym yn darllen bellach ynglŷn â pha mor greulon yw'r clefyd hwn, a sut y mae pobl yn dal i fod heb fawr o ymwybyddiaeth ohono. Hoffwn sôn am bobl 'ysbyty yn y cartref', sydd mewn amgylchedd lle maent yn dibynnu ar ofalwyr sy'n dod i mewn, a pha mor gyflym y gall pethau waethygu, megis haint wrin. Ac yna, pan gânt eu cludo i'r ysbyty, hyd yn oed yn awr, rwy'n clywed am achosion lle nad yw wedi cael ei adnabod. A all fod yn sepsis pan fydd pobl yno? Ac yn llythrennol, mae eu bywydau'n diffodd. Mae sepsis yn beth erchyll. A phan fyddwch wedi cael sepsis, mae'n ffaith na allwch chi byth feddwl y byddwch chi—. Mae'n gadael ei farc arnoch a gall ddychwelyd ar unrhyw adeg pan fo'ch lefelau protein c-adweithiol yn codi, ar unrhyw adeg y mae eich ymwrthedd yn isel. Felly, mae hon yn ddadl bwysig yma heno, ac mae'n un rwy'n llwyr gefnogi Angela Burns yn ei chylch. Lluniwch ymgyrch i godi ymwybyddiaeth. Gwnewch yn siŵr fod yr addysg ar gael mewn ysgolion, mewn ysbytai, mewn cartrefi gofal, mewn ysbytai yn y cartref, yng nghartrefi pobl. Ac os gwelwch yn dda, Ysgrifennydd y Cabinet; mae gennych y dulliau, defnyddiwch hwy a gadewch i ni beidio â gweld sefyllfaoedd mor erchyll y gwn amdanynt fy hun yn rhy dda, ond hefyd gyda ffrindiau, cydweithwyr a fy etholwyr yn Aberconwy. Diolch.
A gaf fi ddweud diolch yn fawr iawn, Angela? I mi, dros y 40 mlynedd diwethaf, gair yn unig ar waelod tystysgrif marwolaeth fy nhad-cu oedd 'septisemia', sef yr un peth. A phan fu farw, yn hollol annisgwyl yn yr ysbyty, ef oedd gofalwr fy mam-gu, ac fel y nododd Julie, bu'n rhaid iddi fynd i gartref, fe gafodd strôc a chafodd y teulu ei lethu o fewn ychydig fisoedd. Er bod Ymddiriedolaeth Sepsis y DU wedi gwneud llawer iawn o waith yn codi ymwybyddiaeth, rwy'n meddwl ei fod yn dweud llawer ei bod hi wedi cymryd opera sebon ar y radio mewn gwirionedd, a oedd yn rhedeg stori ofidus iawn i godi ymwybyddiaeth yn y boblogaeth yn gyffredinol. Ac rwy'n credu bod yn rhaid i hynny fod yn hwb i chi, Ysgrifennydd y Cabinet, i fod o ddifrif ynghylch y galwadau arnoch heddiw i gynnal ymgyrch genedlaethol, neu o leiaf ymgyrch godi ymwybyddiaeth genedlaethol yng Nghymru, ac ar gyfer gofalwyr a gweithwyr gofal yn enwedig. Fel y dywedodd Angela, cameleon yw'r clefyd hwn, ac fel y dywed eich Gweinidog, nid ydym mewn sefyllfa eto i allu cadarnhau bod ein holl ofalwyr a gweithwyr gofal yn cael hyfforddiant llawn ar ymwybyddiaeth sepsis. Diolch.
Ysgrifennydd y Cabinet i ymateb i'r ddadl—Vaughan Gething.
Diolch, Lywydd, a diolch i Angela Burns am barhau i godi'r mater difrifol hwn. Rwyf am ddechrau drwy gydnabod y gall sepsis fod yn salwch anodd i wneud diagnosis ohono, yn arbennig mewn pobl oedrannus, ond hefyd mewn plant. Ac mae hynny'n rhan o'r her wrth ymdrin â hyn yn llwyddiannus. Amcangyfrifodd Ymddiriedolaeth Sepsis y DU fod sepsis yn achosi marwolaethau tua 44,000 o bobl bob blwyddyn yn y DU, a byddai hynny'n cyfateb i oddeutu 2,200 o bobl yma yng Nghymru. Dengys y ffigurau, dros y pum mlynedd diwethaf, fod nifer y bobl sydd wedi marw'n flynyddol mewn lleoliad ysbyty yng Nghymru o ganlyniad i sepsis wedi gostwng o 2,112 i 1,687, felly gostyngiad go iawn ond nifer dda o bobl o hyd sydd wedi marw yn ein hysbytai.
Mewn gwirionedd, fe gynyddodd nifer yr achosion o sepsis yn ysbytai Cymru yn yr un cyfnod o 6,950 i 8,313. Felly, mae hynny'n dangos bod yna fwy o ymwybyddiaeth o'r salwch gyda mwy o bobl yn cael diagnosis, ond mae canran y marwolaethau'n gostwng. Yn anffodus, ni fydd modd osgoi pob un o'r marwolaethau hynny, ond gallwn fod yn hyderus fod modd gwneud hynny yn achos nifer ohonynt. Dyna pam, ers 2013, y mae Llywodraeth Cymru, gyda'r GIG, wedi gwneud lleihau niwed y gellir ei osgoi a marwolaethau a achosir gan sepsis yn flaenoriaeth uchel ar gyfer GIG Cymru. Rwy'n cofio'n iawn, ar Ddiwrnod Sepsis y Byd, pan oeddwn yn Ddirprwy Weinidog ar y pryd, penderfynodd Mark Drakeford ei fod am wneud digwyddiad i geisio codi ymwybyddiaeth ar Ddiwrnod Sepsis y Byd, i godi proffil y cyflwr o fewn y gwasanaeth.
Nawr, rydym yn cydnabod, yn agored ac yn onest, fod yna bob amser fwy sydd angen ei wneud i fynd i'r afael â'r hyn a all fod yn afiechyd marwol, ond rwyf am gydnabod peth o'r cynnydd a wnaed gennym ar fynd i'r afael â'r cyflwr hwn sy'n bygwth bywyd. I fod yn deg, mae Angela Burns yn cydnabod hyn hefyd. Dylem fod yn falch o'r ffaith ein bod yn cael ein gweld yn arwain y ffordd yn y DU o ran gwneud adnabod a thrin sepsis yn brif flaenoriaeth. Mae ein brwydr yn erbyn sepsis yn parhau, ac mae llawer iawn o waith wedi'i wneud ers 2012, pan oeddem y wlad gyntaf yn y byd yma yng Nghymru i weithredu'r system sgorio rhybudd cynnar cenedlaethol a elwir yn NEWS. Dylai hon sicrhau bod cleifion y gwelir eu bod yn gwaethygu yn cael sylw cynnar. A dylai'r cam syml hwnnw sicrhau ein bod yn defnyddio iaith gyffredin drwy'r GIG yng Nghymru i gyfathrebu ynghylch dirywiad a sepsis. Cyflwynwyd NEWS a sgrinio sepsis ym mhob maes clinigol acíwt, yn Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Ambiwlans Cymru ac mewn llawer o leoliadau cymunedol a sylfaenol. Dylem fod yn falch o'r ffaith bod NEWS wedi ei safoni ym mhob un o'n hysbytai yng Nghymru ers 2013.
Y prif gyfrwng ar gyfer y newid hwnnw yma yng Nghymru oedd cyfranogiad gweithredol byrddau iechyd ac unigolion yn set ddysgu ymateb cyflym i salwch acíwt gwasanaeth gwella 1000 o Fywydau sy'n cael ei adnabod yn gyffredinol fel RRAILS—ac rwy'n falch fod ganddynt acronym o fewn y gwasanaeth o leiaf. Ond mae'n amlwg fod llawer o waith ganddynt i'w wneud o hyd. Maent yn rhan bwysig o'r gwaith o helpu i geisio sbarduno gwelliant ar draws y system gyfan, oherwydd rhaid inni barhau i geisio cyfiawnhau'r gydnabyddiaeth a gawsom yn 2016, pan gafodd y cynnydd yr oedd GIG Cymru wedi'i wneud yn gwella triniaeth sepsis ei gydnabod â gwobr gan Gynghrair Sepsis y Byd yn y categori 'llywodraethau ac awdurdodau gofal iechyd'.
Ond fel gyda phopeth, ni allwn ragdybio bod cynnydd yn amlwg, yn hawdd nac yn anochel. Rhaid inni adolygu'n gyson yr hyn a wnawn i sicrhau gwelliant parhaus. Mae yna bob amser ragor y gallwn ei wneud er mwyn dal ati i ddysgu a gwella, ac mae adolygiadau gan gymheiriaid yn rhan ddelfrydol a phwysig o hynny. Mae'r rhaglen RRAILS yn cynnwys adolygiadau gan gymheiriaid o'r drefn ar gyfer rheoli cleifion sy'n dangos dirywiad acíwt, ac fe'u datblygwyd i alluogi pob bwrdd ac ymddiriedolaeth iechyd i ddatblygu cynllun priodol i gymeradwyo'r gwasanaethau dirywiad acíwt sydd ganddynt. Mae'n dda clywed bod y gwaith hwn eisoes yn mynd rhagddo, gyda chyfres o ymweliadau â byrddau iechyd wedi digwydd yn barod, a rhagor wedi'u cynllunio. Mae adolygwyr a staff a fu'n rhan o'r adolygiad gan gymheiriaid yn cydnabod ei bod yn sgwrs bwysig a buddiol i bawb ohonynt.
Yn ddiweddar, canmolodd yr ombwdsmon gwasanaethau cyhoeddus y gwaith 1000 o Fywydau ar yr adolygiad gan gymheiriaid, a chydnabu'r effaith y mae'r gwaith hwnnw'n ei gael ar wella gwasanaethau ac achub bywydau. Mae pethau eraill ar y gweill, gan gynnwys gwaith ar ddatblygu'r gofrestrfa sepsis y cyfeiriodd Angela Burns ati. Ond mae canlyniadau treial yn astudiaeth '6 blwch sepsis' Cwm Taf yn awgrymu bod gwelliannau yn y canlyniadau i gleifion yn gysylltiedig â defnyddio'r blwch hwnnw. Mae'n cynnwys llai o farwolaethau a derbyniadau i unedau gofal dwys, a gostyngiad sylweddol mewn NEWS ar ôl 24 awr, sy'n arwydd pwysig o adferiad cleifion. Rwy'n edrych ymlaen yn fawr at werthusiad pellach o ganlyniadau'r prawf, fel y gellir dod i gasgliadau terfynol er mwyn gweld a allem ac a ddylem gyflwyno hynny ar draws y wlad gyfan.
Rwyf am geisio ateb y cwestiwn anodd ynghylch ymgyrch ymwybyddiaeth y cyhoedd. Rwy'n dweud ei fod yn 'anodd' am fy mod yn deall y ddadl a wneir ynghylch codi ymwybyddiaeth ehangach ymhlith y cyhoedd yn y gobaith a'r disgwyliad y byddai hynny'n achub mwy o fywydau. Y broblem ymarferol a'r cwestiwn i mi yw a fyddai'r arian a'r adnoddau y byddem yn eu rhoi tuag at ymgyrch ymwybyddiaeth gyhoeddus yn cyflawni'r canlyniadau y dymunwn eu cael o ran gwella canlyniadau i bobl.
A wnewch chi dderbyn ymyriad, Weinidog?
Gwnaf, â phleser.
Rydych yn sôn am achub bywydau, ac rydych yn hollol gywir, mae hynny'n bwysig iawn, ond mewn gwirionedd, y peth am sepsis yw'r dinistr y mae'n ei achosi i bobl sy'n ei oroesi. Felly, os gallwch fynd i ysbyty yn gyflymach, rydych yn llai tebygol o golli eich coesau neu eich breichiau, rydych yn llai tebygol o gael eich ymennydd wedi'i sgramblo yn y bôn gan y sepsis, rydych yn llai tebygol o gael eich gadael gyda chyflyrau hirdymor sy'n anablu. Felly, pan soniwch fod lefelau marwolaethau wedi disgyn, sy'n wych, a phan soniwch eich bod yn ceisio eu gwella, rwy'n dweud wrthych fod gormod lawer o bobl o hyd yn mynd at feddygon teulu neu i ysbytai gyda symptomau nad ydynt yn cael eu hadnabod yn ddigon cyflym. Felly, hyd yn oed os ydynt yn byw, maent yn byw gyda chanlyniadau trychinebus sy'n newid eu bywydau'n llwyr.
Rwyf o ddifrif yn cydnabod y ddadl dros fod eisiau codi ymwybyddiaeth y cyhoedd, ond ceir adegau pan fydd yn rhaid i chi edrych i fyw llygaid pobl a dweud, 'Nid wyf yn siŵr fod yr achos wedi'i wneud dros wneud hynny', a dyna adlewyrchiad gonest ar y cyngor a gaf ar effeithiolrwydd ymgyrchoedd codi ymwybyddiaeth ar draws amrywiaeth o gyflyrau. Dyna realiti'r hyn y mae fy swydd yn ei gynnwys, yn rhannol: nifer weddol reolaidd o bobl sydd am i'r gwasanaeth iechyd gynnal ymgyrchoedd codi ymwybyddiaeth o gyflyrau unigol, ac ar amrywiaeth o gyflyrau eithaf cyffredin mewn gwirionedd, gyda niferoedd mawr, fel sepsis, a chyflyrau difrifol hefyd. Rwyf bob amser yn gorfod ystyried, nid yn unig derbyn y cyngor hwnnw, a gwneud dewisiadau wedyn, ond lle mae modd sicrhau'r budd mwyaf—lle y gellir sicrhau'r budd mwyaf i iechyd—ac mewn gwirionedd, credaf mai dyna ran o'r her i ni yw fy mod yn credu, ar hyn o bryd, fod y rhan fwyaf o'r dystiolaeth yn awgrymu—bydd codi ymwybyddiaeth ymysg ein gweithwyr proffesiynol iechyd a gofal yn helpu i adnabod symptomau yn gynharach, gyda mwy o gysondeb, ac yna mwy o gysondeb, nid yn unig o ran adnabod, ond wedyn wrth roi triniaeth a chymorth i bobl. Fodd bynnag, rwy'n cadw meddwl agored, ac ni fuaswn yn dweud 'na' a 'byth', ond yr hyn rwy'n ei ddweud ar hyn o bryd yw nad wyf yn meddwl y gallwn gefnogi gyda'r cyngor rwy'n ei gael ynglŷn â'r ffordd gywir i sicrhau gwelliant pellach yn y canlyniadau i bobl yng Nghymru. Ond rwy'n fwy na pharod i ddal ati i siarad a gwrando, a gwn fod yna ymgyrch benderfynol dros fod eisiau parhau i adolygu'r dystiolaeth. Ac mewn gwirionedd, os mai'r dystiolaeth yn Lloegr yw mai dyma'r peth cywir i'w wneud nid yn unig o ran y brwdfrydedd amlwg iawn y mae pobl yn ei deimlo am y mater, ond ei fod yn gwneud gwahaniaeth go iawn i'r canlyniadau—[Torri ar draws.]—yna, buaswn yn fwy na pharod i wrando ac edrych eto.
Mae ymwybyddiaeth ymhlith gweithwyr proffesiynol gofal iechyd yn rhywbeth rydym yn cydnabod ei fod yn bwydo rhan o'r anghysondeb yn ymateb ein gwasanaeth. Dyna pam y mae'r gwaith rydym yn ei wneud wedi'i anelu i raddau helaeth at weithwyr proffesiynol iechyd a gofal, nid codi eu hymwybyddiaeth yn unig, ond o ran meddwl beth y maent yn ei wneud wedyn ar y pwynt hwnnw mewn amser. Ceir grŵp sepsis cyn mynd i'r ysbyty, sef is-grŵp y rhaglen RRAILS. Cafodd ei sefydlu, ac mae'n dwyn ynghyd amrywiaeth o randdeiliaid i gynllunio ar gyfer gwella ymarfer y tu allan i'r ysbyty. Mae nifer o'r prosiectau a gychwynnwyd gan y gwaith hwnnw yn cynnwys cydweithio gyda chlystyrau meddygon teulu mewn perthynas ag anaf acíwt i'r arennau a gwella sepsis, sut i roi cyngor i grwpiau y tu allan i oriau ac 111 ar fabwysiadu NEWS a sgrinio sepsis mewn lleoliadau y tu allan i'r ysbyty, cyflwyno offer sepsis ac anaf acíwt i'r arennau yng ngwaith nyrsys ardal a thimau gofal canolraddol, a chydweithio gyda'r ddeoniaeth yma yng Nghymru ar leoliadau gwaith clinigol ar gyfer meddygon teulu dan hyfforddiant.
Mae safoni arferion gorau wedi arwain at safoni tebyg mewn dulliau hyfforddi a'r cwricwlwm. Offeryn e-ddysgu modiwlar yw RRAILS ar-lein a ddatblygwyd gan fwrdd iechyd Abertawe Bro Morgannwg mewn cydweithrediad gyda, ac wedi'i ariannu gan Gwella 1000 o Fywydau. Mae ar gael i sicrhau y bydd holl staff GIG Cymru, gan gynnwys myfyrwyr meddygol a gofal iechyd, yn gallu cael gafael ar yr un lefel o hyfforddiant. Mae'r data ar y defnydd a'r gyfradd sy'n llwyddo yn y modiwl hwnnw hyd yma eisoes wedi dangos bod 477 wedi llwyddo ar un o bob un o'r pum modiwl. Wrth gwrs, mae yna bob amser fwy i'w wneud, ond mae yna staff sy'n ei ddefnyddio. Ar fy ymweliadau rheolaidd o amgylch y sector ysbytai yn ogystal â'r tu allan i ysbytai, rwy'n gweld bod mwy o ymwybyddiaeth ymysg ein staff ynglŷn â sepsis ac ymwybyddiaeth ohono ac o'i ganlyniadau. Ond bydd y wybodaeth a gasglwyd o hyn yn cyfrannu at y data a gasglwyd yn rhan o broses barhaus yr adolygiadau gan gymheiriaid.
Rwy'n falch fod gennym berthynas waith dda iawn gydag Ymddiriedolaeth Sepsis y DU, sy'n aelod o grŵp llywio RRAILS. Mae gennym uchelgais cyffredin i godi ymwybyddiaeth a gwella'r ymateb i sepsis. Roeddwn yn hapus iawn i gael fy ngwahodd gan Angela Burns, fel cadeirydd y grŵp trawsbleidiol newydd, i fynychu'r cyfarfod ym mis Mawrth, pan gawsom gyfle i glywed drosom ein hunain rai o hanesion personol pobl yr effeithiwyd arnynt yn uniongyrchol gan sepsis, yn debyg iawn i'r hanes a roesoch wrth agor y ddadl hon, ac wrth gwrs, eich profiad eich hun hefyd.
Rwy'n gwybod bod cost erchyll ynghlwm wrth sepsis, nid yn unig o ran marwolaethau, ond fel y sonioch chi ac eraill, o ran yr effeithiau y mae'n rhaid i oroeswyr eu dioddef. Ac felly mae'n bwysig gwrando ar oroeswyr sepsis i glywed eu bod yn aml yn gorfod ymdopi â heriau corfforol a gwybyddol, sydd unwaith eto wedi cael sylw yn y ddadl, ac sy'n gallu newid eu bywydau mewn ffordd radical, a deall eu profiad fel rhan o'r hyn sy'n rhaid inni ei wneud wedyn er mwyn ymateb i geisio gwneud yn siŵr ein bod yn parhau i helpu'r person hwnnw i fyw eu bywydau mor llawn ag y bo modd.
Felly, rwy'n awyddus i ddeall yr anghenion ehangach a pha fath o drefniadau sydd angen eu rhoi ar waith i helpu i'w diwallu. Buaswn yn hapus i ddod i gyfarfod o'r grŵp trawsbleidiol i barhau'r sgwrs agored rwy'n ceisio ei sefydlu a'i pharhau. Rydym yn cydnabod na allwn wneud hyn ar ein pen ein hunain. Mae'n bwysig ein bod yn parhau i gydweithio gyda'r holl bartneriaid allweddol i gyflawni'r amcanion a rannwn. Dyna pam rwy'n falch fod yna brosiect cydweithredol rhwng Ymddiriedolaeth Sepsis y DU, rhaglen RRAILS, a rhaglen addysg i gleifion 1000 o Fywydau, gyda'r nod o gynnig cefnogaeth i bobl sydd â syndrom ôl-sepsis.
Hoffwn orffen drwy gydnabod a mynegi fy edmygedd personol o'r holl bobl sydd wedi siarad am eu profiadau o sepsis, pobl yr effeithiwyd arnynt yn uniongyrchol, pobl sydd wedi goroesi, gofalwyr, anwyliaid ac rwy'n cydnabod ymgyrch ddiflino'r bobl hyn i geisio sicrhau bod camau pellach yn cael eu rhoi ar waith, ond yn y pen draw, dylai hynny arwain at welliant pellach, fel bod mwy o fywydau'n cael eu hachub a mwy o bobl sy'n byw trwy sepsis yn cael eu cefnogi ar eu taith tuag at wellhad. Mae honno'n elfen hanfodol o'r frwydr a ymladdwn ar y cyd yn erbyn sepsis ac i sicrhau ein bod yn adeiladu ar ein dysgu drwy Gymru gyfan ac na fyddwn byth yn cymryd y cynnydd a wnaed gennym yn ganiataol, a'n bod yn canolbwyntio ar beth arall y gallem ac y dylem ei wneud.
Daw hynny â thrafodion heddiw i ben.