Part of 2. Cwestiynau i Arweinydd y Tŷ a'r Prif Chwip (ynghylch ei chyfrifoldebau polisi) – Senedd Cymru am 2:55 pm ar 18 Ebrill 2018.
Diolch, Lywydd. Drwy gyd-ddigwyddiad llwyr, mae fy nghwestiwn yn dilyn rhai o'r pethau a godwyd gan Sian Gwenllian yn gynharach.
Ym mis Ebrill 2015, pasiodd y Cynulliad Ddeddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015. Roedd hon yn ddeddfwriaeth ganmoladwy a luniwyd i ddiogelu, yn benodol, dioddefwyr benywaidd cam-drin domestig. Fel gydag unrhyw ddeddfwriaeth, mae'n ddyletswydd arnom i gwestiynu ei heffeithiolrwydd ar ôl cyfnod o amser. A yw arweinydd y tŷ yn credu bod y Ddeddf yn cyflawni ei nodau?