Part of 2. Cwestiynau i Arweinydd y Tŷ a'r Prif Chwip (ynghylch ei chyfrifoldebau polisi) – Senedd Cymru am 2:56 pm ar 18 Ebrill 2018.
Mae'n ddyddiau cynnar ar y Ddeddf o hyd, wrth gwrs; nid ydym ond newydd benodi'r ymgynghorwyr cenedlaethol newydd. Rwyf wedi cael nifer o gyfarfodydd hynod o ddefnyddiol ac adeiladol gyda hwy, gan gynnwys cyfarfod hanner diwrnod pan fuom yn trafod yr ystod o wasanaethau sy'n bodoli yng Nghymru ar hyn o bryd a beth sydd angen ei wneud i sicrhau eu bod yn gweithio mewn ffordd fwy cydweithredol. Yr wythnos hon, cefais y fraint o fynychu lansiad Consortiwm Seren Fôr ym Mae'r Gorllewin, sy'n croesawu'r dull cydweithredol hwnnw o ganlyniad i'n canllawiau cenedlaethol newydd. Felly, credaf fod y Ddeddf yn profi ei gwerth.
Roedd y cychwyn yn araf, fel y crybwyllodd Sian Gwenllian, ond credaf ein bod wedi cyrraedd bellach. Rydym ar fin cyhoeddi ein canllawiau ariannu cynaliadwy yn ogystal. Felly, credaf fod y Ddeddf yn un y gallwn fod yn falch iawn ohoni, ac mae'n dechrau gwneud y gwahaniaeth rydym yn disgwyl ac eisiau iddi ei wneud.