Part of 2. Cwestiynau i Arweinydd y Tŷ a'r Prif Chwip (ynghylch ei chyfrifoldebau polisi) – Senedd Cymru am 2:57 pm ar 18 Ebrill 2018.
Diolch i arweinydd y tŷ am ei hateb cynhwysfawr, ond nid yw'r ffigurau mewn perthynas â thrais rhywiol a cham-drin domestig yn galonogol o gwbl. Ym mis Mawrth 2017, dangosodd y data gynnydd o 23 y cant yn y math hwn o droseddu dros y tair blynedd flaenorol. Hyd yn oed o ystyried bod pobl yn fwy parod i roi gwybod am ddigwyddiadau o'r fath, mae'n dal i ddangos tueddiadau sy'n peri pryder. Fodd bynnag, yr hyn sy'n peri llawer mwy o bryder yw'r diffyg arian ar gyfer ymyriadau wedi i ddioddefwr wneud y penderfyniad dewr i adael y cartref lle y digwyddodd y cam-drin domestig, weithiau dros flynyddoedd lawer. Mae ffigurau'n dangos bod 47 y cant o ddioddefwyr o'r fath wedi cael eu gwrthod gan lochesau oherwydd diffyg llety. O ystyried bod y llochesau hyn yn chwarae rôl hanfodol yn helpu pobl i ddianc rhag trais domestig, a yw arweinydd y tŷ yn teimlo bod y cyllid yn ddigonol?