Part of 2. Cwestiynau i Arweinydd y Tŷ a'r Prif Chwip (ynghylch ei chyfrifoldebau polisi) – Senedd Cymru am 2:48 pm ar 18 Ebrill 2018.
Un o ddibenion yr adolygiad yw edrych ar bolisïau sy'n canolbwyntio ar rywedd ar draws Llywodraeth Cymru. Felly, dyna un enghraifft rydych newydd ei rhoi. Mae llawer o rai eraill yn ymwneud â sut a pham y mae gwasanaethau fel ag y maent yng Nghymru. Un o'r rhai rwy'n ei dyfynnu'n aml yw eich bod yn aml yn gweld gwasanaethau ar gyfer llochesau, er enghraifft, yn datblygu lle mae nifer o bobl wedi gweld yr angen ac wedi dod at ei gilydd ddegau o flynyddoedd yn ôl ac yna rydym wedi parhau â'r gwasanaeth hwnnw yn hytrach na dull sy'n seiliedig ar anghenion ledled Cymru. Nid bod unrhyw beth o'i le ar y gwasanaethau sydd yno, ond nid wyf yn gwbl argyhoeddedig fod gennym y cyrhaeddiad a bod pobl yn cael yr un profiad lle bynnag y maent yn defnyddio'r gwasanaethau hynny, oherwydd y ffordd y cânt eu datblygu a'r ffordd rydym—. Felly, mae hynny'n rhan o bwrpas yr adolygiad. Felly, rydych wedi tynnu sylw at un arall. Mae yna wasanaethau eraill—tynnwyd fy sylw at wasanaethau endometriosis, er enghraifft, ac mae nifer o rai eraill. Felly, ie, diben yr adolygiad yw edrych ar bolisïau ar draws Llywodraeth Cymru ac argaeledd gwasanaethau a chanolbwyntio ar yr hyn y gellid ei wneud i wella hynny.