Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 2. Cwestiynau i Arweinydd y Tŷ a'r Prif Chwip (ynghylch ei chyfrifoldebau polisi) – Senedd Cymru am 2:46 pm ar 18 Ebrill 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Siân Gwenllian Siân Gwenllian Plaid Cymru 2:46, 18 Ebrill 2018

Wel, rydw i'n falch iawn o glywed hynny ac mae'n hen bryd, os caf fi ddweud. Mae addysg yn allweddol, wrth gwrs, i daclo'r maes penodol yma.

Ddoe, fe soniodd rhai Aelodau yn y Siambr am yr adolygiad o wasanaethau iechyd rhywiol, sy'n tynnu sylw at y loteri cod post sy'n bodoli o ran gwasanaethau erthylu yng Nghymru. Mae'r adolygiad yn dweud hyn: mae gwasanaethau erthylu yng Nghymru yn anghyfartal ac fe all hyn arwain at erthyliadau hwyr neu i fenywod fod mewn sefyllfa lle nad oes ganddynt ddewis ond parhau â beichiogrwydd na fwriadwyd ganddynt. Yn glir, nid yw honno'n sefyllfa dderbyniol. A fydd yr adolygiad mawr yma rydych chi'n mynd i fod yn ei wneud yn mynd ar ôl hyn yn benodol o ystyried bod y ddarpariaeth yn hollol anghyfartal ar hyn o bryd? Mae o'n fater sydd rhaid ymdrin ag o os ydy'r sylwadau a wnaed gan y Prif Weinidog yn mynd i gael eu cymryd o ddifrif, neu fel arall fe fydd pobl yn meddwl mai geiriau gwag—dataganiad tocenistaidd—i'r wasg a wnaed yn fyrfyfyr yn Rhydychen?