Ceiswyr Lloches a Ffoaduriaid

Part of 2. Cwestiynau i Arweinydd y Tŷ a'r Prif Chwip (ynghylch ei chyfrifoldebau polisi) – Senedd Cymru am 3:11 pm ar 18 Ebrill 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Julie James Julie James Labour 3:11, 18 Ebrill 2018

(Cyfieithwyd)

Yn ddiddorol iawn, cododd hyn—. Bûm yn cadeirio'r fforwm rhyng-ffydd yn gynharach yr wythnos hon ac fe gafwyd sgwrs ynglŷn ag adnewyddu'r strategaeth hon a'r hyn y gallwn ei wneud i sicrhau bod ceiswyr lloches sydd â chymwysterau proffesiynol, sydd yn amlwg o ddefnydd enfawr iddynt hwy ac i'n heconomi, yn gallu manteisio i'r eithaf ar y cymwysterau hynny. Tynnwyd sylw yn y drafodaeth at yr ymgyrch lwyddiannus i sicrhau bod cymwysterau meddygon cymwysedig yn cael eu cydnabod yn gyflym a'u bod yn gallu gweithio yng Nghymru, ac mae nifer o—maddeuwch i mi, ni allaf gofio faint yn union—mae nifer fawr o bobl wedi cwblhau'r rhaglen honno'n llwyddiannus. Felly, rydym wrthi'n edrych i weld beth y gallwn ei wneud i adnewyddu'r rhaglen honno, nid yn unig yn y prifysgolion, ond yn gyffredinol ar gyfer pobl sydd â chymwysterau proffesiynol a chymwysterau eraill y gallent eu defnyddio.