Part of 2. Cwestiynau i Arweinydd y Tŷ a'r Prif Chwip (ynghylch ei chyfrifoldebau polisi) – Senedd Cymru am 3:12 pm ar 18 Ebrill 2018.
Rwy'n gwneud llawer gyda cheiswyr lloches a ffoaduriaid, yn Nghastell-nedd Port Talbot ac Abertawe, ac mae'n ymddangos i mi fod llawer o broblemau o hyd mewn perthynas ag arwahanrwydd a thrafnidiaeth. Mae rhai o'r bobl rwy'n cyfarfod â hwy yn famau sengl gyda thri neu bedwar o blant ac maent yn ei chael hi'n fwyfwy anodd cludo gwahanol blant i wahanol leoedd ar wahanol adegau, ac ymrestru wedyn ar gyfer dosbarthiadau Saesneg i siaradwyr ieithoedd eraill neu gyrsiau mynediad coleg.
Felly, tybed a allech chi gael golwg arall ar y mater hwn, yn ogystal â'r ail fater yr hoffwn ei ddwyn i'ch sylw, sef y ffaith bod gwaith ymchwil rwyf wedi'i wneud yn dangos nad yw ceiswyr lloches yn gallu gwneud gwaith gwirfoddol yn y sector preifat. Rwyf wedi siarad â rhai ceiswyr lloches yn Abertawe sy'n dymuno gwirfoddoli mewn salon gwallt lleol oherwydd bod ganddynt ddiddordeb mewn datblygu eu sgiliau yn y maes hwn, ond dywedwyd wrthynt, oherwydd rheoliadau'r Swyddfa Gartref, eu bod yn cael gwirfoddoli mewn elusen ond ni chânt wirfoddoli mewn busnes. Mae hynny'n cyfyngu ar eu hymdrechion personol i ehangu eu gorwelion. Maent yn gwybod yn iawn na allant weithio am arian, ond maent eisiau gallu gweithio ar sail wirfoddol mewn busnes lleol. Felly, buaswn yn falch iawn pe gallech edrych ar y ddwy agwedd hon.